Lleoliadau ar gyfer cymryd cyffuriau a gafwyd ymlaen llaw, o dan oruchwyliaeth, yw Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau (YCC/DCRs). Darperir offer chwistrellu glân, ynghyd â staff hyfforddedig sy’n gallu cyfeirio defnyddwyr ymlaen at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gellir rhoi cymorth mewn achosion o gymryd gorddos hefyd. Felly nod YCC yw cymedroli effaith cymryd cyffuriau, gan atal marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, ynghyd â throsglwyddiad firysau, gyda’r prif nod o gefnogi’r defnyddiwr i geisio cael cymorth ar gyfer ei sefyllfa.

Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn yr Alban ar hyn o bryd dair gwaith yn fwy na hynny o gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd, ond nid oes gan y DU ystafelloedd o’r fath ar hyn o bryd. Mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn rhwystr, ond mae rhanddeiliaid sy’n wybodus ym maes defnyddio cyffuriau wedi galw am gyflwyno YCC. Mae’r Llywodraeth yn gwrthwynebu i’r cynigion hyn, gan awgrymu y byddai darparu ystafelloedd o’r fath yn annog  y defnydd o gyffuriau, ac yn tynnu oddi ar wasanaethau eraill. O ganlyniad, mae’r broblem hon yn gymhleth o safbwynt gwleidyddol a chymdeithasol, a byddai cyflwyno YCC yn gofyn am eithriadau cyfreithiol arbennig o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Roedd yr ymchwil hwn yn ceisio barnau rhanddeiliaid strategol a fyddai’n debygol o ymwneud â gweithredu a rheoli YCC pe byddent yn cael eu cyflwyno yn yr Alban. Cynhaliwyd astudiaeth gyfweliadau ansoddol drawstoriadol gyda sampl o benderfynwyr allweddol o Lywodraeth yr Alban, partneriaethau Alcohol a Chyffuriau lleol, partneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol, sefydliadau trydydd sector, a grwpiau eiriolaeth cenedlaethol.

Cafwyd consensws ymhlith y cyfranogwyr bod marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn argyfwng cenedlaethol a oedd yn gofyn am weithredu. Roedd cefnogaeth gyffredinol i dreialu YCC. Nodwyd pedair thema allweddol:

1. YCC a phenderfyniadau o fewn system wleidyddol gymhleth

Siaradodd y cyfweledigion am densiynau rhwng pwerau datganoledig a deddfwriaeth genedlaethol. Oherwydd nad oedd lleoliad y penderfyniadau’n glir, gallai bobl gefnogi mabwysiadu YCC gan honni bod y cyfrifoldeb dros y penderfyniad i’w rhoi ar waith yn deillio o rywle arall. Awgrymwyd bod amhendantrwydd gwleidyddol yn atal gweithredu ar sail tystiolaeth. Yn ogystal, cafwyd diffyg gweithredu o ganlyniad i ansicrwydd. Yn gyffredinol, awgrymodd y cyfweledigion nad oedd gan yr un o’r rhanddeiliad y pŵer i ddatrys yr anghytundeb llwyr hwn o safbwynt gwleidyddol.

2. Rôl a sefyllfa YCC o fewn y system driniaethau ehangach

Roedd cyfweledigion yn gweld YCC fel rhan o system ehangach o ddarpariaethau iechyd cyhoeddus, gan gydnabod y dylai eu heffeithiau gyd-fynd ag ymyriadau sy’n bodoli eisoes. Felly cafwyd gwrthwynebiad i honiad Llywodraeth y DU bod cefnogwyr YCC yn eu gweld fel datrysiad annibynnol. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n fwy ar y modd y gallai’r ddarpariaeth o YCC gydweddu o fewn y system bresennol, yn hytrach na ph’un a ddylid ei chyflwyno. Codwyd pwyntiau hefyd ynghylch cyfyngiadau YCC sefydlog, o safbwynt eu bod yn cyfyngu pobl yn ddaearyddol, gan na fyddai modd i rai defnyddwyr deithio iddynt. Roedd y mwyafrif o’r cyfweledigion yn teimlo hefyd bod cwmpas YCC yn ymgyrraedd yn bellach na lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo firysau. Nodwyd bod defnyddwyr gwasanaeth yn haeddu parch ac urddas, yn hytrach na gostwng niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau i lefel pryder o safbwynt iechyd cyhoeddus.

3. Ymagweddau tuag at dystiolaeth

Awgrymodd y cyfweledigion bod angen tystiolaeth gref i argyhoeddi’r endidau gwleidyddol sydd â’r grym i greu newid. Roedd penderfynwyr yn mabwysiadu ymagwedd ‘gwyddoniaeth gwella’ sy’n dweud bod angen casglu tystiolaeth ar lefel leol a thrwy gydgynhyrchu, wrth dderbyn hefyd bod tystiolaeth ryngwladol yn ddigon i gyfiawnhau treialu YCC.

4. Rôl iaith wrth fframio YCC

Nodwyd y byddai angen deall a mabwysiadu egwyddorion o safbwynt lleihau niwed, cyn gallu gweld YCC mewn golau cadarnhaol. Er enghraifft, gellid dehongli’r ymadrodd ‘ystafelloedd cymryd cyffuriau’ yn wahanol i ‘ganolfan atal gorddosau’, felly cydnabuwyd pwysigrwydd iaith a fframio pethau yn y modd cywir. Roedd canfyddiadau o’r canlyniadau’n hanfodol bwysig hefyd. Mae iaith yn bwysig o safbwynt sicrhau cefnogaeth gan y gymuned ar lefel ehangach, oherwydd bod cymunedau a effeithir gan broblemau cyffuriau wedi dangos rhywfaint o wrthwynebiad.

Yn gyffredinol, dengys y data bod ystyriaethau gwleidyddol wedi bwrw newid i’r cysgod. Roedd lefelau’r gefnogaeth i YCC yn cael eu penderfynu hefyd gan werthoedd personol a data presennol ar effeithiolrwydd YCC. Roedd ymwybyddiaeth y byddai angen i YCC ffurfio rhan o strwythur driniaeth ehangach, ynghyd ag ansicrwydd o ran y modd y gallent fod yn rhan o hyn.

Darllenwch yr adroddiad cyfan.