Myfyrwraig nyrsio sy’n siarad Cymraeg yn ffynnu yn ei hiaith frodorol ym Mhrifysgol Wrecsam

Dyddiad: Dydd Mawrth, Gorffennaf 15, 2025

Mae myfyrwraig nyrsio Gymraeg frodorol wedi siarad am ei balchder o gael astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod ei gradd yn y brifysgol.

Mae Llio Owen, myfyrwraig Nyrsio Plant, sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Wrecsam, wedi rhannu sut mae cael astudio a hyfforddi yn ei mamiaith yn rhan “hanfodol a gwerth chweil” o’i thaith i ofal iechyd.

Meddai: “Mae cael dysgu a hyfforddi yn fy mamiaith wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi. Mae wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus, i gael gwell cysylltiad â’m gwreiddiau, ac i fod yn fwy parod i gefnogi cleifion sy’n siarad Cymraeg.”

O’i darlithoedd a’i haseiniadau i’w chyfarfodydd â’i thiwtor, mae’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg wrth astudio, nid yn unig wedi gwella profiad dysgu Llio, ond hefyd wedi bod yn hynod werthfawr mewn lleoliadau yn yr ysbyty.

“Ar leoliad, gwelais pa mor bwysig yw hi i fedru siarad â chleifion ifanc yn eu mamiaith. I blant, mae ysbytai yn lefydd rhyfedd - ac weithiau’n ofnus, felly mae cyfathrebu â nhw yn yr iaith y maent yn ei deall yn eu helpu ac yn gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus,” meddai.

“Mae’n deimlad arbennig wrth weld y rhyddhad ar eu hwynebau wrth iddynt sylweddoli y gallant siarad Cymraeg â chi. Dyna pam fod astudio yn y Gymraeg wedi bod yn hanfodol a gwerth chweil i fi. Pe na fyddai darpariaeth Gymraeg ar y cwrs, ni fyddwn wedi medru astudio yma.

“Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn hollol anhygoel - o gael tiwtor hynod gefnogol sy’n siarad Cymraeg i gangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd â chymuned mor arbennig, yn ogystal â gallu dysgu a chael eich asesu yn y Gymraeg - mae wedi bod yn brofiad gwych i fi.

“Mae cael y gymuned Gymraeg honno a’r gefnogaeth bersonol wedi bod o gymorth mawr i fi ymgartrefu ym Mhrifysgol Wrecsam, ac wedi gwneud i fi deimlo’n gartrefol.”

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol sydd ar y gweill yn Wrecsam, bydd Llio wrth law yn cynorthwyo ar stondin y Brifysgol i arddangos y cynnig Cymraeg ar gyfer y cyrsiau nyrsio ac iechyd perthynol.

Ychwanegodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn hynod falch o fod yn cefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a hyrwyddo dwyieithrwydd mewn gofal iechyd, ac mae myfyrwyr fel Llio yn enghraifft ardderchog o ba mor hanfodol yw cynnig y ddarpariaeth hon. Mae hi’n un o’n myfyrwyr ffantastig sy’n arwain y ffordd i greu system gofal iechyd mwy cynhwysol, yma yng Nghymru.

“Rydym wrth ein boddau hefyd bod Llio yn mynd i helpu ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ein cynorthwyo i arddangos ein cynnig unigryw a’r ffaith na fu erioed o’r blaen gymaint o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yma, ym Mhrifysgol Wrecsam.”