Gradd Therapi Iaith a Lleferydd i gynnig darpariaeth ddwyieithog Cymraeg bwrpasol yn PGW

Date: Dydd Mercher Mai 3

Bydd siaradwyr Cymraeg sydd am gychwyn ar yrfa fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn gallu astudio'n ddwyieithog, diolch i gyflwyniad darpariaeth Gymraeg ar y cwrs gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW). 
 
Mewn cam cyffrous ymlaen o ran dysgu a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, y cwrs gradd Therapi Lleferydd ac Iaith fydd y cwrs cyntaf yn y brifysgol i gynnig dewisiadau astudio dwyieithog o fis Medi. 

Daw’r newyddion mater o wythnosau ers i'r sefydliad stampio'n rwber ei Strategaeth Academaidd a'i Gynllun Gweithredu Cymraeg newydd. 

Fel rhan o'r datblygiad yma mae'r brifysgol wedi recriwtio Ffion Roberts, darlithydd Cymraeg ei iaith ar gyfer y pwnc. 

Bydd myfyrwyr yn ennill 40 credyd mewn darpariaeth Gymraeg llawn ar y radd a fydd yn eu gwneud yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaeth cymhelliant gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, gall pob siaradwr Cymraeg yn y brifysgol wneud cais am Dystysgrif Iaith Gymraeg a hwylusir gan Y Coleg Cymraeg ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau. 

Dywedodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Academaidd Cyfrwng Cymraeg PGW: "Mae cyflwyno darpariaeth ddwyieithog Gymraeg ar ein cwrs gradd Therapi Iaith a Lleferydd yn gyffrous nid yn unig i ni fel prifysgol ond i ddarpar fyfyrwyr, sy'n siaradwyr Cymraeg. 

"Mae cynnig darpariaeth ddwyieithog i'n myfyrwyr yn fantais iddyn nhw, yn enwedig o ran arwain at gyfleoedd gwaith gwych yma yng Nghymru, ac yn cryfhau'r gweithlu dwyieithog. 

"Mae darparu amgylchedd dysgu dwyieithog yma yng ngogledd Cymru yn elfen arall positif iawn i fyfyrwyr y rhanbarth gan fod y darparwr Cymraeg agosaf yn y maes pwnc hwn yng Nghaerdydd. 

"Rwy'n teimlo llawer iawn o falchder mai dim ond wythnosau ar ôl cymeradwyo ein Strategaeth Academaidd a'n Cynllun Gweithredu Cymraeg, rydym eisoes yn gwneud cynnydd ac yn dangos ein hymrwymiad i greu diwylliant gwirioneddol ddwyieithog a hefyd cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050." 

Dywedodd Ffion Roberts, Darlithydd Therapi Iaith a Lleferydd:  "Rwy'n falch iawn o ymuno â'r tîm yn y brifysgol – ac i fod yn rhan o'r tîm sy'n cyflwyno darpariaeth ddwyieithog, drwy'r cwrs Therapi Iaith a Lleferydd. 

"I'r rhai sy'n awyddus i ddilyn gyrfa mewn Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru, mae gallu i gyfathrebu'n ddwyieithog yn gryfder enfawr. 

"Mae adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn cleientiaid dwyieithog yn dibynnu ar asesu ac ymyrraeth fanwl yn y ddwy iaith, gan fod y gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd Cymraeg ar gael yn anghenraid clinigol, os mai dyma iaith gartref y defnyddiwr gwasanaeth dan sylw. 

"Mae iaith yn hynod bwysig mewn lleoliadau iechyd a gofal oherwydd mae gallu ymateb i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf yn golygu llawer iawn i'r unigolyn, yn enwedig pan mae'n dod at drafod materion sensitif ac emosiynol. Mae'n helpu cwrdd ag anghenion unigolion yn syth - mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn gallu dileu rhwystr posib i ofal."