(Cwrs Byr) Egwyddorion Trin Clwyfau
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
5 diwrnod (1 wythnos)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Wedi ei ddylunio
mewn ymgynghoriad ag arweinyddion clinigol yng Ngogledd Cymru gan eich galluogi i archwilio ystod eang o themâu ym maes gofal clwyfau
Ymagwedd ryngbroffesiynol
i gydweithio er budd y claf
Byddwch yn rhan
o drafodaeth agored am rai o elfennau cadarnhaol trin clwyfau ac elfennau mwy heriol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r modiwl annibynnol hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u hymarfer ym maes darpariaeth gofal clwyfau clinigol. Mae’n cynnig dull rhyngbroffesiynol tuag at ddarparu gofal clwyfau mewn nifer o leoliadau clinigol.
- Byddwch yn astudio mewn modd cydweithredol er mwyn ystyried materion ehangach rheoli gofal clwyfau i wella gofal i gleifion, gan ddefnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth i danategu’r ddarpariaeth.
- Yr asesiad terfynol yw portffolio hyfforddiant gofal clwyfau a fydd yn benodol i’ch amgylchedd clinigol. Mae hyn yn creu offer ymarferol ichi ei ddefnyddio yn ôl yn eich maes clinigol. Mae’n werth nodi y byddwch yn rhannu eich gwaith (unwaith i’r gwaith gael ei gyflwyno a’i farcio) er mwyn ehangu’r adnoddau addysgol ar gyfer eich timoedd.
Prif nodweddion y cwrs
- Fe’i cyflwynir wyneb yn wyneb ar y campws am un wythnos i’ch galluogi i drefnu amser astudio allan o’ch lleoliad clinigol er mwyn gwella’r dysgu. Ategir hyn gan adnoddau ar-lein pellach gan gynnig dull cyfunol.
- Yn cysylltu’r sylfaen dystiolaeth gyfredol am ofalu am glwyfau ag ymarfer clinigol/cyflogaeth myfyrwyr.
- Mae’r asesiad ar ffurf portffolio hyfforddi ar ofal clwyfau y gellir ei ddefnyddio mewn meysydd o ymarfer clinigol, gan rannu’r deunydd a ddysgwyd â chydweithwyr a myfyrwyrAssessment.
- Ar gael i nyrsys cofrestredig, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a staff meddygol.
- Yn galluogi myfyrwyr i rwydweithio ag ymarferwyr eraill yn y rhanbarth i annog cysylltiadau ehangach.
- Byddwch yn ennill 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl cwblhau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Datblygwyd y modiwl hwn mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr lleol i wella mynediad at addysg gofal clwyfau arbenigol yn y rhanbarth ac mae’n cynnwys:
- Asesu clwyfau
- Iachau clwyfau a ffactorau cysylltiedig
- Clwyfau aciwt
- Clwyfau cronig
- Wlserau pwyso
- Mathau a dewisiadau rhwymo
- Clwyfau heriol/cymhleth
- Gwneud penderfyniadau a diogelu
- Symptomau cysylltiedig
Defnyddir astudiaethau achos clinigol i gefnogi’r dysgu ac i greu trafodaeth/dadl effeithiol.
Mae hwn yn fodiwl rhan-amser annibynnol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael mwy o wybodaeth ym maes gofal clwyf. Bydd elfennau craidd y gofal clwyf yn cael eu harchwilio trwy amrywiaeth o arddulliau addysgu a bydd siaradwyr arbenigol y tu allan yn cael eu defnyddio i annog dysgu ehangach.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Rhagofynion:
- Gweithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd (Nyrs, Bydwraig, Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Doctor ac ati)
Mae hwn yn gwrs rhan-amser ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i wella gofal clwyfau yn eu hamgylchedd clinigol.
Mae archebu lle yn amodol ar rifau. Mae uchafswm o 40 lle ar gyfer y cwrs hwn.
Addysgu ac Asesu
Cyflwynir y modiwl tros 5 diwrnod olynol (1 wythnos), wyneb yn wyneb ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, grwpiau trafod a deunyddiau ar-lein i’w harchwilio.
Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cyflwyno o 9am-4pm, gyda 4-5pm wedi ei neilltuo ar gyfer cymorth tiwtorial ar gyfer myfyrwyr y modiwlau.
Mae cymorth dysgu ar gael o ddechrau’r modiwl, gyda chyflwyniad i’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle).
Fe’ch anogir i fanteisio ar gymorth pellach yn ôl yr angen gan y Tiwtoriaid Sgiliau Academaidd, yr Hwyluswyr Dysgu Digidol a’n Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd.
Mae’r asesiad ar ffurf portffolio hyfforddi gofal clwyfau ar gyfer amgylchedd clinigol penodol (3500-4000 gair yn ddibynnol ar lefel y modiwl) a fydd yn cynnwys:
- archwilio natur clwyfau acíwt a / neu gronig o'ch maes clinigol penodol
- asesu ac yn rheoli clwyfau syml a chymhleth
- dadansoddiad beirniadol o reoli symptomau
- asesu'r diogelwch / risgiau sy'n gysylltiedig â'r rhai a ddewiswyd yn teipio
Mae’r asesiad i’w gyflwyno tua 4 wythnos wedi diwedd cyflwyno’r modiwl.
Rhagolygon gyrfaol
Nyrsys cofrestredig, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a staff meddygol
Mae hefyd yn dod yn fwyfwy perthnasol i barafeddygon a’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cyn mynd i’r ysbyty i atal derbyniadau i’r ysbyty. Mae modd gwneud y modiwl hwn hefyd fel modiwl wedi’i drafod tuag at raglen MSc lawer mwy.
Ffioedd a chyllid
£750 ar Lefel 6 (am bob 10 credyd)
£500 ar Lefel 7(am bob 10 credyd)
Modiwl 20 credyd yw Asesu a Rheoli Mân Salwch
Dyddiadau cyrsiau
Sylwch na fydd y cwrs hwn yn rhedeg yn y cylch 2024 / 2025
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.