Tystysgrif mewn Goruchwyliaeth Cwnsela

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2026
Hyd y cwrs
19 Wythnos (gan gynnwys lleoliad)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r Dystysgrif mewn Goruchwylio yn gwrs newydd a chyffrous a gyflwynir ym Mhrifysgol Wrecsam, fel rhan o raglen DPP sy’n prysur ddatblygu.
Gan ddefnyddio cwricwlwm hyfforddiant goruchwylio Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), bydd y cymhwyster hwn yn cael ei arwain gan staff addysgu a chanddynt fwy nag 20 mlynedd o brofiad goruchwylio. Trwy gyfrwng cyfuniad o theori ac ymarfer, a fydd yn cwmpasu’r ymchwil ddiweddaraf, cewch eich cyflwyno â gwybodaeth am dasgau, prosesau a swyddogaethau goruchwylio, yn ogystal â’r sgiliau a enillir trwy gyfrwng ymarfer drwy brofiadau. Bydd y cwrs yn eich galluogi i wneud y canlynol:
• Sefydlu eich ymarfer goruchwylio eich hun yn hyderus
• Cymhwyso’r pethau a ddysgwch at amrywiaeth o leoliadau proffesiynol cymhleth
• Ymestyn eich datblygiad fel y gallwch fod yn ymarferydd myfyriol ac ymatblyg
• Rheoli materion yn ymwneud â gwahaniaeth ac amrywiaeth
• Gwella eich ymarfer cyfredol.
Prif nodweddion y cwrs
- Bydd y cymhwyster lefel 6 hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich ymarfer cwnsela.
- Bydd y dulliau addysgu’n cynnwys trafod pynciau ymhlith y cyfranogwyr a’r staff addysgu, gan ei gwneud yn bosibl i’r ‘goruchwylydd mewnol’ gael ei glywed.
- Mae’r man diogel ar gyfer cyflwyno’r cwrs yn cynnwys ystafelloedd bach pwrpasol sy’n addas i waith triawd.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae’r Dystysgrif hon yn cynnwys dau fodiwl. Bydd y modiwl theori yn cynnig dealltwriaeth o’r canlynol:
- Mapiau a modelau o’r broses oruchwylio, gan ganolbwyntio’n arbennig ar fframwaith y model a luniwyd gan Hawkins a Shohet, sef y ‘Model Goruchwylio Saith Agwedd’.
- Sut i greu cynghrair gweithio effeithiol.
- Y cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol sy’n perthyn i ymarfer goruchwylio, yn cynnwys contractio, asesu risgiau, cadw cofnodion proffesiynol a materion yn ymwneud â ffiniau.
- Y gwahanol sgiliau y mae eu hangen ar gyfer goruchwylio’n unigol ac mewn grwpiau.
- Yr ymwybyddiaeth y mae ei hangen wrth weithio gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bydd y modiwl ymarfer yn eich galluogi i wneud y canlynol:
- Ymarfer eich sgiliau goruchwylio mewn triawdau, ar ffurf y sawl a gaiff ei oruchwylio, y goruchwylydd a’r arsylwr, lle byddwch hefyd yn rhoi ac yn derbyn adborth.
- Cael profiad o oruchwylio mewn grwpiau ac arbrofi gyda dulliau creadigol fel proses a rennir, gan ddefnyddio adnoddau gan y staff addysgu a’r cyfranogwyr.
- Gwella eich sgiliau o ran hunanwerthuso’r broses oruchwylio.
Gofynion mynediad a gwneud cais
- Cymhwyster Lefel 5 mewn Cwnsela ac aelodaeth gyfredol o gorff llywodraethu cydnabyddedig.
- 450 awr o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth.
- Bydd ceisiadau llwyddiannus yn seiliedig ar fod â goruchwyliaeth a lleoliad clinigol mewn lle eisoes
Gwahoddir pob ymgeisydd y mae eu ffurflenni'n argymell y cynnig fod yn addas ar gyfer y rhaglen i chyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Bydd y dull addysgu’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai sgiliau, tasgau drwy brofiadau a thasgau creadigol, cyflwyniadau, deunyddiau clyweledol, a lleoliad. Bydd y gwaith o addysgu goruchwylio ar-lein a dros y ffôn yn cael ei wneud ar-lein.
Byddwch yn cael eich asesu ar sail aseiniad 4,000 o eiriau a chyflwyniad byr. Hefyd, bydd tystiolaeth o’r pethau a ddysgwyd gennych yn cael ei hasesu trwy gyfrwng portffolio o’r lleoliad goruchwylio clinigol, yn cynnwys 15 awr fan leiaf o ymarfer dan oruchwyliaeth a 5 awr o oruchwyliaeth yn y lleoliad.
Ffioedd a chyllid
£1,600 (£800 fesul modiwl)
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: W/C Dydd Llun 19 Hydref 2026
Wythnos 1 - 6 -sesiynau wyneb yn wyneb - campws wrecsam. Dydd Iau 9:00 yb - 16:00 yp
Wythnos 6 -16 -
Wythnos 16 - 19 - sesiynau wyneb yn wyneb - campws wrecsam - Dydd Iau 9:00 yb - 16:00 yp
