Academydd o'r Brifysgol yn dod yn Gymrawd Cyswllt gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain

Dyddiad: Dydd Mercher, Mehefin 18, 2025
Mae academydd Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam wedi cael cydnabyddiaeth am ei hymchwil a’i brwdfrydedd dros y proffesiwn gan gorff cenedlaethol.
Mae Dr. Shubha Sreenivas, Arweinydd Rhaglen MSc Seicoleg (Rhaglen drosi) y Brifysgol ac Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg (Biolegol), wedi cael ei henwi’n Gymrawd Cyswllt gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain (BPS).
Mae ei statws fel Cymrawd Cyswllt wedi cael ei ddyfarnu i gydnabod ei blynyddoedd o brofiad, arbenigedd a’i chyfraniad i faes Seicoleg.
Mae Dr. Sreenivas wedi bod yn ymwneud ag ymchwil seicolegol ers 2006, wedi cefnogi treialon aml-ganolfan fel Rheolwr Data gyda NWORTH (Cymdeithas Hap-Dreialon Iechyd Gogledd Cymru) yn uned Treialon Clinigol Prifysgol Bangor, ac wedi bod yn arwain ymchwil annibynnol ers 2012.
Mae meysydd ymchwil eraill mae Dr. Sreenivas wedi arwain arnynt yn cynnwys edrych ar broblemau seicogymdeithasol menywod sefydliadol, anghenus yn India. Yn ystod ei chyfnod yn y DU, cefnogodd ymchwil yn archwilio ysgogiadau ymennydd cysylltiedig ag anhwylder hwyliau a thriniaeth ymatebol.
Ymchwiliodd hefyd i’r defnydd o gŵn a chŵn robotig i wella hyder darllen plant oed ysgol gynradd a buddion therapi anifeiliaid anwes i fyfyrwyr prifysgol, a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud i’w lefelau o orbryder a straen.
Mae gan Dr. Sreenivas brofiad clinigol hefyd o weithio fel Seicolegydd Cynorthwyol gyda’r Gwasanaethau Seicoleg i Oedolion ac Oedolion Hŷn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gan drafod ei statws fel Cymrawd Cyswllt, dywedodd Dr. Sreenivas: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael y gydnabyddiaeth broffesiynol hon gan ei bod yn dangos cymaint yr wyf wedi datblygu yn y maes.
“O ennill fy ngradd gyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg a Newyddiaduriaeth yn India, ac yna i ddod o hyd i’m ffordd ar y llwybr Seicoleg fel myfyriwr aeddfed, ar ôl cwblhau fy ngradd ôl-raddedig yn y pwnc. Yna cwblheais radd Meistr mewn Sylfeini Seicoleg Glinigol a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi agor cymaint o gyfleoedd i mi.
“Rwy’n teimlo’n falch fy mod wedi dod mor bell ac rwy’n arbennig o falch o fod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y cwrs Trosi Seicoleg yn Wrecsam.
“Mae’r rhaglen yn eithriadol o bwysig i mi, gan ei bod yn rhoi cyfle i’r rheiny sydd wedi ennill gradd israddedig mewn pwnc arall, ond sydd eisiau newid cyfeiriad a mynd ar drywydd gyrfa ym maes Seicoleg, wneud hynny.
“Rwy’n meddwl mai un o’r rhesymau rwyf mor frwdfrydig dros raglen y cwrs Trosi yw bod y myfyrwyr hynny yn fy atgoffa ohonof i fy hun a fy nhaith innau i faes Seicoleg.”
- Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer carfan mis Medi 2025 o’r rhaglen MSc Seicoleg (rhaglen Trosi) ym Mhrifysgol Wrecsam, gallwch ddysgu mwy am y cwrs yma.