Gall cyrraedd y brifysgol am y tro cyntaf fod yn brofiad llethol, ond peidiwch â phoeni gan fydd yn ddigon o staff a myfyrwyr o gwmpas yn ystod yr Wythnos Croeso i'ch helpu i setlo i mewn ac i chi ddod i adnabod y lle - yn fuan iawn byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchoedd ac yn gwybod lleoliad popeth byddwch angen, boed hynny ar lein neu ar y campws.

Rydym wedi postio ychydig mwy o awgrymiadau isod i'ch helpu i ddod i adnabod eich ffordd o gwmpas y campws a thu hwnt.

 

Cyfrifon Banc y Cyngor a Myfyrwyr 

Os oes angen prawf o gadarnhad o'ch astudiaethau, gallwch argraffu hwn eich hun nawr. Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu prawf o'ch astudiaethau ar gyfer pethau fel agor cyfrif banc myfyrwyr, aelodaeth campfa myfyrwyr neu ddarparu tystiolaeth i'ch cyngor lleol am eithriad treth gyngor. Mewngofnodwch i MyUni, dewiswch Cofnod Myfyrwyr a mewngofnodi gyda manylion eich myfyriwr i gael mynediad at y Cadarnhad o lythyrau Eithrio Myfyrwyr a'r Dreth Gyngor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon neu os ydych yn cael trafferth cael mynediad at y llythyrau, cysylltwch â'r Tîm Gweinyddu Myfyrwyr ar studentadministration@wrexham.ac.uk.   

 

Datblygiadau ar y campws

Mae datblygiadau ar y gweill ar hyn o bryd mewn nifer o leoliadau ar draws y campws fel rhan o’n buddsoddiad o £80 miliwn i wella ein campysau a’n cyfleusterau.

Mae gennym mannau dysgu newydd a chyffrous - Yr Astudio, Yr Oriel a Bwrlwm B, wedi eu leoli ar ein campws Wrecsam, s’yn cynnig bythau clyd, goleuadau a phwyntiau gwefru pwrpasol yn ogystal â digon o le ar gyfer byrddau a monitorau i chi gysylltu'ch dyfeisiau â nhw - delfrydol ar gyfer astudio unigol sesiynau neu waith grŵp yn dal i fyny dros baned. 

Pan fyddwch yn cyrraedd ar y campws Wrecsam, efallai y byddwch yn sylwi bod adeiladu ar y safle. Bydd y gwaith adeiladu hwn yn ffurfio ein hadeilad peirianneg newydd sbon, y Ganolfan Opteg Peirianneg Menter.

 

Parcio ceir

Campws Plas Coch Wrecsam

Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y nifer mwyaf posib o lefydd parcio ar gael, gall y maes parcio lenwi'n sydyn ar ddyddiau prysur oherwydd datblygiadau ar y campws ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda fod y parcio ar gael i staff a myfyrwyr ar sail cyntaf i'r felin.
Nodwch yn ystod wythnosau cyntaf Semester 1 y bydd gan Gampws Plas Coch Staff ychwanegol wrth fynedfeydd y meysydd parcio er mwyn helpu i fonitro'r llefydd sydd ar gael. Byddem yn eich annog chi i deithio i'r campws gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n bosib i chi wneud hynny. Mae'r campws wedi'i leoli'n gyfleus iawn, tua 5 munud o waith cerdded o orsaf drenau gyffredinol Wrecsam, gan ei gwneud yn ddewis hawdd ac effeithlon i chi deithio.

Campws Stryt y Rhaglaw 
Os ydych yn astudio yn ein campws ar Stryt y Rhaglaw, mae'n bosib y gallech ystyried parcio yng nghampws Wrecsam Plas Coch gan gerdded y daith 10 munud i Stryt y Rhaglaw. Fodd bynnag, fel y soniwyd uchod, mae'r llefydd parcio yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ac felly byddai trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy addas. Ar y llaw arall, gallwch hefyd ddewis parcio yng nghanol Dinas Wrecsam.

Parcio yng Nghanol Dinas Wrecsam 
Isod mae rhestr o feysydd parcio eraill, sydd o fewn pellter cerdded i'n campysau ym Mhlas Coch a Stryt y Rhaglaw. Nodwch os gwelwch yn dda ei bod yn bosib y codir tâl dyddiol. 

  • Neuadd y Dref, LL11 1AR - 18 munud o waith cerdded o Gampws Plas Coch (1.1 milltir) ac 8 munud o gerdded o Gampws Stryt y Rhaglaw (0.3 milltir).
  • San Silyn, LL13 8NA - 19 munud o waith cerdded  o gampws Plas Coch (0.8 milltir) a 9 munud o gerdded o gampws Stryt y Rhaglaw (0.4 milltir).
  • Stryd y Farchnad, LL13 8BB - 21 munud o waith cerdded o gampws Plas Coch (0.9 milltir) ac 11 munud o gerdded o gampws Stryt y Rhaglaw (0.5 milltir).
  • Tŷ Pawb, LL13 8BB - 21 munud o waith cerdded o gampws Plas Coch (0.9 milltir) ac 11 munud o gerdded o gampws Stryt y Rhaglaw (0.5 milltir).
  • Cilgant San Siôr, LL13 8HF - 22 munud o waith cerdded o gampws Plas Coch (1 milltir) a 12 munud o gerdded o gampws Stryd y Rhaglaw (0.5 milltir).
  • Byd Dŵr, LL13 8BG - 22 munud o waith cerdded o gampws Plas Coch (1 milltir) a 12 munud o gerdded o gampws Stryt y Rhaglaw (0.5 milltir).
  • Ffordd Cilgant, LL13 8GB - 25 munud o waith cerdded o gampws Plas Coch (1.4 milltir) ac 15 munud o gerdded o gampws Stryt y Rhaglaw (1.2 milltir).

Campysau Llanelwy a Llaneurgain
Mae digon o lefydd parcio ar gael ar gampysau Llanelwy a Llaneurgain.

 

Trafnidiaeth

Os ydych yn astudio yn ein campws yn Llaneurgain, gall y Brifysgol ddarparu trafnidiaeth o Gampws Plas Coch Wrecsam. Yn dibynnu ar y dyddiad a'r amser, mae'n bosib y byddwch yn gallu defnyddio'r bws gwennol am ddim. 

I'r rhai sy'n astudio ar gampws Stryt y Rhaglaw, mae wedi'i leoli'n gyfleus bellter cerdded (oddeutu 10 munud) o gampws Plas Coch. Yn ogystal, mae opsiynau i barcio yng nghanol y ddinas, sydd wedi eu hamlinellu uchod, gan wneud y gwaith cerdded hyd yn oed yn fyrrach.

Os ydych yn astudio yn ein campws yn Llaneurgain, nodwch os gwelwch yn dda er nad yw'r Brifysgol yn darparu trafnidiaeth, bod gan y campws ddigonedd o lefydd parcio. Yn ogystal, mae dewisiadau i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda safle bws Parc Busnes Llaneurgain ond rhyw 5 munud o waith cerdded o'r campws.

 

Llyfrgell

Mae'r llyfrgell wedi ei lleoli yn Llyfrgell a Chanolfan Cefnogi Myfyrwyr, ac mae'n cyfuno ein stoc llyfrau gwrthrychol gydag amrywiaeth o fannau astudio, yn ogystal â chyfleusterau argraffu a chopïo. Mae yna hefyd gasgliadau ar gyfer pynciau penodol yn Llaneurgain, Stryt y Rhaglaw a Llanelwy. Mae gan yr holl safleoedd hyn eu llyfrgell a'u mannau astudio eu hunain, a gellir benthyca eitemau drwy drefniadau a wneir yn lleol. 

Yn ychwanegol at hyn, byddwch yn gallu chwilio am eLyfrau ac EGylchgronau a chael mynediad atynt drwy gatalog ein llyfrgell, Chwiliwr Adnodd. 

Am fwy o gymorth gyda dysgu digidol, edrychwch ar ein pecyn cymorth digidol.

 

Bwyd a diod

Er bod yna gyfleusterau coginio yn ein neuaddau prifysgol i gyd, mae’r Brifysgol yn cynnig rhagor o opsiynau bwyd a diod ar y campws i fyfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu.

Campws Plas Coch Wrecsam

Y Gegin Unedig yw ein prif leoliad bwyta, sy'n cynnig popeth o frecwastau, snaciau 'Dewis a Mynd', brechdanau, saladau ac amrywiaeth o brydau poeth traddodiadol a chyfoes.
Mae Costa a Starbucks hefyd ar y safle yn ogystal â nifer o beiriannau gwerthu sydd wedi'u lleoli ar draws y campws er mwyn darparu snaciau a lluniaeth cyflym.

Campws Stryt y Rhaglaw 
Mae Ystafell 23 wedi'i lleoli yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol ar Gampws Stryd y Rhaglaw ac yn gwerthu detholiad o snaciau a diodydd. Mae gennym Starbucks hefyd ar y safle hwn a pheiriannau gwerthu wedi eu lleoli yma ac acw ar y campws mwn mannau cyfleus.

Cardiau arlwyo wedi'u llwytho ymlaen llaw 

Mwynhewch fwyd a diod yn rhwydd ar draws pob campws gyda'n cardiau arlwyo wedi'u llwytho ymlaen llaw, sydd ar gael mewn gwerth £30, £50, neu £100. Ar ôl ei brynu, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda manylion ar sut i gasglu a activate eich cerdyn. Prynwch eich cerdyn yma. 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â conference@wrexham.ac.uk 

 

Archfarchnadoedd/Manwerthu

Campws Plas Coch Wrecsam

Ynghyd â'n siop 'hanfodion' ar y campws, rydyn ni wedi ein lleoli drws nesaf i Barc Manwerthu Plas Coch lle mae Sainsbury's ac Aldi wedi’u lleoli, yn ogystal â manwerthwyr defnyddiol eraill. Yn ogystal, mae twll yn y wal i godi arian wedi'i leoli yn Boots, Sainsbury's a Gorsaf Betrol Shell, sydd gyferbyn â phrif fynedfa'r Brifysgol.

Mae Canol Tref Wrecsam, gan gynnwys y parc Siopa a Hamdden boblogaidd Dôl yr Eryrod, dim ond yn daith fer ar draed o'r prif gampws ble gewch chi ystod eang o siopau, bwytai a chyfleusterau adloniant stryd fawr.

Mae adeilad Undeb y Myfyrwyr yn gartref i Siop Argraffu a Llyfrau, yn ogystal â locer Amazon felly gallwch archebu pethau'n ddiogel ar-lein, heb boeni am fod adref i'w derbyn.

Darganfod mwy am yr hyn sydd gan Wrecsam i'w gynnig.

Campws Stryt y Rhaglaw

Rhyw 2 funud o waith cerdded o Ganol Dinas Wrecsam yw Campws Stryt y Rhaglaw, sy'n rhoi mynediad ichi at nifer o archfarchnadoedd, siopau a llefydd bwyta. 

Mae gan ein campws ar Stryt y Rhaglaw siop Starbucks ar y safle ac mae hefyd yn gartref i The Art Shop, sy'n cyflenwi ystod eang o gynnyrch celf a dylunio am bris rhesymol.