A counselling student smiles, her notebook open on her lap

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

22 Wythnos (gan gynnwys lleoliad)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r Dystysgrif mewn Goruchwylio yn gwrs newydd a chyffrous a gyflwynir ym Mhrifysgol Wrecsam, fel rhan o raglen DPP sy’n prysur ddatblygu.

Gan ddefnyddio cwricwlwm hyfforddiant goruchwylio Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), bydd y cymhwyster hwn yn cael ei arwain gan staff addysgu a chanddynt fwy nag 20 mlynedd o brofiad goruchwylio. Trwy gyfrwng cyfuniad o theori ac ymarfer, a fydd yn cwmpasu’r ymchwil ddiweddaraf, cewch eich cyflwyno â gwybodaeth am dasgau, prosesau a swyddogaethau goruchwylio, yn ogystal â’r sgiliau a enillir trwy gyfrwng ymarfer drwy brofiadau. Bydd y cwrs yn eich galluogi i wneud y canlynol:

•    Sefydlu eich ymarfer goruchwylio eich hun yn hyderus
•    Cymhwyso’r pethau a ddysgwch at amrywiaeth o leoliadau proffesiynol cymhleth
•    Ymestyn eich datblygiad fel y gallwch fod yn ymarferydd myfyriol ac ymatblyg
•    Rheoli materion yn ymwneud â gwahaniaeth ac amrywiaeth
•    Gwella eich ymarfer cyfredol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y cymhwyster lefel 6 hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich ymarfer cwnsela.
  • Bydd y dulliau addysgu’n cynnwys trafod pynciau ymhlith y cyfranogwyr a’r staff addysgu, gan ei gwneud yn bosibl i’r ‘goruchwylydd mewnol’ gael ei glywed.
  • Mae’r man diogel ar gyfer cyflwyno’r cwrs yn cynnwys ystafelloedd bach pwrpasol sy’n addas i waith triawd.
  • Bydd y gwaith o addysgu goruchwylio dros y ffôn ac ar-lein yn cael ei gynnal ar-lein, gan roi cyfle ichi ymarfer yn ddiogel ac yn foesegol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r Dystysgrif hon yn cynnwys dau fodiwl. Bydd y modiwl theori yn cynnig dealltwriaeth o’r canlynol:

  • Mapiau a modelau o’r broses oruchwylio, gan ganolbwyntio’n arbennig ar fframwaith y model a luniwyd gan Hawkins a Shohet, sef y ‘Model Goruchwylio Saith Agwedd’.
  • Sut i greu cynghrair gweithio effeithiol.
  • Y cyfrifoldebau moesegol a chyfreithiol sy’n perthyn i ymarfer goruchwylio, yn cynnwys contractio, asesu risgiau, cadw cofnodion proffesiynol a materion yn ymwneud â ffiniau.
  • Y gwahanol sgiliau y mae eu hangen ar gyfer goruchwylio’n unigol ac mewn grwpiau.
  • Yr ymwybyddiaeth y mae ei hangen wrth weithio gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Bydd y modiwl ymarfer yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Ymarfer eich sgiliau goruchwylio mewn triawdau, ar ffurf y sawl a gaiff ei oruchwylio, y goruchwylydd a’r arsylwr, lle byddwch hefyd yn rhoi ac yn derbyn adborth.
  • Cael profiad o oruchwylio mewn grwpiau ac arbrofi gyda dulliau creadigol fel proses a rennir, gan ddefnyddio adnoddau gan y staff addysgu a’r cyfranogwyr.
  • Gwella eich sgiliau o ran hunanwerthuso’r broses oruchwylio.

Gofynion mynediad a gwneud cais

  • Cymhwyster Lefel 5 mewn Cwnsela ac aelodaeth gyfredol o gorff llywodraethu cydnabyddedig.
  • 450 awr o ymarfer cwnsela dan oruchwyliaeth.
  • Bydd ceisiadau llwyddiannus yn seiliedig ar fod â goruchwyliaeth a lleoliad clinigol mewn lle eisoes

Gwahoddir pob ymgeisydd y mae eu ffurflenni'n argymell y cynnig fod yn addas ar gyfer y rhaglen i chyfweliad. 

Addysgu ac Asesu

Bydd y dull addysgu’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai sgiliau, tasgau drwy brofiadau a thasgau creadigol, cyflwyniadau, deunyddiau clyweledol, a lleoliad. Bydd y gwaith o addysgu goruchwylio ar-lein a dros y ffôn yn cael ei wneud ar-lein.

Byddwch yn cael eich asesu ar sail aseiniad 4,000 o eiriau a chyflwyniad byr. Hefyd, bydd tystiolaeth o’r pethau a ddysgwyd gennych yn cael ei hasesu trwy gyfrwng portffolio o’r lleoliad goruchwylio clinigol, yn cynnwys 15 awr fan leiaf o ymarfer dan oruchwyliaeth a 5 awr o oruchwyliaeth yn y lleoliad.

Ffioedd a chyllid

£1,600 (£800 fesul modiwl)

Dyddiadau'r cwrs

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mawrth Tachwedd 12 2024 - Gwneud Cais

Wythnos 1 - 4  -sesiynau wyneb yn wyneb - campws wrecsam. Dydd Mawrth 9:00 yb - 16:00 yp

Wythnos 5 - 6 - sesiynau ar-lein - Dydd Mawrth 9:00 yb - 16:00 yp

Wythnos 7 - 16 - Leoliad

  • Dim addysgu ffurfiol am 10 wythnos pan fydd myfyrwyr ar leoliad 
  • Sesiynau tiwtorial grŵp wedi'u trefnu ymlaen llaw, sy'n cynnwys 5 sesiwn 90 munud  bob yn ail wythnos. 
  • Cymorth tiwtorial unigol ar gael drwy gydol y cyfnod hwn ar gais y myfyriwr. 

Wythnos 17 - 22 - sesiynau wyneb yn wyneb - campws wrecsam - Dydd Mawrth 9:00 yb - 16:00 yp