science labs

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

4 Wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill y wybodaeth a'r sgiliau gwyddonol sylfaenol a ddisgwylir gan fyfyriwr sy'n dechrau ar radd mewn gwyddoniaeth?

 Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth, technegau ymarferol ar gyfer gwaith yn y labordy, a'r sgiliau ymchwiliol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth wyddonol bellach mewn addysg uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs, cewch gyfle i fynd ymlaen i un o'n rhaglenni gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol fel Fforenseg neu Gwyddorau Biofeddygol. 

 

Prif nodweddion y cwrs

Bydd y rhaglen hon yn eich cyflwyno i gysyniadau cyffredinol ac egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth naturiol, yr athroniaeth y tu ôl i ymchwil wyddonol a hanes ei datblygiad. Bydd yn eich galluogi i gael dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn dylanwadu ar, ac yn cael eu dylanwadu gan gymdeithas gyfoes. Byddwch yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am ddulliau labordy allweddol mewn bioleg a chemeg, yn enwedig ymarfer gweithio diogel mewn technegau labordy ac offer. Byddwch hefyd yn cynllunio a gweithredu arbrawf labordy neu faes ac yn datblygu eich sgiliau dehongli a chyflwyno data.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r ysgol haf yn cynnwys tri modiwl pwnc ar gyfer pob myfyriwr ac un modiwl Saesneg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol (cyfanswm o 80 credyd).

  • (SCI455) Sgiliau Ymchwiliol ar gyfer Gwyddoniaeth, Lefel 4, 20 credyd 
  • (SCI456) Technegau Ymarferol mewn Gwyddoniaeth, Lefel 4, 20 credyd 
  • (SCI457) Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth, Lefel 4, 20 credyd
  • (LAN474) Saesneg ar gyfer STEM, Lefel 4, 20 credyd 

Mae'r pynciau a fydd yn cael sylw ar y cwrs yn cynnwys:

  • Cysyniadau allweddol mewn cemeg, bioleg a mathemateg
  • Iaith wyddonol a therminoleg
  • Athroniaeth a methodoleg mewn gwyddoniaeth naturiol.
  • Defnyddio graffiau a siartiau i ddehongli data gwyddonol.
  • Sefydlu a defnyddio amrywiaeth o offer labordy.
  • Technegau offerynnol fel titrations, gwahanu, microsgopeg, a colorimetry
  • Sgiliau ysgrifennu gwyddonol a chyfathrebu
  • Arfer da mewn labordy, gan gynnwys asesiadau risg a moeseg.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae ein cyrsiau yn agored i fyfyrwyr dros 16 oed, beth bynnag fo'ch cefndir neu wlad breswyl.

Nid yw'r Ysgol Haf yn gofyn bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am y pynciau, ac felly mae'n gyfle delfrydol i ddarganfod pwnc hollol newydd neu ddiddordeb personol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr rhyngwladol ar yr Ysgol Haf fod ar lefel B2 (neu gyfwerth) yn Saesneg.

Myfyrwyr y DU:

Gyda Llety - £795 
Heb Llety - £295 

Myfyrwyr Rhyngwladol:

Gyda Llety- £1750 
Heb Llety  - £1250

Addysgu ac Asesu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Ffioedd a chyllid

Myfyrwyr y DU:

Gyda Llety - £795
Heb Llety - £295

Myfyrwyr Rhyngwladol:

Gyda Llety- £1750 
Heb Llety  - £1250

Mae'r gost yn cynnwys hyfforddiant technegol, offer amddiffynnol personol, hyfforddiant Saesneg a gweithgareddau penwythnos 2x. 
Nid yw'r costau'n cynnwys cludiant i/o faes awyr, bwyd, gweithgareddau allgyrsiol 

*Mae galw mawr am y cyrsiau hyn yn aml gydag uchafswm o 30 lle ar gael, a gynigir ar sail y cyntaf i'r felin. Fodd bynnag, os nad oes gan gwrs ddigon o fyfyrwyr wedi'i gofrestru, ni fydd yn cael ei gynnig. Mewn digwyddiad o'r fath, bydd unrhyw fyfyriwr cofrestredig yn cael cynnig rhaglen arall neu yn cael ad-daliad llawn o unrhyw ffioedd a dalwyd.

Llety

Myfyrwyr y DU:

Gyda Llety - £795 
Heb Llety - £295 

Myfyrwyr Rhyngwladol:

Gyda Llety- £1750 
Heb Llety  - £1250

 

 

 

Dyddiadau Cyrsiau

Dydd Llun 4 Awst 2025 - Dydd Gwener 29 Awst 2025