decorative

Cyfoethogi Cysylltiadau Rhwng Prifysgolion a’r Diwydiannau yng Nghymru Rôl Staff Ar Flaen y Diwydiant

Ymchwil dan sylw: Laura Gough, Ymchwilydd PhD a Phennaeth Menter

Mae prifysgolion yn rhan hanfodol o’u rhanbarthau, ac mae cysylltiadau cadarn â’r diwydiant yn allweddol i arwain arloesedd a datblygu sgiliau. Yng Nghymru, mae strategaethau’r llywodraeth yn amlygu’r partneriaethau hyn, ond mae eu cynnal yn effeithiol yn cymryd amser, ymddiriedaeth, a’r bobl gywir.

Mae Staff sydd Ar Flaen y Diwydiant (IFS) yn chwarae rhan ganolog, gan weithredu fel pontydd rhwng y byd academaidd a’r diwydiant. Ond eto mae eu swyddi, eu sgiliau, a’u cymwyseddau yn parhau heb ymchwil ddigonol, bwlch sydd ar hyn o bryd yn cael ei ymchwilio gan Laura Gough, Myfyriwr PhD a Phennaeth Menter.

Gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau, mae ymchwil Laura yn cyfuno arolygon ag IFS, academyddion, a chynrychiolwyr o’r diwydiant, ac mae cyfweliadau lled-strwythuredig yn dilyn er mwyn archwilio cysylltiadau yn fwy manwl. Mae dadansoddiadau o’r data hyn yn helpu i nodi’r tueddiadau, y strategaethau, a’r heriau sydd ynghlwm â chydweithrediad effeithiol.

Amlyga ganfyddiadau cynnar:

  • Ymddiriedaeth fel sylfaen pob partneriaeth
  • Mae busnesau bach a chanolig yn gwerthfawrogi cymhwysedd perthynol, wrth i gwmnïau mwy roi pwyslais ar wybodaeth dechnegol
  • Pwysigrwydd hunaniaeth rôl glir, strategaethau effeithiol, a llywio amgylcheddau polisïau

Mae’r ymchwil hon yn rhoi llais i’r bobl sy’n llywio cydweithrediadau rhwng prifysgolion a’r diwydiannau ac mae’n helpu i ddiffinio’r sgiliau a’r cymwyseddau sy’n gwneud IFS yn llwyddiannus. Drwy ddeall y rolau hyn, gallwn gryfhau partneriaethau sydd o fudd i’r byd academaidd ac i’r diwydiannau ym mhob cwr o Gymru.

Cysylltwch â Laura.Gough@wrexham.ac.uk os hoffech ragor o wybodaeth.