Ar ôl hir ymaros, lansiwyd Cyfiawnder: y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol (SIRI) ar 19 Ionawr, 2023. Daeth nifer sylweddol i’r lansiad, yn cynnwys staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid cymunedol PGW ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys o'r meysydd iechyd, tai, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a Llywodraeth Cymru.

Croesawodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor PGW, bawb i’r lansiad, ac yna cafwyd yr Athro Richard Day, y Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, yn amlinellu cryfderau ymchwil y Brifysgol ym meysydd peirianneg, gwaith cymdeithasol/polisi a throseddeg.

Nesaf, trafododd Dr Simon Stewart, Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, bwysigrwydd Cyfiawnder. Dywedodd: "Ein gobaith yw y bydd Cyfiawnder yn meithrin ymagwedd aml-sector, gan gyflymu creu partneriaethau.”

Yn ogystal, datgelodd Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr, mai Adam Skinner yw enillydd y gystadleuaeth logo! Dyluniodd Adam logo gyda thestun du ar gefndir gwyn yn ymdebygu i flychau â chadwyn yn mynd drwyddynt. Teimlir bod yr elfen o blethu yn y logo yn cyfleu'r rhwydwaith o berthnasoedd yr oedd Cyfiawnder yn awyddus i’w cefnogi yn berffaith; a theimlir bod y cynllun cyffredinol yn adlewyrchu gwreiddiau Cymreig y Sefydliad yn briodol.

Yn ystod gweddill y diwrnod, clywodd y mynychwyr gan yr Athro Iolo Madoc-Jones a'r Athro Wulf Livingston, dau o Gyd-gyfarwyddwyr y Sefydliad, ochr yn ochr ag academyddion a myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil ym meysydd Iechyd Cyhoeddus, Ieuenctid a Chymuned, Gwaith Cymdeithasol a Throseddeg.

Rhoddodd yr aelodau drosolwg o nifer o brosiectau ymchwil allweddol a gynhaliwyd gan Cyfiawnder gan gynnwys tai a digartrefedd oedolion mewn sefydliadau diogel, datblygu seilwaith gwyrdd, isafswm pris ar gyfer uned o alcohol yng Nghymru, diwylliant gwybodus o ran Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a thrawma, a chyfiawnder cymdeithasol mewn addysg uwch. Cyflwynodd ymchwilwyr ôl-raddedig eu pynciau ymchwil hefyd ar ymyriadau preswyl ar gyfer ymddygiad rhywiol niweidiol (Kevin Gallagher), profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol (Andrea Cooper), a phrofiad menywod o stelcio mewn perthynas (Helena Barlow).

Mae Andrea yn gobeithio recriwtio menywod sydd wedi troseddu neu bobl sydd wedi gweithio gyda menywod i gymryd rhan yn ei gwaith ymchwil (cyfweliad awr o hyd). Os ydych yn awyddus i ddysgu mwy, cysylltwch ag Andrea Cooper drwy S18002721@mail.glyndwr.ac.uk.

Yn dilyn lansiad y fideo o'r cysyniad Llywio Drwy'r Storm y llynedd, cyflwynodd Dr Tegan Brierley-Sollis ganfyddiadau yn ymwneud â'i hymchwil PhD ar ddiwylliant gwybodus o ran trawma. Chwaraeodd y fideo pwerus ar ddeall trawma i’r myfyrwyr: 

Ar y cyfan, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda rhyngweithio yn ystod yr awr ginio a chysylltiadau gwerthfawr wedi’u creu ar draws y Sefydliad a thu hwnt iddo. Wrth fyfyrio ar y diwrnod, dywedodd yr Athro Iolo Madoc-Jones, “Roeddwn yn falch iawn gyda faint o bobl a roddodd o’u hamser i fynychu ac am y negeseuon o gefnogaeth ac anogaeth a gawsom yn ystod y dydd. Mae’n amlwg bod cryn dipyn o gefnogaeth i sefydliad fel hwn a gobeithiwn y gall hyn yrru’r agenda cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant yn ei blaen yng ngogledd-ddwyrain Cymru a thu hwnt.”

Amlygodd y digwyddiad lansio uchelgeisiau ymchwil y gorffennol, y presennol a’r dyfodol ymhlith staff y Sefydliad yn ogystal ag atgyfnerthu'r dyheadau i sefydlu partneriaethau ymchwil academaidd a chymunedol pellach.