Gwerthusiad o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 newidiadau i’r modd y mae’n mynd i’r afael â digartrefedd, gyda’r nod o ymestyn gwasanaethau sy’n atal digartrefedd a rhoi cymorth i bob ymgeisydd cymwys. Roedd yn cyflwyno dyletswydd newydd i awdurdodau lleol helpu i atal digartrefedd trwy gyflawni camau rhesymol i helpu unrhyw un a oedd yn dod ymlaen am gymorth. Hefyd, fe gafodd hyd yr amser pan ystyrir bod pobl yn cael eu bygwth â digartrefedd ei gynyddu o 28 diwrnod i 56. Yn ogystal â hynny, crëwyd fframwaith newydd i weithio gyda chymdeithasau tai a’r sector rhentu preifat. Nod y ddeddf oedd sicrhau bod ymyriadau cynnar ar waith i atal argyfyngau.
Mae’r ymchwil hwn werthusiad ôl-weithredu hydredol o’r ddeddf, a gynhaliwyd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Salford, ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Y nod oedd deall sut mae sefydliadau ac awdurdodau lleol wedi gweithredu’r Ddeddf, ynghyd â llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o’i heffaith. Roedd y tîm eisiau canfod unrhyw feysydd i’w gwella, ynghyd ag asesu effaith y ddeddfwriaeth ar ddefnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid allweddol.
Dechreuodd y gwerthusiad yn 2016, ac roedd yn cynnwys dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, ynghyd â grŵp ymgynghorol a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o sefydliadau fel Tai Cymunedol Cymru, Sefydliad Siartredig Tai Cymru, a Shelter Cymru. Datblygwyd offerynnau ymchwil gan y tîm ymchwil, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd dau arolwg, yr oedd blwyddyn rhyngddynt, gyda rhanddeiliaid o’r awdurdodau lleol, i gasglu gwybodaeth mewn perthynas ag amryw gamau’r Ddeddf. Bu’r ymchwilwyr yn ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth hefyd, i archwilio effaith newidiadau mewn gwasanaethau o safbwynt bobl a oedd wedi derbyn cymorth. Cynhaliwyd cyfweliadau ledled ardaloedd y chwe awdurdod lleol, gyda phobl a oedd yn derbyn cymorth ar y pryd. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda darparwyr gwasanaeth o blith Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Trydydd Sector.
Rhai o ganfyddiadau allweddol y gwerthusiad:
- Cafwyd cynnydd yn nifer y tai cymdeithasol a osodwyd gan awdurdodau lleol, ac roedd cyfran yr aelwydydd yr ystyriwyd eu bod yn ddigartref yn fwriadol wedi lleihau.
- Cafwyd cefnogaeth unfrydol i fwriad y Ddeddf gan ymatebwyr i’r arolwg o’r awdurdodau lleol ac ymhlith darparwyr gwasanaethau.
- Roedd amrywiad sylweddol ar draws Cymru, a hefyd o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, o ran y graddau y mabwysiadwyd ethos y Ddeddf.
- Roedd gweithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus yn dibynnu ar sgiliau, arbenigedd ac ymddygiad y staff sy’n darparu’r gwasanaeth, ynghyd â’r tai sydd ar gael ac sy’n fforddiadwy mewn ardal benodol.
- Roedd y mwyafrif o’r awdurdodau lleol yn adrodd heriau o ran gweithredu’r Ddeddf, a oedd yn cynyddu’r baich gweinyddol.
- Cafwyd amrywiad o ran faint o hyfforddiant a dderbyniwyd am y Ddeddf gan staff, ynghyd â’i ansawdd, ac roedd rhai heb dderbyn unrhyw fath o hyfforddiant.
- Ceir tystiolaeth o fwy o waith mewn partneriaeth rhwng sefydliadau trydydd sector.
Cafwyd consensws bod y fframwaith digartrefedd a gyflwynwyd gan y Ddeddf wedi cael effeithiau cadarnhaol. Roedd yn helpu i newid diwylliant awdurdodau lleol, gan weithio tuag at ddull o fynd i’r afael â digartrefedd sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Roedd nifer yr aelwydydd a chanddynt Angen Blaenoriaethol wedi lleihau ers y system a oedd yn bodoli cyn 2015, a llwyddwyd i atal sawl aelwyd a oedd dan fygythiad rhag cael eu troi allan.
Darllenwch yr adroddiad cyfan i gael rhagor o fanylion ac argymhellion .