Ar wahân i gynnig astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig, mae YBGC Prifysgol Glyndŵr hefyd yn arbenigo mewn cynghori busnesau bwyd a diod a chefnogi busnesau bach lleol ar sut i dyfu eu busnes.
Meddai'r Athro Graham Jackson: "Rydym yn cefnogi ac yn mentora busnesau bach newydd er mwyn cynyddu'r gyfradd oroesi yn y sector bwyd. Yn ddiweddar, bu i ni weithio gyda busnesau bach a chanolig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru fel Patchwork Foods Ltd a Natural Wholefoods Ltd i adnabod cyfleoedd codi arian ac ailstrwythuro busnes fel y bydd ganddynt fwy o gyfle i fod yn fwy llwyddiannus".

Mae ymchwil yn dangos bod tua 20% o fusnesau newydd yn methu yn y flwyddyn gyntaf, tua 30% yn yr ail flwyddyn a thua 50% yn y bumed flwyddyn. Mae'r methiant hwn wedi arwain at drafferthion a dioddefaint trefniadaeth, sy'n gadael yr ymarferwyr â chwestiynau heb eu hateb. Yn unol â hynny, mae YBGC wedi gwneud cais am grant LEADER ac wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (Cadwyn Clwyd Cyfyngedig), a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cwblhawyd y prosiect a'r cyhoeddiadau perthnasol yn ddiweddar yn 2022/23. Bu'n ymchwilio i’r sgiliau rheoli sydd eu hangen ar gyfer llwyddo mewn busnesau bach newydd yn y sector bwyd. Defnyddiwyd y canfyddiadau i ddylunio dysgu ar-lein ar gyfer gwella sgiliau rheoli perchnogion busnesau bach.

Mae cefnogi busnesau bach yn hanfodol oherwydd bod y rhannau hyn o wybodaeth yn trosglwyddo o'r byd academaidd i fusnesau lleol. Yn ogystal, mae busnesau bach yn cael eu hystyried fel y peiriant sy’n gyrru’r twf economaidd sy'n gwella economïau lleol a chynnyrch gwladol gros.

CYSWLLT: Os ydych chi'n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint neu Sir Ddinbych ac yn ystyried agor eich busnes eich hun o fewn y sector bwyd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i gofrestru eich diddordeb neu os ydych chi eisiau unrhyw gyngor ar sut i ddechrau ar eich gyrfa entrepreneuraidd.

Cysylltwch â'r Athro Jackson ar g.jackson@glyndwr.ac.uk ffôn 0197829066 neu Dr Muhyaddin ar s.muhyaddin@glyndwr.ac.uk neu Dr Binsardi at binsardia@glyndwr.ac.uk