Rebecca Mansell

Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Ôl-gofrestru ac Iechyd Cynghreiriol

Picture of staff member

Profiad Clinigol

Rwy'n Nyrs Oedolion Gofrestredig, yn Nyrs Rhagnodi Annibynnol a Chymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA), gyda 18 mlynedd o brofiad nyrsio ar draws y GIG, gofal iechyd ac addysg uwch.

Mae fy nghefndir meddygol wedi rhoi profiad eang mewn gofal claf, ffarmacoleg, rheoli meddyginiaethau ac ymarfer rhagnodi. Mae'r profiad hwn wedi llunio fy ngyrfa academaidd a fy niddordeb penodol yn addysg a datblygiad gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Gyrfa yn y Brifysgol

Ar hyn o bryd, fi yw'r unig Arweinydd Rhaglen ar gyfer Rhagnodi Anfeddygol ac mae gennyf brofiad academaidd ar draws nifer o sefydliadau addysgu uwch. Rwyf wedi dysgu myfyrwyr israddedig MBChB a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ôl-raddedig sy'n ymgymryd â rhaglenni Rhagnodi Anfeddygol.

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys rhagnodi, ffarmacoleg, sgiliau clinigol ac addysg yn seiliedig ar efelychiad. Mae gennyf brofiad yn datblygu a darparu dysgu wyneb yn wyneb, ar-lein ac mewn amgylcheddau efelychu, yn ogystal â goruchwylio ac asesu myfyrwyr ôl-raddedig.

Rwy'n Gymrawd Academi Addysg Uwch (FHEA) ac yn dal MSc mewn Meddygaeth ac Addysg Gofal Iechyd gyda Rhagoriaeth. Rwy'n angerddol dros addysg gofal iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chefnogi myfyrwyr i fod yn ymarferwyr diogel, hyderus a galluog.

Oddi Allan i'r Gwaith

Y tu allan i'r brifysgol, rwy'n mwynhau cadw'n brysur a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Rwy'n mwynhau nofio, beicio, sglefrio iâ a mynd i'r gampfa, yn ogystal â threulio amser gyda fy anifeiliaid anwes.

Diddordebau Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn ffocysu ar ragnodi anfeddygol, addysg rhagnodi a datblygu arfer rhagnodi diogel a hyderus. Roedd fy ymchwil Meistr yn archwilio canfyddiadau nyrsys o ba mor barod oeddent wedi iddynt gwblhau rhaglen Rhagnodi Anfeddygol. Bu i hyn ddatblygu fy niddordeb yn y berthynas rhwng addysg rhagnodi ac arfer clinigol, yn arbennig mewn perthynas â bod yn barod, hyder proffesiynol, mentoriaeth a diogelwch claf. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn sut y gall addysg rhagnodi barhau i esblygu er mwyn cefnogi ymarferwyr a bodloni'r anghenion sy'n newid o fewn gofal iechyd.

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2024 PGCert Medicine and Healthcare Education / FHEA Anglia Ruskin University
2021 Independent Nurse Prescriber University of Salford
2007 Adult Nursing (Registered Adult Nurse) University of Chester
2025 MSc Medicine and Healthcare Education (Distinction) Anglia Ruskin University

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Nursing and Midwifery Council (NMC) Nyrs Oedolion Cofrestredig a Nyrs Rhagnodi Annibynnol
Higher Education Academy / Advance HE Fellow (FHEA)

Diddordebau Addysgu

Mae fy niddordebau dysgu yn cynnwys addysg rhagnodi, rhagnodi anfeddygol, fferylliaeth, sgiliau clinigol ac addysgu yn seiliedig ar efelychiad. Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu ymresymiad clinigol, gwneud penderfyniadau a hyder wrth gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol yn ymarferol. Rwy'n mwynhau defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu er mwyn ymgysylltu dysgwyr o wahanol gefndiroedd ac rwy'n frwd dros greu amgylcheddau dysgu cefnogol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gallu paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer clinigol diogel ac effeithiol.