Students with a careers advisor

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yw'r porth at gyngor ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd, a chysylltiad uniongyrchol at Gynghorwyr Gyrfaoedd Addysg Uwch cymwys ac arbenigwyr cyflogadwyedd Addysg Uwch. 

Trwy ein Porth Gyrfaoedd, rydym yn cynnig cymorth cynllunio gyrfa, cyfleoedd gwaith a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol, ysgrifennu CVs, datganiadau personol a cheisiadau am swyddi. 

Fel y cartref ar gyfer addysg gyrfaoedd, gallwch ddod o hyd i offer addysg gyrfaoedd hunan-dywys ac adnoddau dysgu i ddatblygu sgiliau a hyder, gan gynnwys cymorth cyflogadwyedd targedig wedi’i ariannu gan CCAUC a chymorth i raddedigion. 
Yn gysylltiedig â CHYMDEITHAS Y GWASANAETHAU CYNGOR AR YRFAOEDD I RADDEDIGION (AGCAS).

Darllenwch fwy am sut rydym yn cefnogi myfyrwyr presennol, graddedigion a darpar fyfyrwyr yn ein Llawlyfr Gwasanaeth, o dan ein polisïau a’n dogfennau.

Content Accordions

  • Ein Gwasanaethau

    Cyfarwyddyd Gyrfaoedd - Gallwch drefnu apwyntiadau cyfarwyddyd gyrfaoedd un i un gyda’n Cynghorwyr Gyrfaoedd ac arbenigwyr Addysg Uwch. Mae cynghorwyr gyrfaoedd ar gael i helpu unigolion i archwilio'r opsiynau sydd ar gael iddynt a gwneud dewisiadau am yr hyn y maent yn mynd i’w wneud nesaf. Mae Cynghorwyr Gyrfaoedd yn gweithio gyda phobl i ddeall eu cymhellion a'u gwerthoedd mewn bywyd, ble maent yn gweld eu hunain yn eu dyfodol, pa fywyd y maent am ei gael a sut y gallant gyrraedd yno. Maent yn helpu i archwilio rhwystrau a llunio cynlluniau gweithredu i gyflawni nodau bywyd. Mae cynghorwyr gyrfaoedd yn deall y marchnadoedd llafur lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a gallant arwain ar ble bydd twf a dirywiad mewn meysydd galwedigaethol. Gallant hefyd helpu unigolion i ddeall eu profiad blaenorol, sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn gosod eu hunain yn llwyddiannus ar gyfer cyfleoedd newydd. Mae apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw, E-gyfarwyddyd, a sesiynau gyrfaoedd galw heibio (derbynfa GOFYN) ar gael. Caiff defnyddwyr eu hannog i ddefnyddio’r offeryn brysbennu wrth drefnu apwyntiad er mwyn iddynt gael eu cyfeirio at y cymorth mwyaf priodol.

    Cyfleoedd cyflogaeth - unig fwrdd cyfleoedd ymroddedig y brifysgol i fyfyrwyr a graddedigion. Gallwch gyrchu ein cyfeiriadur ar-lein o swyddi gwag gan gynnwys swyddi i raddedigion, swyddi rhan-amser, gwaith yn ystod y gwyliau, gwaith gwirfoddol, interniaethau a lleoliadau gwaith.

    Digwyddiadau – Digwyddiadau cyflogadwyedd gan gynnwys ein cyfres o ddigwyddiadau Cyswllt Cymunedol, a mewnwelediad cyflogwyr a diwydiant.

    Adnoddau hunan-dywys - Mae’r gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gartref i Llwybrau, modiwlau dysgu gyrfaoedd a chyflogadwyedd ar-lein, hunan-dywys i gefnogi cynllunio a rheoli gyrfa. Mae Darganfod Gyrfaoedd yn gartref i’n llyfrgell ar-lein bwrpasol. Rydym hefyd yn argymell adnoddau allanol addas yn ystod sesiynau cyfarwyddyd megis LinkedIn Learning, y Mynegai Tâl, WorkFinder, a’r Business Graduate Association.

    Gwasanaeth adolygu CVs a dogfennau gyrfaoedd – Unwaith y bydd ein Llwybr CV wedi’i gwblhau, gellir adolygu dogfennau gyrfaoedd gan gynnwys CVs, llythyrau eglurhaol a cheisiadau, gydag adborth gan Gynghorydd Gyrfaoedd. Cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu i fyfyrwyr - cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu a ariennir gan CCAUC.

  • Myfyrwyr Presennol

    Nod ein gwasanaeth yw datblygu sgiliau a hyder, sy’n gysylltiedig â Fframwaith Sgiliau’r Brifysgol.

    Yn gysylltiedig â'ch rhaglen astudio, mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd hefyd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, trwy sesiynau Dysgu Datblygu Gyrfa. Siaradwch â’ch tiwtor os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau grŵp i weddu i’ch anghenion.

    Mae myfyrwyr yn cael eu cofrestru ar y Porth Gyrfaoedd ymlaen llaw a gallant gael cymorth ar ôl cofrestru am gyfnod llawn eu hastudiaethau. Mewngofnodwch gyda’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr a’ch cyfrinair.

    Mae gan fyfyrwyr sy'n gadael Prifysgol Wrecsam heb ddyfarniad hawl i ddefnyddio'r Ganolfan Gyrfaoedd am gyfnod o hyd at 3 mis ar ôl i'w hastudiaethau ddod i ben.

    Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad dysgu. Bydd eich barn yn llywio dewisiadau darpar fyfyrwyr ac yn helpu prifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr.

  • Graddedigion

    Mae’r gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig gwasanaeth gydol oes am ddim i raddedigion. Nid yw ein cymorth yn dod i ben ar ôl i chi raddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Rydym yn parhau i weithio gyda chi wrth i chi gymryd eich camau nesaf ym myd gwaith neu astudiaeth bellach.

    Mae Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy’n ceisio cipio gwybodaeth am farn, profiadau a gweithgareddau presennol myfyrwyr, 15 mis ar ôl iddynt raddio. Nod yr arolwg yw helpu myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol gael cipolwg ar gyrchfannau gyrfa a datblygu. 

    Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cefnogi Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, sy’n fan pwrpasol i annog a chefnogi rhwydwaith o raddedigion Prifysgol Wrecsam.

    I barhau i gael cymorth fel myfyriwr graddedig, cofrestrwch ar y Porth Gyrfaoedd fel myfyriwr graddedig, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost personol.

  • Darpar Fyfyrwyr

    Mae’r tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma i gefnogi darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am yrfaoedd pan fyddwch chi’n ystyried dilyn rhaglen gradd prifysgol yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

    Fel darpar fyfyriwr, gallwn eich cefnogi i feddwl am gwestiynau i'w gofyn i chi'ch hun a chwestiynau i'w gofyn i eraill, gan gynnwys tiwtoriaid a darparwyr cyrsiau. Gallwn roi awgrymiadau ar gyfer ymchwilio i gyrsiau a gyrfaoedd posibl, a’ch cyfeirio at adnoddau a gwefannau defnyddiol i gefnogi eich ymchwil datblygu gyrfa.

    Rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam i gofrestru ar ein Porth Gyrfaoedd gan ddefnyddio e-bost personol i ofyn am arweiniad gan ein Cynghorwyr Gyrfaoedd Addysg Uwch. 

  • Cyflogwyr, Recriwtwyr a Sefydliadau Gwirfoddol

    Mae’r gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gweithio gyda Chyflogwyr, Recriwtwyr a Sefydliadau Gwirfoddol i hysbysebu eu swyddi gwag a chyfleoedd, a'u helpu nhw i gysylltu â gweithlu brwdfrydig o fyfyrwyr a graddedigion.

    Os oes gennych swyddi gwag neu gyfleoedd, p’un ag ydynt yn llawn amser neu’n rhan amser, yn gyflogedig neu’n anghyflogedig, rydym yn cynnig yr opsiwn i gyflogwyr gofrestru a hysbysebu ar ein Porth Gyrfaoedd. Trwy’r porth, rydym yn cynnig:

    • Mynediad hawdd ac uniongyrchol i ddarpar weithlu brwdfrydig a llawn cymhelliant.
    • Mae’n rhad ac am ddim, ac nid oes terfyn ar y nifer o gyfleoedd y gallwch eu hysbysebu.
    • Proffil sefydliad personol gyda meysydd galwedigaethol pwrpasol i’ch helpu i ddod o hyd i dalent newydd.
    • Gall myfyrwyr a graddedigion gael hysbysiadau am gyfleoedd yn uniongyrchol yn eu mewnflwch.

    Ar ôl hysbysebu ar ein porth, efallai y byddwn yn rhannu eich swyddi gwag ar ein cyfryngau cymdeithasol, ac yn annog sefydliadau i'n tagio yn eu cyfleoedd.

    Rydym yn cynllunio digwyddiadau i hyrwyddo cyfleoedd trwy gydol y flwyddyn academaidd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynyddu eich amlygrwydd i fyfyrwyr a graddedigion sy'n chwilio am gyfleoedd, gofynnwch i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio cyflogwyr.

    Rydym yn gweithio yn unol â’r canllawiau a nodir yn ein polisi cyflogwyr, a gan ein corff proffesiynol AGCAS, ac rydym yn cadw’r hawl i beidio â hysbysebu cyfleoedd nad ydynt yn cyd-fynd â’r canllawiau. Gweler ein Polisi Cyflogwyr a Pholisi Gyrfaoedd Moesegol 2023, o dan ein polisïau a dogfennau.

    Gall cyflogwyr gysylltu â ni trwy ein porth trwy gofrestru eich sefydliad. Os oes gennych ymholiadau gallwch gysylltu â’r gwasanaeth trwy’r porth.