Isafbris Uned (MUP) am Alcohol – Yr Alban
Gorchwyl Iechyd Cyhoeddus yr Alban ar ran Llywodraeth yr Alban oedd gwerthuso effaith yr Isafbris Uned. Arweiniodd Prifysgol Sheffield un prosiect o fewn y gwerthusiad cyffredinol, gan ymchwilio i effaith yr Isafbris Uned ar ddefnyddio alcohol, ynghyd â gwariant ar bobl sy’n ddibynnol ar alcohol mewn lleoliadau sy’n darparu triniaeth. Roedd Dr Wulf Livingston o Brifysgol Glyndŵr yn rhan o’r elfen gyntaf o waith casglu data o leoliadau clinigol, a bu’n arwain ar yr ail elfen o fewn lleoliadau cymunedol.
Gweithredwyd yr Isafbris Uned yn 2018, ac mae hwn yn £0.50 ar gyfer pob uned o alcohol. Mae pobl sy’n yfed ar lefelau niweidiol, neu sy’n ddibynnol ar alcohol, yn grŵp a chanddynt anghenion cymhleth, gyda llawer ohonynt yn yfed alcohol rhad a chryf iawn y mae’r newid o ran prisiau yn ei effeithio. Nod yr ymchwil oedd casglu tystiolaeth am yr effeithiau ar batrymau prynu a defnyddio alcohol; ynghyd â strategaethau a ddefnyddir i ymateb i’r Isafbris Uned; iechyd; yr effaith ar aelodau teulu a gofalwyr; yr effaith ar bobl sy’n byw yn ardaloedd gwledig yr Alban; yr ymatebion i’r Isafbris Uned gan wasanaethau sy’n darparu triniaeth ar gyfer problemau alcohol; a ffactorau ychwanegol sy’n amherthnasol i’r Isafbris Uned, sydd efallai wedi cael effaith ar arferion yfed ar lefelau niweidiol.
Fe aeth yr ymchwilwyr ati’n gyntaf i ddiwygio damcaniaeth newid a oedd yn disgrifio’r modd y gallai’r Isafbris Uned effeithio pobl sy’n yfed alcohol ar lefelau niweidiol. Nodwyd tri llwybr: rhoi’r gorau i yfed am gyfnod estynedig; mabwysiadu strategaethau ymdopi yn y tymor byr; neu ddal ati yn ôl yr arfer.
O safbwynt yr elfen gyntaf, cynhaliwyd cyfweliadau strwythuredig ar sail arolwg gydag oedolion sy’n cael mynediad i wasanaethau triniaeth yn yr Alban a Gogledd Lloegr. Defnyddiwyd offeryn sgrinio i ganfod cyfranogwyr a oedd yn debygol o fod yn ddibynnol ar alcohol. Casglwyd data o wahanol samplau o bobl yn ystod tri chyfnod o amser: cyn gweithredu’r Isafbris Uned, 3-9 mis ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned, a 18-22 mis ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned. Gofynnwyd cwestiynau i gyfweledigion ynghylch eu defnydd o alcohol, eu bywyd cymdeithasol ac o ran gwaith, ynghyd â’u profiadau o safbwynt troseddu. Yn ogystal, gofynnwyd i’r cyfweledigion gwblhau dyddiadur am yr alcohol a brynwyd ac a yfwyd ganddynt yn ystod yr wythnos nodweddiadol ddiwethaf o yfed cyn derbyn triniaeth. Gofynnwyd wedyn i is-sampl, yn ogystal â rhai darparwyr gwasanaeth, gymryd rhan mewn cyfweliad ansoddol dilynol.
Roedd yr ail elfen yn ymwneud â chyfweld pobl a oedd yn yfed ar lefelau niweidiol, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Roedd yr ymchwil cyfranogol hwn yn cynnwys aelodau o gymunedau a effeithir gan y materion a oedd dan sylw yn yr astudiaeth, ac fe’u gwahoddwyd i gyfrannu a chydweithredu â’r tîm ymchwil. Roedd y cyfweliadau’n archwilio defnydd blaenorol o alcohol a chyffuriau, ynghyd â newidiadau o safbwynt prisiau, argaeledd cynhyrchion alcohol, newidiadau o ran patrymau yfed, effeithiau ehangach yr Isafbris Uned, lleihau niwed o ganlyniad i’r Isafbris Uned, a thestunau eraill a oedd yn codi.
Roedd trydedd elfen yn defnyddio data arolwg ar lefel unigolion, a gasglwyd dros gyfnod o ddegawd ledled y Deyrnas Unedig, a oedd yn caniatáu canfod unrhyw newidiadau ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned yn yr Alban. Defnyddiwyd cwmni ymchwil i’r farchnad fasnachol i gasglu’r data ar ymddygiadau, agweddau, a dyddiaduron yfed er mwyn canfod ymddygiad tua 30,000 o oedolion o safbwynt eu harferion yfed.
Dadansoddwyd canfyddiadau’r holl brosiectau gyda’i gilydd er mwyn asesu canlyniadau allweddol, ac fe’u cyflwynwyd o fewn un adroddiad cyffredinol.
Prisiau a dalwyd a’r defnydd o alcohol
Cafwyd cynnydd yn y prisiau a dalwyd am alcohol ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth glir o ostyngiad yn y defnydd o alcohol ymhlith pobl a oedd yn yfed ar lefelau niweidiol ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned. Roedd yr ymchwilwyr wedi canfod gostyngiad arwyddocaol o safbwynt ystadegol, o ran lefel yr arferion yfed ‘peryglus’ ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned, ond nid o safbwynt y rheiny a oedd yn yfed ar lefelau ‘cymedrol’ neu ‘niweidiol’. Roedd data o gyfweliadau yn datgelu bod rhai unigolion wedi lleihau eu lefelau defnydd ar ôl gweithredu’r Isafbris Uned trwy newid i gynhyrchion a oedd yn gryfach ond yn cael eu gwerthu yn ôl cyfaint llai.
Straen ariannol, y cynhyrchion a brynwyd, a phatrymau yfed
Cafwyd tystiolaeth o straen ariannol ymhlith rhai pobl a oedd yn yfed ar lefelau niweidiol a’u teuluoedd. Roedd cyfranogwyr yn canfod modd o gael arian i brynu alcohol, a oedd yn cynnwys gwario llai ar fwyd a biliau cyfleustodau. Yn fwy cyffredinol, roedd cyfranogwyr yn ymdopi trwy fabwysiadu strategaethau a ddefnyddiwyd yn flaenorol ganddynt, pan nad oeddent yn gallu fforddio alcohol. Ystyriwyd na fyddid ond yn lleihau’r defnydd o alcohol yn niffyg unrhyw ddewis arall. Roedd rhai pobl a oedd yn yfed ar lefelau niweidiol yn adrodd eu bod yn fwy meddw ar ôl newid i yfed cynhyrchion cryfach, ac roedd eu teuluoedd yn pryderu ynghylch y potensial am fwy o wrthdaro.
Canlyniadau ar raddfa ehangach
Ychydig iawn o dystiolaeth a gafwyd o safbwynt canlyniadau negyddol eraill yn dilyn gweithredu’r Isafbris Uned, gydag ychydig o bobl yn troi at droseddu i gael arian i brynu alcohol, ac roedd ychydig o bobl yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn lle alcohol. Fodd bynnag, roedd yr astudiaeth wedi llwyddo i ganfod, o ran rhai o’r rheiny a oedd yn byw yng nghyffiniau’r ffin rhwng yr Alban a Lloegr, bod mwy o bobl yn prynu alcohol yn Lloegr. Roedd hyn yn cynnwys gwneud eu siopa wythnosol dros y ffin yn Lloegr, prynu alcohol pan oeddent wedi mynd yno am resymau eraill, ynghyd â mynd yno’n un swydd i brynu llwyth o alcohol ar yr un pryd.
Ymwybyddiaeth, cefnogaeth a ffactorau ychwanegol
Cafwyd nad oedd pobl sy’n ddibynnol ar alcohol neu’n yfed ar lefelau niweidiol yn ymwybodol iawn o’r Isafbris Uned a’i ddiben, ac nad oeddent wedi derbyn unrhyw wybodaeth am hyn gan wasanaethau a oedd yn darparu triniaeth.