(Cwrs Byr) Sbaeneg A2 (Is-Ganolradd)

Spanish Flag

Manylion cwrs

Hyd y cwrs

12 wythnos

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i ehangu eu sgiliau sydd eisoes yn bodoli wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith Sbaeneg.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac mewn person
  • Enillwch wybodaeth fwy datblygedig am yr iaith Sbaeneg
  • Ymarferwch eich galluoedd siarad Sbaeneg, gwrando, darllen ac ysgrifennu

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn Sbaeneg
  • Pynciau o fewn cyd-destunau cymdeithasol a gwaith, er enghraifft, disgrifio arferion dyddiol, hoff hobïau, mynegi teimladau a barn mewn termau syml
  • Gwrando am wybodaeth benodol
  • Ysgrifennu darnau byr o destun sy'n berthnasol i'r sefyllfaoedd uchod
  • Deall gwybodaeth berthnasol mewn fformatau yn cynnwys taflenni i dwristiaid, cyfarwyddiadau a deunyddiau hyrwyddo

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd myfyrwyr angen dealltwriaeth bresennol o'r iaith Sbaeneg.

Dechreuwyr Sbaeneg

Addysgu ac Asesu

  • Sgiliau sgwrsio yn Sbaeneg, gan ddefnyddio 2 ddrama fer o natur bob dydd a thrafodaeth rydd estynedig
  • Sgiliau ysgrifennu: testun byr (120 gair), er enghraifft, llythyr
  • Sgiliau darllen: darllen a deall testun ac ateb cwestiynau yn Saesneg
  • Sgiliau gwrando: Gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£150 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr nad ydynt yn Wrecsam
£50 i fyfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau’r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn dechrau dydd Mawrth 16 Mai 2023. Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn PGW yn rhedeg bob dydd Mawrth rhwng 6:00yh a 9:00yh.