Unwaith rydych wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, nid ydi’n cymorth yn gorffen adeg yna. Fel graddedig, gallwch dal mwynhau’r cymorth ac arweiniad gyrfaol cawsoch chi fel myfyriwr hefo ni.

Rydym yma i’ch cefnogi chi i mewn i waith neu addysg bellach. Mae ein hadnoddau i gyd ar gael i’ch helpu o roi cyngor ceisiadau a chyfweliadau hyd at arweiniad ar eich camau nesaf. Parhewch i dderbyn mynediad i gymorth drwy ein Porth Cyn-fyfyrwyr WGUconnect.

Gall raddedigion parhau i fynychu ein digwyddiadau gyrfaoedd a chyflogadwyedd ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Arolwg Hynt Graddedigion

Efallai byddwch yn ymwybodol o’r Arolwg Hynt Graddedigion, mae hwn yn arolwg cenedlaethol sy’n helpu darpar fyfyrwyr i weld eu cyrchfannau gyrfaol posibl. Byddwch yn derbyn e-bost gan HESA gyda gwahoddiad i gwblhau’r arolwg ar-lein tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau’ch cwrs. Mae’n bosib iddynt hefyd eich ffonio chi i gwblhau’r arolwg dros y ffôn.

Bydd eich ymatebion i’r Arolwg Hynt Graddedigion yn helpu darpar fyfyrwyr i weld eu cyrchfannau gyrfaol posibl. Mae hefyd yn helpu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i werthuso a chynllunio cyrsiau erbyn y dyfodol. Ceir y wybodaeth ei ddefnyddio gan lunwyr polisïau ac asiantaethau eraill i ddeall y sector addysg uwch a gwneud dewisiadau.

Sut a phryd byddwn yn ateb yr arolwg?

Byddwch yn derbyn e-bost gan glyndwruniversity@graduateoutcomes.ac.uk gyda gwahoddiad i gwblhau’r arolwg ar-lein tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau’ch cwrs. Efallai gewch chi atgofion drwy neges destun gan ‘GradOutcomes’. Bydd y rhain yn cynnwys linc i’r arolwg ar-lein. Os ydych yn derbyn galwad ffôn ynglŷn â’r arolwg, bydd yn dod o IFF Research. Byddent yn cyflwyno eu hunain yn galw ar ran Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Sut geith fy ymatebion eu defnyddio?

Ar ddechrau’r arolwg, bydd HESA yn amlinellu sut geith eich ymatebion eu prosesu, pwy geith fynediad iddo a beth maent yn dymuno i’w ddefnyddio. Er enghraifft, bydd HESA yn rhannu’r data gyda ni a byddem ni yn ei ddefnyddio i werthuso, cynllunio a gweithgareddau tebyg.

Sut ydw i’n sicrhau fy mod yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan?

Cyn belled â bod gennym ni manylion cyswllt diweddar amdanoch, nid oes angen i chi wneud dim byd. I ddiweddaru eich manylion cyswllt, e-bostiwch graduateoutcomes@glyndwr.ac.uk. Os na fedran nhw gysylltu â chi, efallai bydd HESA yn gofyn am wybodaeth gan gyswllt trydydd-parti, fel aelod teuluol. Gallwch roi manylion cyswllt ychwanegol i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a byddem ni yn ei anfon ymlaen i HESA.

Sut geith fy manylion eu rhannu a’u diogelu?

Mae angen i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam rannu’r wybodaeth gyswllt sydd gennym ni amdanoch chi gyda HESA. Dim ond i’ch cysylltu chi am yr Arolwg Hynt Graddedigion bydd HESA yn defnyddio eich manylion cyswllt diweddaraf. Ceir hyn ei hamlinellu yn hysbysiad casglu data myfyrwyr HESA, cafodd hyn ei rannu hefo chi yn ystod eich cyfnod cofrestru drwy ein datganiad preifatrwydd.

Ble allai ddarganfod mwy o wybodaeth?

Gallwch ddarganfod gwybodaeth bellach drwy fynd i: www.graduateoutcomes.ac.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiwn heb ateb uchod, gyrrwch e-bost i: graduateoutcomes@glyndwr.ac.uk

Beth os nad ydw i eisiau cymryd rhan?

Nid oes angen i chi gwblhau’r Arolwg Hynt Graddedigion. Byddwch yn medru eithrio rhag gwneud pan ydych yn derbyn gwahoddiad i gwblhau’r arolwg. Gallwch dim ond eithrio drwy HESA.