MA Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned (Ymarfer Uwch)
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 BL (LIA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol, Wrecsam
Course Highlights
Astudiwch
eich maes diddordeb academaidd mewn gwaith ieuenctid a chymunedol.
Hyblyg
cyflwyno dull dysgu cyfunol.
Cefnogaeth
gan diwtoriaid sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y maes.
Pam dewis y cwrs hwn?
x
- Ystyrir yr adran ieuenctid a chymuned ym Mhrifysgol Wrecsam i fod yn “gartref i waith ieuenctid yng Nghymru”, ar ôl cynnig addysg a hyfforddiant i’r sector ieuenctid a chymuned ers mwy na 43 mlynedd. Fel y cyfryw, mae gan yr adran gysylltiadau ardderchog â chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru, Gogledd-orllewin Lloegr a Chanolbarth Lloegr, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sector statudol, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector.
- Caiff graddedigion o’r rhaglen eu cyflogi mewn amrywiaeth o leoliadau o’r awdurdod lleol, y sector gwirfoddol a chymunedol, a darparwyr addysg ar draws Cymru, Lloegr ac yn rhyngwladol. Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth â’r Cyngor Prydeinig, lleoliadau ieuenctid a chymunedol, prosiectau yn yr ysgol, gwaith chwarae, gwaith gyda gofalwyr ifanc, gwaith gyda throseddwyr ifanc, lleoliadau byw â chymorth, gwaith gwrthdlodi ac adfywio, a gwaith cyffuriau ac alcohol i enwi ond ychydig.
- Wedi’i gynnig trwy ymagwedd dysgu cyfunol, bydd myfyrwyr yn dechrau pob semester gyda phenwythnos preswyl cychwynnol ar ein Campws yn Wrecsam**, ac yna’n parhau i ddysgu ar-lein gyda chymorth gan diwtoriaid ymroddedig – gan ganiatáu i chi astudio rhwng ymrwymiadau i’r gwaith a’r cartref.
Prif nodweddion y cwrs
- Darpariaeth hyblyg trwy ymagwedd dysgu cyfunol, gyda phrofiad preswyl ar ddechrau pob semester, gyda dysgu ar-lein a chymorth wyneb-yn-wyneb gyda thiwtoriaid i ddilyn, yn ôl yr angen; gan ganiatáu i chi astudio ochr yn ochr â gweithio
- Datblygu ymhellach eich sgiliau ymchwil academaidd i ddadansoddi’n gritigol athroniaeth danategol gwaith ieuenctid a’i gwerthoedd a’i hegwyddorion, gan gynnal eich ymchwil eich hun.
- Yr opsiwn o deilwra eich dysgu i fod yn addas ar gyfer eich maes ymarfer arbenigol a’ch diddordebau trwy gyd-drafod dysgu ac ymchwil.
- Cymorth gan diwtoriaid sydd â phrofiad o gynnal ymchwil yn y maes.
- Gweithio tuag at greu ymchwil a fydd â goblygiadau o ran polisi ac arfer gwaith ieuenctid
- Gallai cwblhau’n llwyddiannus arwain at astudio pellach ar lefel PhD
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1
MODIWLAU
-
Athroniaeth mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (Craidd) - Mae’r modiwl hwn yn archwilio ac yn dadansoddi’n gritigol athroniaeth gwaith ieuenctid a chymuned, ac yn archwilio sut mae’r cysyniadau hyn wedi llywio theori ac arfer gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd yn eich annog i archwilio eich athroniaeth eich hun o ran addysg a hunaniaeth broffesiynol, gwerthoedd a chredoau mewn perthynas â gwaith ieuenctid a phobl ifanc a'r gymdeithas.
-
Materion cyfoes mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Craidd) - Mae'r modiwl hwn yn archwilio materion cyfoes mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, gan ganolbwyntio ar rôl addysgiadol yr ymarferydd wrth fynd i'r afael â gormes ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
BLWYDDYN 2
MODIWLAU
-
Dulliau Ymchwil Uwch (Craidd) – Cyflwynir y modiwl hwn 100% ar-lein, gyda'r opsiwn i fynychu grwpiau astudio ychwanegol i roi eich dysgu yng nghyd-destun gwaith ieuenctid a chymunedol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth uwch o baradeimau ymchwil a sut y gellir eu cymhwyso mewn ymchwil gwyddorau cymdeithasol, i lunio cynnig ymchwil mewn maes o'ch arbenigedd. Mae'r modiwl hwn yn elfen allweddol o baratoi myfyrwyr ar gyfer modiwl traethawd hir Blwyddyn 3.
-
Cyd-drafod Dysgu (Opsiwn) Nod y modiwl hwn yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ddiffinio ffocws eu hastudiaeth eu hunain o fewn paramedrau gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dadansoddi polisi, arfer a datblygiadau damcaniaethol yn gritigol yn y maes penodol hwnnw. Cânt y cynnig o ddyfeisio eu cerbyd asesu eu hunain – gallai fod yn brosiect, yn draethawd, yn gyflwyniad ac ati.
- Arweinyddiaeth ac Ymarfer ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol a Chyfiawnder Cymdeithasol (Opsiwn) - Gan dynnu ar ddysgu a mewnwelediadau o dystiolaeth, theori a phrofiad, bydd y modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol a chynhwysfawr o arweinyddiaeth ac ymarfer ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol yn lefelau unigol, cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol.
BLWYDDYN 3
MODIWLAU
-
Traethawd hir Mae’r traethawd hir yn astudiaeth annibynnol, sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data o’r prif ffynonellau, sy’n cael ei wneud gan fyfyrwyr ar bwnc o’u dewis yng nghyd-destun gwaith ieuenctid a chymuned. Darn ysgrifenedig estynedig yw hwn sy’n caniatáu i fyfyrwyr werthuso cysyniadau ac arfer damcaniaethol yn gritigol mewn perthynas â’r pwnc o’u dewis.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
- Mae angen dosbarthiad gradd israddedig o 2:1 arnom, ond bydd 2:2 yn cael ei ystyried, mewn gwaith ieuenctid, datblygu cymunedol, addysgeg gymdeithasol neu debyg. Yn ddelfrydol gyda chymhwyster gwaith ieuenctid proffesiynol presennol y JNC.
- Byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith ieuenctid a chymunedol perthnasol.
- Bydd angen i ymgeiswyr hefyd gwblhau cyfweliad anffurfiol byr yn llwyddiannus gyda'r tiwtor derbyn.
- Efallai y bydd angen DBS i wneud ymchwil yn ymarferol.
- Bydd angen 2 gyfeiriad.
Addysgu ac Asesu
Caiff aseiniadau eu cynllunio gyda nodau dyblyg cefnogi datblygiad proffesiynol myfyriwr a’i ddealltwriaeth academaidd. Mae hyn yn ehangu gwybodaeth a sgiliau o’r gred bod gweithio fel ymarferydd ardderchog yn golygu, nid yn unig gweithio gyda phobl, ond hefyd gallu mynegi eich hun mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cynnwys llunio adroddiadau, dogfennau a thraethodau’n seiliedig ar gasglu a dadansoddi tystiolaeth er mwyn creu dadl.
Trwy gydol y rhaglen, ac fel rhan o fodiwlau unigol, caiff amrywiaeth o ddulliau asesu eu defnyddio sydd â’r nod o ddangos tegwch o ran anghenion, arddulliau dysgu a diddordebau unigol myfyrwyr. Caiff y ffurfiau ar asesu eu dewis er mwyn sicrhau eu bod yn nodweddu lefel academaidd y modiwlau a’u bwriad yw galluogi myfyrwyr i ystyried athroniaethau, cysyniadau a’r damcaniaethau sy’n tanategu gwaith ieuenctid a gwaith cymuned, trwy archwilio a dadansoddi materion sy’n berthnasol i feysydd darpariaeth gymdeithasol.
Anogir trosi dysgu o un modiwl i’r llall ac mae’r modiwlau craidd yn cynnig ffocws yn hyn o beth. Fel y cyfryw, caiff dulliau asesu ar y rhaglen israddedig hon eu defnyddio i ddatblygu hyder a gallu myfyriwr i gwblhau ystod o sgiliau trosglwyddadwy a ystyrir i fod yn fuddiol mewn gwaith academaidd ac arfer proffesiynol.
Felly bydd amrywiaeth o ffurfiau i asesiadau ar y rhaglen gan gynnwys Traethodau, Cyflwyniadau, Portffolios, cyfraniad at Fforymau Ar-lein ac ati.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae graddedigion o'r cwrs yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys gweithio mewn prosiectau a gwasanaethau yn y meysydd canlynol:
- Gofalwyr Ifanc
- Ymadawyr Gofal a Phobl Ifanc mewn Gofal
- Troseddwyr Ifanc
- Gwaith Ieuenctid Ysbyty
- Iechyd Meddwl
- Digartrefedd a Thai Ieuenctid
- Chwaraeon Ieuenctid a Datblygu Iechyd
- Clybiau Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid ar y Stryd
- Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
- Addysg Awyr Agored
- Datblygu Cymunedol
- Mentora ac Eiriolaeth
- Pobl Ifanc ag anableddau
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.Yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau sy’n cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu” yn gyrsiau newydd sy’n cael eu cwblhau ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu penderfynu drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Cyn gynted ag y bo’r rhaglenni wedi eu dilysu bydd manylion y cwrs yn cael eu cadarnhau.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.