(Cwrs Byr) Cynllunio Cyfryngau Cymdeithasol
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae presenoldeb digidol cryf yn rhoi llwyfan i'ch busnes ymgysylltu â'ch defnyddwyr. Bydd ein cwrs byr Cynllunio Cyfryngau Cymdeithasol yn eich tywys wrth weithio tuag at gefnogi eich nodau busnes ehangach gan ddefnyddio eich cyfryngau cymdeithasol.
Dysgwch sut i redeg sawl llwyfan cymdeithasol ac archwiliwch arferion gorau o gwmpas sut i ddefnyddio ystod o offer marchnata digidol a dadansoddeg a mesur. Cadwch ar ben eich presenoldeb digidol a dysgwch y ffordd orau o gynllunio a chrwydro eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Prif nodweddion y cwrs
• Lluniwch eich cynllun marchnata cyfryngau cymdeithasol eich hun, yn seiliedig ar sefydliad o'ch dewis (eich cyflogwr fel rheol).
• Cael cymorth yn ogystal â chyfleoedd i drafod gyda chydfyfyrwyr drwy drafodaethau dan arweiniad ar y fforymau ar-lein
• Defnyddio ystod o offer marchnata digidol, cynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddeg a mesur.
Beth fyddwch chin ei astudio
• Datblygu Persona
• Marchnata Cynnwys
• Cyflwyniad i Optimeiddio Peiriannau Chwilio
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i chi ymgymryd â phrosiect o adeiladu cynllun marchnata cyfryngau cymdeithasol , yn seiliedig ar wella perfformiad marchnata digidol ar gyfer sefydliad o’ch dewis, fel arfer eich sefydliad. Mae'r cynllun yn adlewyrchu'r cynnwys wythnosol ac yn seiliedig ar dempled ymarferol a ddarperir.
Bydd y fforymau yn eich galluogi i adlewyrchu a dangos eich dysgu. Y disgwyliad ar gyfer cyfrif geiriau'r cynllun gwella yw 500 - 1,000 o eiriau.
Ffioedd a chyllid
£45
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.