Pobl ifanc yn mwynhau diwrnod gwybodaeth y Diwydiannau Creadigol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam
.jpg)
Dyddiad: Hydref 15, 2026
Daeth dros 200 o bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru ynghyd ym Mhrifysgol Wrecsam yn ddiweddar i ddysgu mwy am yrfaoedd o fewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu, a'r diwydiannau Creadigol a Digidol.
Roedd y diwrnod y cyntaf ymhlith nifer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd gan aelodau Cynghrair Trydyddol Gogledd Cymru (NWTA), sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth a chynyddu hygyrchedd llwybrau addysg a gyrfa ar draws y rhanbarth.
.jpg)
Dywedodd Sonia John, Rheolwr y Rhaglen Cenhadaeth Ddinesig ym Mhrifysgol Wrecsam: "Roedd ein digwyddiad NWTA cyntaf yn llwyddiant ysgubol. Fe wnaethon ni groesawu 25 o gyflogwyr o bob cwr o Ogledd Cymru a gyflwynodd weithdai a thrafodaethau ynghylch gwahanol lwybrau i addysg a gyrfaoedd, gyda ffocws penodol ar Beirianneg a Gweithgynhyrchu, a'r diwydiannau Creadigol a Digidol. Dangosodd yr adborth gwych gan y bobl ifanc a'u hathrawon pa mor addysgiadol a defnyddiol oedd y diwrnod o ran eu cefnogi gyda chymryd eu camau nesaf i mewn i addysg a gyrfaoedd."
Cyflwynwyd NWTA ym mis Awst 2025, mae’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai. Mae wedi’i sylfaenu ar genhadaeth gyffredin i alinio addysg bellach ac addysg uwch a blaenoriaethau cenedlaethol, gan gefnogi pobl ifanc, oedolion sy’n ddysgwyr a chyflogwyr drwy lwybrau datblygu cryfach, mentrau ar y cyd, ac arloesedd mewn hyfforddiant ac ymchwil. Ei nod yw dod ag addysg a diwydiant yn agosach at ei gilydd i sicrhau bod sgiliau'n adlewyrchu anghenion y byd go iawn a'i gwneud hi'n haws i bobl symud yn hyderus o ddysgu i gyflogaeth.
.jpg)