Prifysgol Wrecsam yn cefnogi Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan-19 UEFA yng Ngogledd Cymru

Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Phencampwriaeth Ewropeaidd Dan-19 UEFA, a gynhelir yng Ngogledd Cymru yr hâf yma.

Bydd y twrnamaint rhyngwladol yn dod â thalent pêl-droed gorau Ewrop i'r rhanbarth, gan ddenu ymwelwyr - a sylw byd-eang. Mae cyfranogiad y Brifysgol yn adlewyrchu ei hymrwymiad parhaus i gefnogi pobl ifanc, gyrru twf cynhwysol, a defnyddio chwaraeon fel catalydd ar gyfer cyfle.

Mae cefnogi'r bencampwriaeth yn cyd-fynd â strategaeth Wrecsam2030 y Brifysgol, sy'n nodi ei huchelgais i fod yn brifysgol ddinesig flaenllaw, wedi'i chysylltu â'i rhanbarth ac yn canolbwyntio ar gyflawni effaith trwy addysg, partneriaethau ac ymgysylltu cymunedol.

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn falch o gefnogi Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan-19 Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA, ac o groesawu sêr pêl-droed Ewrop y dyfodol i Ogledd Cymru.

“Mae'r twrnamaint hwn yn cyd-fynd yn gryf â'n gweledigaeth Wrecsam2030 – defnyddio addysg, chwaraeon a phartneriaeth i yrru cyfle, dyhead a thwf cynhwysol ar gyfer ein rhanbarth. Mae digwyddiadau mawr fel hyn nid yn unig yn ysbrydoli pobl ifanc, ond hefyd yn arddangos Gogledd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”

Ychwanegodd Jack Rea, Rheolwr Masnachol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan 19: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Prifysgol Wrecsam fel Partner Swyddogol UEFA EURO Dan 19 Cymru. Mae cynlluniau uchelgeisiol Prifysgol Wrecsam ar gyfer dyfodol addysg yng Ngogledd Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â'n huchelgais i ddathlu Dyfodol Pêl-droed yr Haf hwn ar draws y rhanbarth, gan ysbrydoli ein cymunedau a gadael etifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf.”

Bydd y twrnamaint hefyd yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam, yn enwedig y rhai sy'n astudio graddau sy'n gysylltiedig â chwaraeon, i ennill profiad gwerthfawr yn y byd go iawn trwy ymgysylltu â digwyddiad rhyngwladol mawr.

Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws chwaraeon, addysg a diwydiant, ac mae ei chefnogaeth i'r twrnamaint yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu talent ac ehangu mynediad at gyfleoedd.

Disgwylir i Bencampwriaeth Ewropeaidd Dan 19 UEFA ddarparu manteision parhaol i'r rhanbarth, gan gefnogi ei phroffil fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau mawr a chyfrannu at falchder cymunedol a gweithgaredd economaidd.