Tystysgrif Ôl-raddedig Arweinyddiaeth Dosturiol

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
1 BL (RA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Course Highlights
Ymgysylltu
â dysgu cydweithredol, rhyngbroffesiynol
Asesiadau
i adlewyrchu'ch maes ymarfer
Datblygu
gwybodaeth arbenigol mewn disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r PGCert mewn Arweinyddiaeth Dosturiol wedi'i gynllunio i gyfrannu at thema strategol graidd y gweithlu cenedlaethol, sef Dangos arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar draws GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol erbyn 2030 (SEIW a Gofal Cymdeithasol Cymru 2020). Mae'r wobr hon yn cynnwys tri modiwl o'r MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd.
- Dadansoddwch y rhwystrau sy'n bodoli trwy'r model hwn o weithio, gan ganolbwyntio ar ofal yr unigolyn a'r buddion y gall gweithio rhyngbroffesiynol eu cynnig i'r bobl yn ein cymunedau.
- Anogir myfyrwyr i gymryd persbectif eang i'w dysgu, gan werthfawrogi sut mae dylanwadau byd-eang, rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, yn siapio arferion gweithwyr proffesiynol yn eu maes darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
- Bydd cyfleoedd i fyfyrwyr arwain eu dysgu eu hunain i adlewyrchu amrywiaeth y grŵp myfyrwyr, o safbwynt proffesiynol ac unigol.
- Mae ein dull hefyd yn cydnabod y gweithleoedd a'r meysydd amrywiol y mae'r myfyrwyr yn gweithio ynddynt, gan sicrhau bod y potensial i gynyddu effaith eu hastudiaethau yn cael ei gydnabod.
Prif nodweddion y cwrs
- Ddatblygu gwybodaeth systematig a dealltwriaeth feirniadol o ofal iechyd o safbwynt lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- Arddangos sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol i wneud penderfyniadau sy’n galw am ymreolaeth bersonol a blaengaredd: gan gynnwys datrys problemau, arweinyddiaeth, chadernid a’r gallu i fyfyrio mewn sefyllfaoedd cymhleth a/neu anrhagweladwy.
- Dangos tystiolaeth o ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd
- Trafod yn gynhwysfawr a darparu sylwadau beirniadol ar dystiolaeth ymchwil ac ysgolheictod mewn meysydd sy’n ymwneud ag iechyd
Beth fyddwch chin ei astudio
- Arweinyddiaeth Dosturiol ar Waith: Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i ymddygiadau arferion arwain tosturiol, cyfunol a chynhwysol, trwy ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o’r cysyniadau craidd, hwyluswyr, rhwystrau a galluogwyr i ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol o fewn diwylliant gweithle.
- Arloesedd a Gwella ar Waith: Nod y modiwl hwn yw eich paratoi i arwain prosiect gwella ansawdd yn eich gweithle. Prif ffocws y modiwl yw sut i sicrhau newid llwyddiannus gan ddefnyddio'r prosesau, yr offer a'r technegau sy'n gysylltiedig â gwella gwasanaethau.
- Modiwl Negodi: Cyfle arloesol i chi gymryd rheolaeth o'ch taith ddysgu unigol a datblygu eich sgiliau dysgu annibynnol. Trwy ffurfio contract dysgu, rydych chi'n dewis maes astudio i'w archwilio'n feirniadol, gyda rhesymeg gadarn dros sut mae hyn yn berthnasol i'ch taith broffesiynol. Bydd y ffocws yn werthusiad beirniadol o dystiolaeth ar gyfer ymarfer a datblygu sgiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (CPD).
Fel arall, gallwch benderfynu astudio MSc Ymarfer Proffesiynol ym maes Iechyd, lle byddwch yn cwblhau'r modiwl canlynol:
- Arweinyddiaeth Dosturiol ar Waith
- Arloesedd a Gwella ar Waith
- Modiwl Negodi
- Datblygu Ymarfer Proffesiynol ac Arweinyddiaeth
- Arloesi a Gwelliant mewn Ymarfer
- Iechyd y Cyhoedd ac Anghydraddoldebau
- Traethawd estynedig
Mae pob modiwl ar gael fel un annibynnol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac ôl ei deilyngdod ei hun. Bydd Arweinydd y Rhaglen yn gwneud y penderfyniad derbyn terfynol. Mae’r gofynion mynediad ar gyfer yr PGCert Arweinyddiaeth Dosturiol ym maes Iechyd wedi eu llunio yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.
Rhaid i ymgeiswyr foddhau/feddu ar, neu fod â chyfuniad o’r amodau canlynol:
- I gradd anrhydedd gychwynnol o Brifysgol Wrecsam neu gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall.
- Cymhwyster nad yw’n gymhwyster gradd, y mae’r Brifysgol yn ei ystyried o safon foddhaol at ddiben mynediad ôl-raddedig.
- Meddu ar brofiad gwaith perthnasol ar lefel uwch y bernir ei fod yn gwneud iawn am ddiffyg cymwysterau ffurfiol, ac wedi bod mewn swydd sydd â chyfrifoldeb rheoli yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol am o leiaf tair blynedd o fewn y bum mlynedd diwethaf.
Mewn achos ble bo diffyg eglurder neu lle bo angen golwg ddyfnach ar addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y rhaglen, mae’n bosib y bydd angen cynnal cyfweliad anffurfiol gyda’r ymgeisydd. Gall hyn fod wyneb yn wyneb, neu drwy lwyfan ar-lein priodol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i foddhau’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon sy’n ofynnol yn y maes pwnc, ac i gwblhau’n llwyddiannus y cynllun astudio arfaethedig.
Hefyd, mae’n bosib y bydd cynnig amodol yn cael ei wneud i ymgeiswyr na lwyddodd i ddangos tystiolaeth o astudiaeth academaidd ddiweddar (o fewn y 5 mlynedd diwethaf), gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ymgymryd â’r modiwl Paratoi ar gyfer Llwyddiant Academaidd (Lefel 6) cyn dechrau ar y rhaglen lefel Meistr.
Addysgu ac Asesu
Bydd asesiadau yn cael eu cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn adlewyrchu eu maes ymarfer ac arbenigedd proffesiynol mewn gwaith crynodol a ffurfiannol, a bod tystiolaeth o ymdrwytho a datblygu arbenigedd sy’n gymesur ag ymdrwytho ar lefel Meistr. Bydd aseswyr academaidd priodol yn cael eu dethol i hwyluso hyn.
Ymysg y dulliau asesu mae, ond heb fod yn gyfyngedig i: Aseiniadau Ysgrifenedig, Portffolio Myfyriol, Cyflwyniadau, ac Adroddiadau.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae’r rhaglen hon yn cynorthwyo ymarferwyr gofal iechyd i ddatblygu o fewn fframwaith gyrfaoedd a chyflogaeth Agenda ar gyfer Newid y GIG, gyda chyflawni astudiaeth lefel Meistr yn nodwedd allweddol o’r rhai sydd am symud ymlaen drwy rolau Band 7 ac uwch.
Bydd Deallusrwydd Emosiynol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth yn edau drwy’r holl fodiwlau, gydag arweinyddiaeth dosturiol yn edefyn dysgu dangosol. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r ymarferydd sy’n datblygu, gofynion tystiolaeth mewn astudiaeth lefel Meistr ar gyfer y rhai hynny sy’n dilyn Band 7 (ac uwch), a phwysigrwydd datblygu gweithlu cynaliadwy a chydnerth. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i archwilio dilyniant academaidd a phroffesiynol, gan anelu at gynyddu opsiynau cyflogaeth i’r dyfodol ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r rhaglen.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.Gwneud Cais
Cysylltwch â postregadmissions@wrexham.ac.uk i ofyn am ffurflen gais