Cyhoeddwyd Isafswm Prisio ar Gyfer Alcohol yng Nghymru yn 2020. Yn ystod ymgynghoriadau, mynegwyd pryder gan bobl efallai bod yfwyr problemus yn newid i ddefnyddio sylweddau eraill, mwy fforddiadwy. Nod yr astudiaeth oedd archwilio’r graddau yr oedd bobl yn cymryd cyffuriau eraill yn lle alcohol, o ganlyniad i’r prisiau uwch, gan ganolbwyntio ar farnau defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth.

Gan ddefnyddio cyfweliadau a holiaduron ar-lein, fe aeth y tîm ati i ymgysylltu ag yfwyr niweidiol a oedd yn derbyn triniaeth, ynghyd â darparwyr triniaeth. Cynhaliwyd cyfweliadau â 49 o ddefnyddwyr gwasanaeth a 38 o ddarparwyr gwasanaeth. Roedd y mwyafrif o’r defnyddwyr gwasanaeth yn wrywaidd, â’r rheiny rhwng 45 a 54 oed, gyda dros hanner ohonynt yn defnyddio alcohol yn unig. Lleolwyd yr ymatebwyr ledled Cymru.

Dosbarthwyd dau arolwg ar-lein ar wahân trwy’r e-bost i ddefnyddwyr a darparwyr gwasanaeth trwy rwydweithiau’r ymchwilwyr a’r cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd cyfanswm o 100 o ddarparwyr gwasanaeth a 93 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cwblhau’r holiadur.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn rhagweld canlyniadau negyddol o ganlyniad i gyflwyno Isafswm Prisio ar Gyfer Alcohol, a dim ond rhai yfwyr oedd yn hyderus ynghylch eu gallu i addasu i’r newidiadau. O ran y tebygolrwydd y byddant yn newid sylweddau, roedd yn gysylltiedig â’u patrymau presennol. Er enghraifft, os nad oedd rhywun yn defnyddio unrhyw gyffuriau eraill yn barod, roeddynt yn fwy tebygol o newid i brynu alcohol rhatach. Awgrymodd rhai ohonynt y byddant yn newid o yfed seidr, a fyddai’n debygol o fod yn ddrytach o dan y ddeddfwriaeth newydd, i yfed gwirodydd a gwin.

I’r gwrthwyneb, gallai’r rheiny a oedd yn defnyddio cyffuriau’n flaenorol newid o alcohol i gyffuriau. Ystyriwyd bod y grŵp hwn yn fwy dibynnol ar alcohol a bod ganddynt lai o adnoddau ariannol neu fecanweithiau ymdopi i’w helpu fel arall. Awgrymwyd mai’r cyffur y byddent yn fwyaf tebygol o’i ddewis fyddai rhywbeth sy’n efelychu effaith alcohol (e.e. bensodiasepinau), gan mai’r nod yn aml yw cau allan popeth ac anghofio profiadau. Soniodd rhai ymatebwyr hefyd eu bod wedi ystyried defnyddio cyffuriau amgen sydd ar gael yn helaeth, fel coffi, ynghyd â hylif diheintio dwylo neu wirod methyl, sy’n peri gofid.

Yn gyffredinol, canfu’r ymchwilwyr hyn mai ychydig iawn o ddarparwyr gwasanaeth oedd yn wybodus am yr isafswm prisio newydd, a chofnodwyd pedwar prif ganfyddiad trwy gydol y cyfweliadau a’r arolygon:

  1. Byddai ceisio datrys y broblem o ran argaeledd alcohol rhad yn newid cadarnhaol mewn diwylliant, a allai fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
  2. Nid oedd y cynnydd mewn prisiau’n debygol o gael effaith o bwys ar yfwyr cymedrol.
  3. Byddai’r ddeddfwriaeth yn effeithio grŵp bach o unigolion sy’n agored i niwed, e.e. bobl sy’n ddigartref.
  4. Cred mai treth oedd y newid mewn prisiau, ynghyd â phryder o safbwynt ble y byddai’r arian ychwanegol yn mynd.

I gloi, roedd yr astudiaeth yn tybio ei bod yn annhebygol y byddai llawer o bobl yn newid o alcohol i sylweddau eraill. Fodd bynnag, roedd defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth yn besimistaidd o ran effaith bosibl isafswm pris ar gyfer alcohol, gan eu bod yn meddwl y byddai pobl yn canfod modd arall o gadw at eu lefel arferol o yfed.

Darllenwch y papur llawn.