Dathlu Dosbarth 2025 yn seremonïau graddio Prifysgol Wrecsam

Dyddiad: Dydd Lau, Hydref 30, 2025

Bu dosbarth 2025 Prifysgol Wrecsam yn dathlu eu llwyddiannau academaidd yn ystod seremonïau graddio'r wythnos hon.  

Yn ystod seremonïau graddio’r hydref y Brifysgol, gwelwyd mwy na 1,300 o fyfyrwyr yn camu’n falch ar lwyfan Neuadd William Aston i dderbyn eu dyfarniadau. 

Trwy gydol yr wythnos, rhannodd graddedigion eu llwyddiannau a’u cyflawniadau mwyaf, wrth astudio yn Wrecsam, gan gynnwys Connor Townley, myfyriwr graddedig Celf Gynhwysol, a gafodd y fraint o gyflwyno ei waith i Ganghellor y Brifysgol, Colin Jackson CBE cyn ei seremoni fore dydd Mawrth. 

Cyflwynodd Connor gerflunwaith bach o’r enw ‘Severed Cradle’, gyda’r tu allan yn seiliedig ar ysbrydoliaeth nyth trychfilod - a’r cwpanau’n cynrychioli cocŵn meddal, sy’n rhoi diogelwch rhag y tu allan garw. 

Dywedodd Connor: “Mae'n deimlad anhygoel fy mod wedi cael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith i Ganghellor y Brifysgol, Colin Jackson, ac rwy’n teimlo’n eithriadol o falch o fy hun fy mod wedi graddio - gyda 2.1 

“Mae’n ddiwrnod chwerwfelys i mi oherwydd, er fy mod yn falch o’r hyn yr wyf wedi ei gyflawni yn y brifysgol, ac rwy’n mwynhau’r dathliadau, mae’n golygu fod fy nghyfnod yma wedi dod i ben. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau fy amser yn Wrecsam - rwyf wedi teimlo’n gartrefol a bod croeso imi o’r cychwyn cyntaf.” 

Yn 23 oed ac o Blackburn, mae’n edrych tua’r dyfodol nawr, gydag uchelgeisiau i sefydlu stiwdio lle mae’n bwriadu gwerthu ei waith, yn ogystal ag addysgu dosbarthiadau cerameg yn lleol. 

Dywedodd ymyfyriwr graddedig Nyrsio i Oedolion, Sophie Foulkes o Groesoswallt, sydd nawr yn gweithio i'r GIG yn yr Uned Meddygaeth Aciwt yn Ysbyty Royal Shrewsbury: “Mae’n ddiwrnod mor gyffrous ond hefyd yn llawn nerfau, ond rwyf mor falch o fod yma. 

“Roedd fy mhrofiad prifysgol yn anhygoel - mae fy astudiaethau a’m lleoliadau gwaith wedi bod yn wych, ac mor gefnogol, ac maent nawr wedi fy arwain i swydd yr wyf yn ei mwynhau yn arw. Buaswn wirioneddol yn annog unrhyw un sy’n ystyried gyrfa Nyrsio i fynd amdani. Nid yn unig y mae’n swydd llawn boddhad lle rydych chi’n gwneud gwahaniaeth bob dydd, ond mae angen mwy o nyrsys arnom. Rwy’n eithriadol o falch o fod yn nyrs.” 

Dywedodd Fiona Christiansen, sy’n byw ger Caer, a raddiodd ar ôl ennill ei Diploma Addysg Uwch mewn Cwnsela: “Fel rhywun sydd wedi dychwelyd i'r brifysgol i astudio, mae’r profiad wedi bod yn drawsnewidiol. Roeddwn eisiau bod yn Gwnselydd erioed, ond ar ôl Covid y penderfynais mai hwn oedd yr amser cywir i mi. 

“Mae fy amser yn Wrecsam wedi bod yn wych, o gwblhau’r cwrs byr Cyflwyniad i Gwnsela i’r Diploma, a heddiw, rwy’n hynod o falch fy mod yn gwnselydd cymwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sydd wedi mynd ymlaen i sefydlu fy mhractis preifat fy hun.  

Siaradodd Joanna Gawenda, a enillodd ei gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg, am ei balchder o gyrraedd diwedd ei hastudiaethau - a phwysleisiodd bwysigrwydd cynrychiolaeth o fenywod ym maes Cyfrifiadura. 

Meddai: “Rwy’n teimlo ymdeimlad o lwyddiant gwirioneddol fy mod yn graddio heddiw, mae’n deimlad da gan fod llawer o waith caled wedi bod i gyrraedd yma.  

“Rwy’n falch o fod yn fenyw sy’n cyfrannu at faes Cyfrifiadura, a buaswn yn sicr yn annog unrhyw fenyw sy’n ystyried astudio neu yrfa ym maes Cyfrifiadura i fynd amdani, mae ein cyfraniadau’n hanfodol, ac mae cynrychiolaeth yn allweddol.” 

Wrth fyfyrio ar ei gyfnod yn y brifysgol, dywedodd Ryan Evans, Myfyriwr graddedig Ffisiotherapi o Gobowen ger Croesoswallt: "Mae graddio’n deimlad da - mae’r brifysgol wedi bod yn brofiad gwych i mi. Mae’r cwrs a'r cyfleusterau yn Wrecsam yn wych ac o’m safbwynt i, y rhan orau oedd y darlithwyr, mae eu gwybodaeth a’u cefnogaeth wedi bod yn rhagorol drwy gydol y cwrs. 

“Fy nghamau nesaf yw astudio fy ngradd Meistr, ac rwyf hefyd yn gweithio mewn practis preifat, yn ogystal â nifer o glybiau pêl-droed gan gynnwys Airbus UK Broughton.” 

Dywedodd Evan Elliston, myfyriwrgraddedig Peirianneg Awyrenegol a Mecanyddol: “Rwy’n falch o fod yn sefyll yma heddiw ar fy niwrnod graddio ar ôl tair blynedd wych o astudio yn Wrecsam. 

“Fel dysgwr o’r math ymarferol, gweithredol, mae'r cwrs wedi bod yn wych i mi - ac rwy’n falch fy mod eisoes yn defnyddio ychydig o'r hyn a ddysgais yn y brifysgol yn fy swydd bresennol fel Peirianneg CAD (Cynllunio gyda Chymorth Cyfiriadur) ac rwy’n edrych ymlaen at gyfleoedd a ddaw i’m rhan yn y dyfodol.  

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried mynd i’r brifysgol i fynd amdani. Yn seiliedig ar fy mhrofiad fy hyn, gallaf ddweud bod cymaint o fanteision o fynd i’r brifysgol o ran twf personol, ac mae hefyd yn dangos eich bod yn ymroddedig ac yn gallu dyfal barhau. 

Dywedodd Hannah Russell-Paul o Lerpwl, a astudiodd gwrs Cyfrifeg a Chyllid: “Rwy’n llawn cyffro fy mod wedi graddio heddiw, mae wedi bod yn dair blynedd hir ond rwyf wedi cyrraedd, ac rwyf ar ben fy nigon. 

“Rwyf wedi cael amser anhygoel yn y brifysgol, mae’r gefnogaeth yma wedi bod yn arbennig. Wrth benderfynu i wneud cais ar gyfer Wrecsam, y cyfraddau boddhad myfyrwyr ac ansawdd dysgu wnaeth wirioneddol fy nenu i yma, a gallaf dystio’n bersonol dros hynny.  

“Rwyf nawr yn edrych tuag at y cam nesaf - a sicrhau swydd sy’n berthnasol i fy ngradd.” 

Dywedodd yr Athro Joe Yates: “Mae graddio’n garreg filltir hynod o arbennig ar ein calendr academaidd - mae’n amser i ddathlu gwaith caled, penderfynoldeb a chyflawniadau ein myfyrwyr, ac i gydnabod cefnogaeth arbennig eu teuluoedd, eu ffrindiau ac wrth gwrs, ein staff a’n cymuned ymroddedig yn y brifysgol. 

“Mae arwyddocâd arbennig i’n seremonïau hydref eleni wrth inni barhau i wireddu ein gweledigaeth a’n strategaeth newydd. Mae ein graddedigion yn ymgorffori hanfod y weledigaeth honno - yn unigolion galluog sy’n ystyriol o'r gymuned, a fydd yn mynd ymlaen i gael effaith werthfawr yn eu cymunedau, yn eu swyddi ac yn y byd ehangach.  

“Llongyfarchiadau gwresog i’n holl raddedigion, dosbarth 2025, sy’n ein gadael fel llysgenhadon balch Prifysgol Wrecsam.” 

Yn ogystal, nododd dathliadau graddio yr wythnos hon seremonïau terfynol y Canghellor Colin Jackson, CBE, yn ystod ei ddaliadaeth, sy’n dod i ben fis nesaf. 

Wrth drafod ei amser fel Canghellor, dywedodd Colin: “Mae gwasanaethu fel Canghellor Prifysgol Wrecsam wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint o'r mwyaf - a phleser oedd dod â chwe blynedd hyfryd i ben gyda seremonïau graddio’r wythnos hon. 

“Wrth edrych yn ôl ar fy nghyfnod fel Canghellor, yn sicr, nid ydyw’n teimlo fel chwe blynedd o gwbl, ond mae newidiadau enfawr wedi bod yn ystod y cyfnod. Mae gweld Prifysgol Wrecsam yn tyfu mewn cymaint o ffyrdd wedi bod yn rhyfeddol - o ddatblygiadau campws gwych i'w ail-frandio yn 2023 - a’i henw da cynyddol fel sefydliad sy’n grymuso a thrawsnewid bywydau ei myfyrwyr a’r gymuned ehangach.  

“Byddaf yn gweld eisiau pawb yn y Brifysgol, a hoffwn ddiolch i bawb, o’r staff a’r myfyrwyr, presennol a blaenorol, am eu caredigrwydd yn ystod fy nghyfnod fel Canghellor.” 

Ychwanegodd yr Athro Yates: “Trwy gydol ei ddeiliadaeth, mae Colin wedi bod, ac mae’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i’n staff, ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr. Mae ef wedi bod yn llysgennad ardderchog i Brifysgol Wrecsam, gan ddod ag urddas a chynhesrwydd enfawr i’w swydd fel Canghellor. Bydd pawb yn Wrecsam yn gweld colled ar ei ôl.”