Polisiau a Datganiadau
Mae Bwrdd yr Is-Ganghellor wedi cymeradwyo'r polisi hwn i sicrhau bod gwybodaeth sy'n cael ei cadw a'i phrosesu gan y Brifysgol, neu ar ran y Brifysgol, ar draws holl weithgareddau'r Brifysgol, mewn unrhyw ffurf ac unrhyw leoliad, yn cael ei hamddiffyn yn ddiogel yn erbyn canlyniadau torri cyfrinachedd, methiannau o ran cywirdeb neu doriadau ar argaeledd y wybodaeth honno.
Y Information Security Policy yw'r ddogfen Polisi Diogelwch gwybodaeth lefel uchaf ar gyfer y Brifysgol. Mae polisïau a gweithdrefnau a safonau eraill sy'n dod o fewn y ddogfen hon:
- Dosbarthiadau Diogelwch Gwybodaeth
- Polisi Diogelwch Data ar gyfer Dyfeisiau Electronig Symudol
- Polisi Defnydd Derbyniol
- Polisi Rheoli Cofnodion
Polisi Gwarchod a Diogelu Data
Nod y Ddeddf Diogelu Data (DPA) yw sicrhau preifatrwydd personol, trwy roi hawliau unigolion o safbwynt gwybodaeth amdanynt eu hunain a rhoi cyfrifoldebau ar sefydliadau sy'n prosesu'r wybodaeth hon. Wrth brosesu data personol mae rhaid i sefydliadau hefyd gydymffurfio â'r egwyddorion canlynol:
- Rhaid prosesu data personol yn deg ac yn gyfreithlon.
- Dylid cael data personol ond am un neu fwy o ddibenion penodol yn unig, ac ni chaiff ei brosesu ymhellach mewn unrhyw fodd sy'n anghydnaws â'r diben hwnnw neu'r dibenion hynny.
- Bydd data personol yn ddigonol, yn berthnasol ac nid yn ormodol.
- Rhaid i ddata personol fod yn gywir a lle bo angen, yn cael ei diweddaru.
- Ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben neu ddibenion ei gadw am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol.
- Rhaid prosesu data personol yn unol â hawliau gwrthrychau data o dan y Ddeddf.
- Rhaid cymryd mesurau technegol a threfniadol priodol yn erbyn prosesu data personol heb ganiatâd neu'n anghyfreithlon ac yn erbyn colli neu ddinistrio data personol, neu ei ddifrodi'n ddamweiniol.
- Ni chaiff data personol ei drosglwyddo i wlad y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd oni bai bod y wlad honno'n sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch.
Sut rydym yn prosesu eich data
Polisiau
- Polisi Diogelu Data a Gwaredu Data
- Polisi Rheoli Dyfesisiau a Chyfryngau Storio Data Electronig Cludadwy
- Polisi Rhyddid Gwybodaeth
- Dosbarthiadau Diogelwch Gwybodaeth
- Polisi Diogelwch Gwybodaeth
- Polisi a Chyfarwyddyd Gweithio Symudol ac o Bell
- Polisi Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd
- Gweithdrefn Digwyddiadau Llywodraethu Gwybodaeth Difrifol
Hysbysiad Preifatrwydd
- Hysbysiad Preifatrwydd cyn-fyfyrwyr
- Aelodau’r Bwrdd Llywodraethwyr Hysbysiad Preifatrwydd
- Hysbysiad Preifatrwydd Digwyddiadau 2022
- Hysbysiad Preifatrwydd Generig
- Hysbysiad Preifatrwydd Ymchwilydd
- Hysbysiad Preifatrwydd Staff
- Tabl Hysbysiad Preifatrwydd Staff
- Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr
- Tabl Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr