Y Prif Weinidog yn ymweld â Phrifysgol Wrecsam i edrych ar gyfleusterau blaengar a thrafod effaith ddinesig

Dyddiad: Dydd Lau, Mehefin 19, 2025

Heddiw, ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, â Phrifysgol Wrecsam i edrych ar rai o gyfleusterau arloesol y sefydliad, gan gynnwys adeilad y Ganolfan Peirianneg ac Opteg Menter (EEOC) sydd bron yn barod - prosiect adeiladu cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru.

Bu’r Prif Weinidog yn cwrdd â staff a myfyrwyr o amrywiaeth o feysydd pynciau er mwyn clywed y cwbl am Strategaeth a Gweledigaeth 2030 y Brifysgol sydd newydd ei lansio ac ein huchelgais hollbwysig i ddod yn brifysgol ddinesig fodern a blaenllaw.

Yn ystod yr ymweliad, aeth y Prif Weinidog o amgylch y datblygiad EEOC blaengar, a ddaw’n ganolfan arbenigol ar gyfer ymgysylltiad yn y diwydiant, ymchwil, ac arloesedd, a bydd yn rhoi canolfan i Ogledd Cymru ar gyfer cydweithio a datblygu sgiliau mewn cynaliadwyedd, ynni adnewyddadwy, a gweithgynhyrchu gwerth uchel.

Mae ymweliad y Prif Weinidog â'r EEOC yn disgyn ychydig ddyddiadau cyn Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Peirianneg, a gynhelir yn flynyddol ar Fehefin 23. Treuliodd amser yn sgwrsio gyda Selina Thomas, myfyriwr blwyddyn olaf mewn Peirianneg Fecanyddol ac Awyrenegol, a dynnodd sylw at ei gwaith yn cefnogi cwmni yng Ngogledd Cymru, KnitMesh Technologies, drwy archwilio nerth ardrawiad cyfansoddion.

Bu iddi hefyd gael y cyfle i weld Canolfan Efelychu Iechyd y Brifysgol, lle amlygodd staff waith y sefydliad i gryfhau a datblygu gweithlu’r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, gyda darpariaeth yr iaith Gymraeg wrth wraidd hynny.

Dywedwyd wrth y Prif Weinidog am gynnydd ‘Cyfle’ - Cynllun Gweithredu a Strategaeth iaith Gymraeg y sefydliad a lansiwyd bron i dair blynedd yn ôl, bod modiwlau Cymraeg wedi eu cyflwyno i nifer o gyrsiau gradd, gan gynnwys Therapi Lleferydd ac Iaith, Plismona Proffesiynol, Addysg a rhagor.

Rhoddodd staff ddiweddariadau i’r Prif Weinidog ar gynnydd sy’n ymwneud â’r gwaith presennol a gynhelir ar y campws ar gyfer y cam nesaf o wella Ardal Arloesi Iechyd ac Addysg (HEIQ) y Brifysgol.

Bu iddi glywed am sut fydd y cam nesaf yn mynd â chyfleusterau’r Brifysgol i gryfderau hyd yn oed yn fwy - gan sicrhau bod technoleg sy’n arwain y diwydiant ar gael i fyfyrwyr drwy greu amgylchedd addysgu trochol newydd, a fydd yn galluogi cyfuniad o realiti estynedig a realiti rhithiwr. Bydd hefyd yn cynnwys Labordy Addysgu a Dysgu newydd ac Ystafell Efelychu Hydra - y caiff ei datblygu ar y cyd â’r Hydra Foundation – a fydd yn helpu myfyrwyr gyda’u sgiliau creu penderfyniadau allweddol, drwy efelychu sefyllfaoedd brys.

Daeth yr ymweliad i ben gyda thrafodaeth gadarnhaol ar waith Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol, gyda phwyslais ar sut mae’r brifysgol ar y rheng flaen o ran arwain newid systemig yn y rhanbarth drwy gysylltu sefydliadau partner, rhannu gwybodaeth a datgloi gweithredoedd ar y cyd - i gyd gyda’r bwriad o helpu i roi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol ledled Gogledd Cymru erbyn 2030.

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Pleser o’r mwyaf oedd croesawu’r Prif Weinidog i’r Brifysgol heddiw ac arddangos ein cyfleusterau anhygoel gyda balchder - yn arbennig, ein Canolfan Peirianneg ac Opteg Menter, sy’n fod i agor ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi, yn ogystal â’n Canolfan Efelychu Gofal Iechyd arloesol.

“Rhoddodd yr ymweliad hefyd gyfle gwerthfawr inni roi pwyslais ar ein Strategaeth a Gweledigaeth 2030 sydd newydd ei lansio, a hefyd tynnu sylw at sut mae sefydliadau addysg uwch gyda rhan allweddol i’w chwarae wrth helpu i lywio Cymru fwy cadarn a llewyrchus. Mae ein gwaith mewn meithrin sgiliau a hefyd cryfhau a datblygu gweithlu dwyieithog yn y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, a’n Cenhadaeth Ddinesig, o ran darparu arweinyddiaeth systemau, yn arddangos yr effaith gadarnhaol y mae ein sefydliad yn ei chael ar y cymunedau a wasanaethwn.

“Diolch i’r Prif Weinidog am ei hamser ac am ymgysylltu â ni heddiw - pleser mawr oedd ei chroesawu, ac arddangos ychydig o’n gwaith anhygoel.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS: “Boddhad mawr oedd cael gweld y cyfleusterau ym Mhrifysgol Wrecsam yn bersonol, yn arbennig yr EEOC, a ddaw’n hwb allweddol ar gyfer cydweithrediadau diwydiant a datblygu sgiliau ledled Gogledd Cymru, yn fuan.

“Trwy eu gwaith dinesig, gall ein sefydliadau addysg uwch wasanaethu fel angorau pwerus yn eu cymunedau, gan gefnogi busnesau a datgloi gweithredoedd ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a hynny wrth baratoi myfyrwyr at swyddi’r dyfodol."

 

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae’r cyllid Cynllun Twf, trwy Uchelgais Gogledd Cymru, wedi darparu £11.55m o werth llawn y prosiect EEOC.
  1. Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad £1 biliwn i economi’r rhanbarth, gyda £240m yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.