BA (Anrh) Ffotograffiaeth (gyda blwyddyn sylfaen)
Manylion cwrs
Côd UCAS
W600
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
48-72
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cysylltiadau diwydiant cryf
gan gynnwys siaradwyr gwadd proffesiynol
Tîm addysgu profiadol
o'r diwydiannau creadigol proffesiynol
Arddangoswch eich gwaith
mewn sioe radd diwedd blwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
Fe’i datblygwyd ar gyfer myfyrwyr a chanddynt ddiddordeb brwd mewn ffotograffiaeth annibynnol, mae’r rhaglen aml-genre arloesol hon yn cyfuno ymarfer, theori a phroffesiynoldeb. P’un ai a yw’n well gennych weithio gyda’r ddelwedd lonydd neu symudol, gallwch archwilio byd ffotograffiaeth o safbwynt creadigol a chysyniadol ar ein cwrs gradd...
ysbrydoledig, heriol a buddiol.
Bydd myfyrwyr yn:
- Canfod amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys sut y gellir defnyddio’r lens mewn modd creadigol, fel cyfrwng ar gyfer dweud storïau, ynghyd â thechnegau camera arbenigol ac arbrofol, goleuadau ar gyfer gwaith mewn stiwdio ac mewn lleoliadau eraill, a golygu a gwaith ôl-gynhyrchu.
- Cael eu hannog i feithrin dulliau unigryw o fynd i’r afael â’r disgyblaethau ffotograffiaeth.
- Datblygu ac ymchwilio eich syniadau eich hun mewn perthynas â briffiau prosiectau, gan ddysgu’r sgiliau trosglwyddadwy y mae eu hangen i weithio fel rhywun proffesiynol, llawn dychymyg.
- Creu a chynhyrchu syniadau trwy waith mewn stiwdio a lleoliadau eraill.
- Cael eich arwain i gyflwyno gwaith ar gyfer orielau rhyngwladol, datganiadau, gwyliau, dramâu, rhaglenni dogfen, hysbysebion, cyfryngau cerdd a ffurfiau eraill ar ddelweddau digidol ac effeithiau gweledol.
Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.
- Cysylltiadau agos â sefydliadau diwylliannol a chreadigol ar hyd a lled y Gogledd Orllewin a Chymru megis yr Open Eye Gallery, FfotoGallery Newport, Tate Liverpool, a FACT Foundation for Art and Creative Technology.
- Mynediad i’r Stiwdio Ffotograffiaeth Cromlin Anfeidrol (‘Infinity-Curve’) newydd sydd wedi’i hadeiladu ar raddfa fawr, a hynny yn ôl safon y diwydiant – y cyntaf o’i math yng Ngogledd Cymru!
- Cysylltiadau â’r prif orielau a sefydliadau celf o bob cwr o’r Gogledd Orllewin, sy’n cynnig cymorth a chyngor, teithiau a sgyrsiau, yn ogystal ag adolygiadau o bortffolios.
- Teithiau maes rheolaidd i stiwdios, orielau, yn ogystal â gwyliau ffotograffiaeth a ffilm.
- Cewch fod yn rhan o arddangosfa sioe diwedd blwyddyn y cwrs gradd.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
Mae Blwyddyn 1, yn darparu sgiliau rhagarweiniol o ran dylunio, a datblygir sgiliau dadansoddi beirniadol. Ceir pwyslais ar ddatrys problemau creadigol a methodolegau ymchwil sylfaenol.
MODIWLAU
- Cyd-destunau 1
- Cyfathrebu Gweledol
- Cyfryngau sy’n Seiliedig ar Olau a Lensys
- Ymarferion Cyfoes
- Amser fel Iaith Weledol
- Cyflwyniad i’r Diwydiant
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
Bydd Lefel 5 yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwilio a methodolegau dylunio. Byddwch yn canolbwyntio ar gyfuno theori ac ymarfer, gyda phwyslais ar dueddiadau sy’n datblygu.
MODIWLAU
- Cyd-destunau 2
- Iaith Weledol a Chyd-destunau Diwylliannol
- Argraffu a Chynhyrchu
- Astudiaeth Arbenigol
- Dyfodol Creadigol: Gwneud Bywoliaeth
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
Yn ystod astudiaethau Lefel 6, canolbwyntir ar sgiliau ymchwilio ar lefel uchel, ynghyd â meddwl yn feirniadol ac ymarfer proffesiynol. Ceir prosiectau annibynnol a bydd eich gwaith cydweithredol yn dangos dealltwriaeth a’r gallu i weithio ar lefel uwch.
MODIWLAU
- Ymarfer ar Ffurf Ymchwil: Ffotograffiaeth
- Cyflwyno eich Ymarfer i Gynulleidfa: Ffotograffiaeth
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48-72 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Caiff dawn a phrofiad eu hystyried hefyd. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd. Rhoddir y gofynion mynediad hyn fel canllaw ac maen nhw'n adlewyrchu lefel gyffredinol yr ymgeiswyr y cynigir lle iddyn nhw. Caiff pob ymgeisydd eu cyfweld a gofynnir iddynt ddangos portffolio o'u gwaith.
Addysgu ac Asesu
Er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'n greadigol, rhoddir adborth ffurfiannol a chrynodol.
Mae asesiad ffurfiannol sy'n cynnig cyngor ar sut i wella'ch gwaith yn digwydd ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg. Mae hyn yn rhoi amser i fyfyrwyr fyfyrio ar eu cynnydd cyn asesiad terfynol neu grynodol.
Dyluniwyd yr asesiad i alluogi myfyrwyr i gymryd rhan wrth fesur eu cynnydd eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno amryw o waith cwrs gan gynnwys cyfnodolyn / blog myfyriol ar-lein, llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gweithiau celf gorffenedig, gwaith ar y sgrin, gosodiadau, ffeiliau technegol / cynhyrchu, traethodau a chyflwyniadau clyweledol.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O ddod o hyd i waith neu astudiaethau pellach, i sylweddoli eich diddordebau, eich sgiliau a'ch dyheadau, gall roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd eich gradd yn eich paratoi i weithio yn y diwydiannau dylunio, ffilm a ffotograffiaeth, ac ym myd addysg.
Mae gan Ffotograffiaeth, fel pob un o'n rhaglenni Celf a Dylunio israddedig, ethos galwedigaethol ac academaidd cryf sy'n ceisio sicrhau bod graddedigion yn ennill amrywiaeth o sgiliau galwedigaethol perthnasol. Mae'r ethos hwn yn sicrhau bod gan ein graddedigion bortffolio o alluoedd a phriodoleddau a fydd yn caniatáu iddynt ffynnu yng ngweithle’r 21ain Ganrif. Mae'n ystyried y ffaith bod anghenion y diwydiannau creadigol yn y dyfodol yn debygol o fod yn wahanol iawn. Ei nod felly yw paratoi ‘dysgwyr annibynnol’ sydd, ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, yn gallu ffynnu o fewn cyd-destunau proffesiynol cynyddol amrywiol.
Byddwch yn ennill lefel uchel o brofiad realistig ac ymarferol o weithio yn yr amgylchedd creadigol proffesiynol tra byddwch chi ar y rhaglen. Fe’ch anogir i gychwyn, trefnu a chymryd rhan mewn prosiectau oddi ar y safle a chymryd rhan mewn cyfleoedd proffesiynol, gan gynnwys gweithgareddau masnachol sydd â'r potensial i lansio eich gyrfa mewn Ffotograffiaeth.
Mae llawer o raddedigion Ffotograffiaeth yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o feysydd gyrfa:
- Gwneuthurwyr ffilm annibynnol, cyfarwyddwyr, ffotograffwyr mewn cwmnïau mawr neu fach
- Gweithwyr llawrydd, neu sefydlu busnes
- Ymarfer celf annibynnol
- Addysgu mewn addysg bellach neu uwch neu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
- Oriel neu fathau eraill o waith arddangos, neu fel swyddogion addysg
- Ymchwilwyr
- Technegwyr
Mae cyfleoedd astudio pellach hefyd ar gael ar lefel MA neu TAR.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau sy’n cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu” yn gyrsiau newydd sy’n cael eu cwblhau ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu penderfynu drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Cyn gynted ag y bo’r rhaglenni wedi eu dilysu bydd manylion y cwrs yn cael eu cadarnhau.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.