Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018 oedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r canlyniadau negyddol sefydledig o safbwynt defnyddio alcohol a chyffuriau eraill. Roedd yn amlinellu’r agenda ar gyfer mynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ynghyd â’u lleihau. Nod yr adolygiad hwn oedd asesu p’un a ellid priodoli’r canlyniadau a welwyd i’r camau gweithredu a roddwyd ar waith yn sgil y Strategaeth.

Defnyddiwyd y dull Dadansoddi Cyfraniadau i werthuso’r strategaeth. Mae hon yn broses sy’n helpu i ddangos effaith mentrau o fewn amgylchedd lle ceir gwahanol bartneriaethau yn cydweithio â’i gilydd, trwy amlygu’r canlyniadau. O ganlyniad i gasglu amryw fathau o dystiolaeth, mae’r dull hwn yn sefydlu cyfrif o gyfraniadau lle na ellir priodoli eu hachosion yn uniongyrchol. Cynigiwyd ei bod yn rhesymol i ddod i’r casgliad bod y polisi’n dylanwadu ar y canlyniad a ddymunir:

  • Os ceir damcaniaeth newid ar gyfer y polisi
  • Os rhoddwyd gweithgareddau ar waith yn ôl y bwriad
  • Os cefnogir y damcaniaeth newid gan dystiolaeth
  • Os yw’r canlyniadau fel y disgwylir iddynt fod yn y drefn arfaethedig
  • Y cyfrifwyd am ddylanwadau eraill

Wrth ddadansoddi effaith y Strategaeth, ystyriwyd chwe thema:

  • Atal
  • Lleihau niwed
  • Triniaeth
  • Ymyriadau teuluol
  • Argaeledd
  • Gweithio mewn partneriaeth

Roedd y tîm adolygu o Brifysgol Glyndŵr a’r Figure 8 Consultancy wedi archwilio llenyddiaeth ryngwladol, data a chanllawiau o safbwynt Cymru’n benodol, ac wedi ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn profi effaith y ddamcaniaeth newid.

Canfyddiadau Allweddol

  1. Canfuwyd ymateb datganoledig i ganlyniadau defnyddio alcohol a chyffuriau eraill
  2. Roedd y strategaeth yn canolbwyntio ar leihau niwed
  3. Cafwyd gwelliannau sylweddol o safbwynt cydgysylltu, partneriaethau a monitro dros gyfnod y Strategaeth
  4. Tystiolaeth o welliant o ran cyflenwi ac atebolrwydd ariannol
  5. Tystiolaeth o lwyddiant tymor byr o ran canlyniadau
  6. Ychydig iawn o dystiolaeth o effaith canlyniadau hirdymor
  7. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi llawer, ond nid pob un, o’r gweithgareddau a flaenoriaethir gan Lywodraeth Cymru
  8. Mae’r ymchwilwyr yn awgrymu y dylai Defnyddwyr Gwasanaeth chwarae rhan mewn modd cynhwysol a chynrychioladol
  9. Mae ymchwilwyr yn cymeradwyo’r cynnydd, ond eto’n nodi heriau at y dyfodol

Ystyriaethau allweddol i’w rhoi ar waith yn y dyfodol

  1. Gwaith partneriaeth parhaus
  2. Parhau i roi cefnogaeth i leihau niwed a sicrhau atebolrwydd defnyddiol dros weithgareddau
  3. Caniatáu i Ddefnyddwyr Gwasanaeth chwarae rôl fwy o fewn agendâu adfer ar lefel polisïau ac ymarfer

Darllenwch yr adroddiad cryno llawn a’r adroddiad terfynol  am ragor o fanylion.