(Cwrs Byr) Ffrangeg A2 (Is-Ganolradd)

Eiffel tower in Paris

Manylion cwrs

Hyd y cwrs

12 wythnos

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i ehangu eu sgiliau sydd eisoes yn bodoli wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith Ffrangeg.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac mewn person
  • Enillwch wybodaeth fwy datblygedig am yr iaith Ffrangeg
  • Ymarferwch eich galluoedd siarad Ffrangeg, gwrando, darllen ac ysgrifennu

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn Ffrangeg
  • Pynciau o fewn cyd-destunau cymdeithasol a gwaith, er enghraifft, disgrifio arferion dyddiol, hoff hobïau, mynegi teimladau a barn mewn termau syml
  • Gwrando am wybodaeth benodol
  • Ysgrifennu darnau byr o destun sy'n berthnasol i'r sefyllfaoedd uchod
  • Deall gwybodaeth berthnasol mewn fformatau yn cynnwys taflenni i dwristiaid, cyfarwyddiadau a deunyddiau hyrwyddo

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd myfyrwyr angen dealltwriaeth bresennol o'r iaith Ffrangeg.

Addysgu ac Asesu

Sgiliau sgwrsio yn Ffrangeg, gan ddefnyddio 2 ddrama fer o natur bob dydd a thrafodaeth rydd estynedig Sgiliau ysgrifennu: testun byr (120 gair), er enghraifft, llythyr sgiliau darllen: darllen a deall testun ac ateb cwestiynau yn Saesneg Sgiliau gwrando: Gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£150 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol nad ydynt yn Wrecsam

£50 i fyfyrwyr a staff Prifysgol Wrecsam

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

dyddiadau cyrsiau

Bydd y cwrs yn dechrau ar 12 Mai 2023 ac yn gorffen 31 Gorffennaf 2023.  Rhestrir sesiynau y cwrs, amseroedd a fformat isod:

12 Mai – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh

15 Mai – Sesiwn wyneb yn wyneb rhwng 5:00yh a 7:00yh
17 Mai – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
26 Mai – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
24 Mai – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
31 Mai – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
2 Mehefin – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
5 Mehefin – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
7 Mehefin – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
12 Mehefin – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
14 Mehefin – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
19 Mehefin – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
21 Mehefin – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
26 Mehefin – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
28 Mehefin – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
3 Gorffennaf – Sesiwn wyneb yn wyneb o 5:00yh tan 7:00yh
5 Gorffennaf – Sesiwn ar-lein rhwng 5:00yh a 6:00yh
10 Gorffennaf – Sesiwn wyneb yn wyneb rhwng 5:00yh a 7:00yh
12 Gorffennaf – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
17 Gorffennaf– Sesiwn wyneb yn wyneb rhwng 5:00yh a 7:00yh
19 Gorffennaf – Sesiwn ar-lein rhwng 5:00yh a 6:00yh
24 Gorffennaf – Sesiwn wyneb yn wyneb rhwng 5:00yh a 7:00yh
26 Gorffennaf – Sesiwn ar-lein o 5:00yh tan 6:00yh
31 Gorffennaf – Sesiwn wyneb yn wyneb rhwng 5:00yh a 7:00yh