Lee Mutch
Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Galwedigaethol
Astudiodd Lee am radd BA Anrh mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, cyn cwblhau PGDIP mewn Iechyd trwy Alwedigaeth ym Mhrifysgol Brighton. Yna cwblhaodd MRES mewn Ymchwil Iechyd ym Mhrifysgol Lerpwl.
Mae Lee wedi meddu ar gymwysterau proffesiynol yn yr AMPS (Asesu Sgiliau Echddygol a Phrosesu) ac yn y Model VdT o Allu Creadigol. Mae ganddo dros 17 mlynedd o brofiad fel therapydd galwedigaethol cymwys gan ddefnyddio'r Model Galwedigaeth Dynol yn ymarferol yn bennaf ac mae wedi gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl fforensig, adsefydlu preifat dan glo ar gyfer menywod sydd â diagnosis o Anhwylder Personoliaeth ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU).
Roedd yn aelod o Grŵp Ymchwil a Datblygu ar gyfer darparwr preifat cenedlaethol yn cynrychioli Therapi Galwedigaethol lle trafodwyd ceisiadau am gynigion ymchwil mae bwriad eu cynnal ar safleoedd cwmnïau, yn amrywio o iechyd meddwl i leoliadau ysgolion arbenigol.
Ar hyn o bryd mae Lee yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ac mae'n arweinydd modiwl ar gyfer modiwl ymchwil lefel 6 ar gyfer myfyrwyr AHP. Mae hefyd wedi ennill statws Cymrawd Cyswllt yn ddiweddar ar ôl cwblhau ei dystysgrif PG. Lee hefyd yw'r tiwtor derbyn ar gyfer y cyrsiau therapi galwedigaethol yn Wrecsam.
Mae Lee yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel heicio a chanŵio yn ogystal â garddio a beicio. Mae hefyd yn mwynhau ymweld â lleoedd newydd ac yn enwedig rhai o bwysigrwydd archeolegol.
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Overcoming Occupational Barriers through Intervention | OCC519 |
Evidence in Practice | AHP501 |
Foundations in Research | AHP402 |