Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu 2023/24
Ynghylch y Gystadleuaeth
Mae Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu Prifysgol Wrecsam yn dathlu ei ymchwil, tynnu sylw at ei amrywiaeth, ac yn gwobrwyo'r unigolion a thimau ymchwil sy'n gwneud hyn yn bosib. Dyma'r drydedd flwyddyn y gystadleuaeth, ac mae'n gwahodd yr holl staff ymchwil gweithredol a myfyrwyr ymchwil i gymryd rhan.
Mae'n ffaith adnabyddus bod pobl yn rhoi fwy o sylw i luniau na llawer o ysgrifennu dwys, ac mae ein cystadleuaeth yn herio ymchwilwyr i gipio stori eu prosiect mewn un ddelwedd sengl. Nid yw'n hawdd, yn enwedig os yw eich maes pwnc yn wyddoniaeth galed ac nid yw cynrychiolaeth weledol o gysyniadau yn ffordd draddodiadol o arddangos eich gwaith... ond mae hynny'n rhan o'r hwyl!
Gall delweddau helpu i ymgysylltu a chipio sylw eich cynulleidfa darged. Gall y dull hwn o ledaenu eich helpu i gyrraedd pobl na fyddant fel arfer yn dangos diddordeb yn eich gwaith nac yn deall y jargon academaidd. Mae un llun yn werth mil o eiriau, yn ôl y sôn.
Gall ymdrin ag ymgysylltiad cyhoeddus mewn ffordd fwy creadigol hefyd eich helpu i ddehongli eich hun fel ymchwilydd, a gall hyd yn oed gynnig buddion llesiant. Canfu un astudiaeth bod tynnu llun a'i rannu bob dydd yn cynnig sawl mantais, gyda'r cyfranogwyr yn datgan bod treulio amser i ofalu am eu hunain yn rhoi hwb i'w hwyliau, a gallai gynnwys pum munud i dynnu llun ar ffôn neu anogaeth i fynd allan o'r tŷ i ddod o hyd i leoliad ffotogenig.
Ers dechrau'r gystadleuaeth, rydym wedi cael cynigion gwych gan staff a myfyrwyr ymchwil Wrecsam ar draws sawl maes pwnc amrywiol. Mae rhai pobl yn dewis cyflwyno llun traddodiadol, eraill yn dewis golygfa wedi'i osod yn benodol, a rhai hyd yn oed wedi defnyddio meddalwedd golygu llun i ychwanegu haenau ychwanegol at eu cynnig. Nid oes terfyn i'r posibiliadau, felly ewch ati i fod yn greadigol heddiw!
Pwy sy'n gymwys i gymryd rhan?
Pob ymchwilydd cyfredol (gan gynnwys MPhil, PhD, MRes, EdD a Doethuriaeth Broffesiynol).
Mae pob aelod o staff presennol Prifysgol Wrecsam yn gymwys i ymgeisio, ar yr amod ei fod yn a) gweithio tuag at radd ymchwil, b) yn meddu ar radd ymchwil ac ynghlwm yn weithredol â gwaith ymchwil, neu c) ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil fel aelod o staff academaidd.
Rhaid cynhyrchu delweddau o ganlyniad i ymchwil a wnaed fel y nodir uchod.
Beth sydd ynddi i mi?
Gallai delwedd sy'n ganlyniad uniongyrchol o'ch ymchwil neu sy'n cynrychioli agwedd arno ddenu diddordeb newydd yn eich gwaith. Gall y ddelwedd fod yn ddefnyddiol ar gyfer sawl peth, er enghraifft cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i'r wasg neu fel clawr i gyfrol hyd yn oed. Yn y pendraw gallai arwain at gynnydd yn y nifer o bobl sy'n cysylltu â'ch ymchwil a'i gyfradd gyfeirio.
Os bydd eich delwedd yn cyrraedd y rhestr fer, caiff ei harddangos ym Mhrifysgol Wrecsam, ar wefan Prifysgol Wrecsam ac o bosibl yn lleoliadau eraill yn lleol a chenedlaethol; gan eich cydnabod chi a'ch syniadau.
A oes gwobr i'r enillydd?
Bydd gwobrau ariannol i'r enillydd (£250) a'r ddau yn ail (£50 yr un).
Sut ydw i'n cymryd rhan?
I gofrestru, tynnwch lun a fydd yn denu diddordeb a thynnu sylw at eich ymchwil. Dylai'r ddelwedd hysbysu a denu sylw cynulleidfa o bobl academaidd nad ydynt yn arbenigwyr, a chynnig safbwynt gweledol ar ymchwil cyfredol lefel ddoethurol neu ôl-ddoethurol. Ynghyd â'r ddelwedd, dylid rhoi crynodeb dim llai na 100 gair a dim mwy na 200 gair sy'n egluro'r hyn mae eich delwedd yn ei ddangos a sut mae'n cysylltu â'ch ymchwil. Dylech ysgrifennu hwn mewn iaith sy'n ddealladwy i gynulleidfa o bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
VR Canllawiau Ffurflen Gais Cystadlu 23/24
Lle allaf ddod o hyd i enghreifftiau?
Gellir dod o hyd i'r holl ymgeiswyr o gystadlaethau Ymchwil Delweddu Prifysgol Wrecsam yn y gorffennol yn enillwyr a chynigion blaenorol.
Pryd fydd hi ar agor?
Bydd cystadleuaeth 2023-24 ym Mhrifysgol Wrecsam yn agor ar Ddydd Llun 20 Mai 2024.
Pryd fydd hi ar gau?
Bydd cystadleuaeth 2023-24 yn cau ar Ddydd Llun 22 Gorffennaf 2024.
A oes angen i mi fod yn fedrus o ran celf a ffotograffiaeth i gymryd rhan?
Dim o gwbl! Gweler enillwyr a chynigion blaenorol am dystiolaethau.
Rwy'n ansicr sut i fynd o'i chwmpas hi. Sut allaf archwilio syniadau?
Rydym yma i helpu! Cymerwch olwg ar Agweddau at Ffotograffiaeth neu cysylltwch â Karen Heald karen.heald@wrexham.ac.uk neu’r Swyddfa Ymchwil researchoffice@wrexham.ac.uk a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau. Gweler enillwyr a cheisiadau blaenorol am ysbrydoliaeth. Hefyd, mae crynodebau defnyddiol i gyd-fynd â'r delweddau ar gael gan y Swyddfa Ymchwil.