Physio & OT students outside

Graddau Nyrsio ac Iechyd Perthynol

Mae astudio gradd nyrsio neu gysylltiedig ag iechyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn creu byd o gyfleoedd i fyfyrwyr ddod yn weithwyr proffesiynol Nyrsio ac Iechyd Perthynol i'r dyfodol.

Datblygir ein cyrsiau gyda chymorth byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), i helpu i ddarparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant iechyd o ansawdd uchel yng Nghymru.

Bydd y Chwarter Arloesi Addysg Iechyd (HEIQ) ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr yn gartref i'n cyfres o raglenni Addysg Nyrsio ac Addysg Iechyd Perthynol sy'n cael eu cynnig gan Brifysgol Wrecsam Glyndŵr, gan drawsnewid addysg gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Cymerwch gip ar ein pamffled Quater Arloesi Addysg Iechyd.

nurse wearing a mask

Nyrsio ac Iechyd Perthynol

Yn dilyn ein cais llwyddiannus am gyllid gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym yn falch o gynnig ystod ehangach o raglenni Nyrsio ac Iechyd Perthynol nag erioed o'r blaen, yma yng Ngogledd Cymru.

Edrychwch ar ein cyrsiau isod:

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'n cyrsiau, neu i siarad ag aelod o'r tîm am wneud cais, cysylltwch â enquiries@glyndwr.ac.uk.