.jpg)
Dr Dawn Jones a Gwelliant Cymru
Llwybrau at Effaith...
Rydym yn clywed llawer am ‘effaith’ o fewn Addysg Uwch, ond mae ‘effaith ymchwil’ yn golygu rhywbeth penodol o fewn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Diffinnir effaith fel “effaith, newid neu fudd i’r economi, cymdeithas, diwylliant, iechyd, polisi neu wasanaethau cyhoeddus, yr amgylchedd, neu ansawdd bywyd y tu hwnt i’r byd academaidd” (REF, 2021).
Yn benodol, er mwyn cael eu hystyried fel ‘effaith’, mae’n rhaid i unrhyw effeithiau, newidiadau, neu fuddion gael eu mesur a rhaid bod tystiolaeth i’w cefnogi, neu fel arall, sut ydym ni’n gwybod bod effaith gwirioneddol, a p’un a oedd yn gadarnhaol?
Mae ein hymchwilwyr yn cynnal gwaith ardderchog yn y ‘byd go iawn’, yn ymgysylltu â buddiolwyr ac yn gweithio â phartïon allanol sydd â diddordeb. Mae gan y rhan fwyaf o ymchwil y potensial i gael effaith, sydd bob amser yn dechrau gyda chynllun effaith a chyfathrebu sydd wedi’i ystyried yn llawn, prosiect ymchwil cadarn sydd wedi’i gynnal ag uniondeb, ac yna tystiolaeth o weithredu llwybrau i effaith trwy ddefnyddio canfyddiadau'r ymchwil.
Dr Dawn Jones a Gwelliant Cymru
Mae Dawn wedi sefydlu cysylltiad hirdymor, ystyrlon â Gwelliant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn rhan o gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant Gweithrediaeth GIG Cymru. Mae'r sefydliad hwn yn gweithio i ymgorffori gwelliannau Cymru gyfan i ansawdd a diogelwch system iechyd a gofal Cymru. Gan weithio gyda’r sefydliad hwn, mae gan waith Dawn y potensial o ddylanwadu ar safonau o fewn system iechyd y wlad.
Chwaraeodd siawns rôl yn llwyddiant y stori hon (fel sy’n digwydd yn aml!): Derbyniodd Dawn e-bost wedi’i anfon ymlaen gan ei rheolwr llinell a oedd yn amlinellu tendr y prosiect ymchwil arfaethedig. Roedd y tendr yn edrych am ymchwilydd i gynnal adolygiad llenyddiaeth cynhwysfawr yn edrych ar fodelau ac egwyddorion gofal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yng Nghymru. Er nad anableddau dysgu yw prif faes ymchwil Dawn, roedd y gwaith yn addas ar gyfer cymdeithasegydd â diddordeb mewn anghyfiawnder a hyrwyddo newid cadarnhaol. Weithiau, mae cyfleoedd da ar gael sydd ddim yn gweddu’n union i’ch maes - ond mae’n brofiad gwych ac yn gyfle i ddatblygu rhwydweithiau a gwneud gwahaniaeth.
Yn seiliedig ar yr adolygiad llenyddiaeth a gynhyrchodd Dawn, roedd cydweithredwr yn Gwelliant Cymru eisiau archwilio rhai o'r canfyddiadau ymhellach a daeth o hyd i gronfa arall o arian i Dawn barhau â'r gwaith yn y maes hwn. Un maes allweddol yn yr adroddiad oedd y diffyg o ran gwrando ar farn rhieni a gofalwyr, a osododd y sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach yn cynnal ymchwil sylfaenol gyda gofalwyr a rhieni plant ag anableddau dysgu. Ysgrifennodd Dawn gynnig a chyflwynodd hwn i Gwelliant Cymru, gan gyfeirio at y rhesymeg gref yn seiliedig ar yr adroddiad adolygiad llenyddiaeth, a derbyniodd gronfa arall o arian.
Cafodd yr adroddiad cychwynnol, a’r ail adroddiad yn seiliedig ar ganfyddiadau’r prosiect ymchwil o gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhieni a gofalwyr dderbyniad da gan y grwpiau hyn, a hefyd gan weithwyr proffesiynol yn y maes. Ynghyd ag ail adroddiad, cyflwynodd Dawn mewn dwy gynhadledd Cymuned Ymarfer yng Nghymru, lle'r oedd nifer o bartïon perthnasol a rhai â diddordeb yn bresennol. Yn seiliedig ar y lledaeniad hwn, awgrymodd Dawn i’w chydweithredwr Gwelliant Cymru y byddai’n syniad da siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd nesaf, er mwyn dysgu mwy am eu profiadau a’i barn ynghylch beth sy’n gweithio’n dda, a beth sydd angen ei wella.
Unwaith eto, comisiynwyd astudiaeth arall yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad blaenorol; fe wnaeth Dawn ddarganfod fod rhieni a gofalwyr wedi datgan rhwystredigaeth a phryder yn gyson ynghylch beth yr oeddent yn ei ystyried yn ddiffyg gweithio ‘ar y cyd’ gan weithwyr proffesiynol, a oedd yn cyferbynnu â gweledigaeth y Llywodraeth o ddarpariaeth ‘gwasanaeth di-dor’ ar gyfer plant gydag anableddau dysgu. Dyrannwyd rhagor o arian am fod Gwelliant Cymru yn awyddus i gynnal momentwm gyda’r ymchwil yn ennyn diddordeb ac yn dod yn boblogaidd yn y gymuned. Mae’r prosiect terfynol yn edrych ar brofiadau gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, ac addysg ar draws Cymru sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu.
Mae Gwelliant Cymru yn bwriadu arddangos tri phrosiect Dawn mewn digwyddiad, ac mae Dawn yn ysgrifennu'r canfyddiadau mewn erthyglau cyfnodolion i’w rhannu gyda’r gymuned academaidd.
Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwelliant yn Gwelliant Cymru:
“Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar draws Cymru, ynghyd â fforymau a chymunedau amlddisgyblaethol eraill. Pwrpas tymor-hir y prosiectau yw hyrwyddo’r canfyddiadau fel bod dealltwriaeth fwy eglur o’r hyn sy’n gweithio’n dda, ac unrhyw fylchau a all fod mewn gwasanaethau.”
Am fod effaith ymchwil yn dueddol o fod yn broses araf, mae hi’n hanfodol cynnal ymwybyddiaeth o sut caiff eich canfyddiadau eu defnyddio a pha newidiadau sy’n cael eu gwneud yn seiliedig ar eich ymchwil. Wrth i ymchwil Dawn ddod i ben, byddwn yn dilyn y llwybrau hyn i effaith i ddeall sut mae Gwelliant Cymru yn rhoi canfyddiadau’r ymchwil ar waith, ac yn dilyn canlyniadau unrhyw gamau gweithredu, a fydd, gyda gobaith, yn rhai cadarnhaol!