Pennaeth Datblygu’r Gymraeg i’w hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni

Dyddiad: Dydd Mercher, Mehefin 4, 2025

Bydd Pennaeth Datblygu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam yn cael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei chyfraniad i addysg uwch a’i gwaith yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Mae Elen Mai Nefydd wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad i’r sector dros y 25 mlynedd ddiwethaf yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â denu cynulleidfaoedd newydd i’r iaith Gymraeg a’r Eisteddfod.

Mae hi’n un o nifer dethol o unigolion sydd wedi cael eu cydnabod o bob rhan o’r wlad am eu cyflawniad a’u hymrwymiad i Gymru, yr iaith a’u cymunedau lleol.

Yn unol â threfniadau Gorsedd Cymru ar gyfer anrhydeddu aelodau newydd, mae pob aelod newydd yn cael eu derbyn ar yr un lefel, p'un a ydynt yn cael eu hanrhydeddu â gwisg las neu wyrdd.

Mae'r rhai sydd wedi llwyddo ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gweithgareddau lleol/cenedlaethol a gwasanaeth i'r genedl yn cael eu cyflwyno â gwisg las.  Mae'r Orsedd yn derbyn aelodau newydd i'r wisg werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau a'u gwasanaeth i'r genedl - ac mae'r ddau dderbynnydd o'r wisg las a gwyrdd yn dod yn Dderwyddon Anrhydeddus. 

Bydd Elen Mai yn cael ei chyflwyno â'i gwisg werdd ei hun, yn cynnwys ei henw barddol, i gydnabod ei hymdrechion.

Pan ymunodd Elen Mai â'r Brifysgol gyntaf, hi oedd Arweinydd y Rhaglen ar gyfer Theatr, Teledu a Pherfformio, cyn ymgymryd â'i rôl bresennol yn 2022.

Heddiw, mae Elen Mai yn arwain ar Strategaeth Academaidd a Chynllun Gweithredu'r Iaith Gymraeg y sefydliad, sy'n anelu at wella'r ddarpariaeth o ddatblygu'r Gymraeg yn y Brifysgol. 

Ers ei lansio, mae modiwlau drwy'r Gymraeg wedi'u cyflwyno i nifer o gyrsiau gradd gan gynnwys Therapi Lleferydd ac Iaith a Phlismona Proffesiynol.

Yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Elen Mai yn gwasanaethu fel Is-gadeirydd Diwylliant Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Wrth siarad am yr anrhydedd, dywedodd: "Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo'n hynod falch y byddaf yn cael fy anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod eleni, mae wir yn foment sy'n fy nghyffwrdd i - ac mae'r ffaith ei fod yn digwydd yma yn Wrecsam eleni yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy cofiadwy ac arbennig i mi.

"Daw'r gydnabyddiaeth hon ar adeg hynod gyffrous i'r ardal leol, gan fod newid gwirioneddol gadarnhaol wedi bod yn yr awyr yn Wrecsam, drwy gynifer o weithgareddau a cherrig milltir diwylliannol bywiog.

"Mae wedi bod yn hyfryd cael cymaint o gyfleoedd gwych i hyrwyddo'r iaith Gymraeg i bawb yn ein cymuned, yn y gobaith y bydd yn gadael gwaddol diwylliannol ac ieithyddol parhaol yn y rhanbarth ar ôl yr ymweliad yr Eisteddfod

"Mae hefyd wedi bod yn hynod werthfawr gweld faint mae'r sefydliad wedi tyfu o ran ei ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a'r hyn a gynigir i fyfyrwyr a staff."

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Llongyfarchiadau i Elen Mai am y wobr fawreddog hon i gydnabod ei chyfraniad i wasanaethau i addysg uwch yma yng Ngogledd Cymru, sy'n amlygu ei hymroddiad i hyrwyddo a gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yma yn y Brifysgol ac o fewn y gymuned.

"Fel sefydliad Cymraeg, rydym yn falch o'n treftadaeth a'r iaith ac fel rhan o'n gweledigaeth a'n strategaeth ddiweddar, hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a threftadaeth Gymraeg yn weithredol drwy ein holl weithgareddau yw'r edau aur sy'n rhedeg drwy bopeth a wnawn."

Bydd Elen Mai a derbynwyr eraill yn cael eu hanrhydeddu mewn seremonïau arbennig ar faes yr Eisteddfod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.