Dr Laura Gough
Bennaeth Menter a Datblygu

Cofiant
Mae Dr Laura Gough yn Bennaeth Menter a Datblygu ym Mhrifysgol Wrecsam, lle mae'n arwain gweithgarwch ar draws ymgysylltu â diwydiant, arloesi a chyfnewid gwybodaeth, entrepreneuriaeth, dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith a datblygiad proffesiynol.
Mae Laura wedi gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam am dros 25 mlynedd, gan ddal ystod eang o rolau ar draws sawl adran. Ochr yn ochr â'i gyrfa broffesiynol, mae hefyd wedi astudio yn y brifysgol, gan gwblhau cymhwyster HNC, gradd, gradd Meistr, ac yn fwyaf diweddar, PhD yn ystyried perthnasoedd rhwng prifysgolion a diwydiant yng Nghymru a rôl staff sy'n wynebu diwydiant wrth ddatblygu partneriaethau effeithiol a chynaliadwy.
Mae gan Laura brofiad sylweddol o weithio gyda busnesau, partneriaid diwydiant a rhanddeiliaid rhanbarthol ac mae'n arbennig o frwdfrydig ynghylch cryfhau'r cysylltiadau rhwng prifysgolion, diwydiant a'u cymunedau ehangach. Mae'n cynrychioli'r brifysgol ar draws ystod o bartneriaethau allanol ac mae'n eistedd ar Fwrdd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy. Mae hefyd yn chwarae rôl bwysig yn y grŵp Swyddogion Cyswllt Diwydiannol Cymru (WILOs), gan gynnwys gwasanaethu fel Cadeirydd yn flaenorol, cefnogi cydweithio a rhannu arfer da ar draws addysg uwch yng Nghymru.
Gyda chysylltiad hirsefydlog â Phrifysgol Wrecsam, ynghyd â phrofiad helaeth o weithio gyda busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid rhanbarthol, mae Laura yn dod â safbwynt mewnol ac allanol i drafodaethau'r Bwrdd. Mae'n arbennig o awyddus i gynrychioli barn cydweithwyr gwasanaethau proffesiynol wrth gyfrannu at gyfeiriad y brifysgol yn y dyfodol, partneriaethau ac effaith ranbarthol ehangach.