Yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (Yr Is-adran Fwyd), bydd Ysgol Busnes Gogledd Cymru (YBGC) yn cynnal digwyddiad undydd (Rhwydwaith Ymchwil Bwyd y Brifysgol) ar 22 Tachwedd 2023.

Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio'r heriau a'r cyfleoedd presennol sydd yn wynebu ein diwydiant bwyd a diod (BaD), cyflwyno’r ymchwil diweddaraf sy'n gysylltiedig â'r diwydiant Bwyd a Diod a rhwydweithio ymhlith darlithwyr ac ymchwilwyr Bwyd a Diod yng Nghymru.

Mae gan YBGC eisoes rai llwybrau Bwyd a Diod ar yr cyrsiau MBA ac MSc. Yn ogystal, gyda'r ail-ddilysiad sydd ar ddod o’r Radd Busnes Cymhwysol, mae YBGC yn edrych ar ychwanegu llwybr Bwyd a Diod i'r radd israddedig hon.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y graddau canlynol: