.jpg)
Grymuso Penderfyniadau Cleifion Drwy Hyrwyddo Gofal Iechyd Moesegol
Ymchwil dan sylw: Tanya Wood, Ymchwilydd PhD
Mae’r system gofal iechyd yn cael ei thrawsnewid yn sylweddol. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a mwy o alw am wasanaethau, mae’r GIG yn wynebu pwysau cynyddol sy’n arwain at amseroedd aros hirach a chystadleuaeth gynyddol gan ddarparwyr preifat. Yn y dirwedd newidiol, mae’r rôl o farchnata gofal iechyd wedi dod yn bwysicach fyth.
Mae Tanya Wood, myfyrwraig PhD rhan amser yn ei thrydedd flwyddyn, yn ymchwilio i sut y gall hyrwyddo gofal iechyd gefnogi penderfyniadau cleifion yn foesegol. Gyda thros ddau ddegawd o brofiad mewn marchnata a gofal iechyd, daw Tanya â phersbectif unigryw i’r systemau cymhleth sy’n dylanwadu ar ofal claf, o glinigwyr a thimau cyllid i swyddogion caffael a rhoddwyr gofal.
Mae ymchwil Tanya yn canolbwyntio ar weithdrefnau dewisol fel llawdriniaethau clun a phen-glin, sydd i gyfrif am bron i chwarter miliwn o lawdriniaethau yn flynyddol yn y DU. Mae’r penderfyniadau hyn yn hynod bersonol a gallant gael effaith sylweddol ar lwybrau a deilliannau triniaeth. Fodd bynnag, mae llawer o gleifion yn teimlo eu bod yn cael eu llethu a heb gael eu paratoi’n ddigonol i ymdrin â’u dewisiadau, yn enwedig yn y farchnad hunan-dalu.
I ddechrau, gan ystyried ystod eang o newidynnau mewn marchnata gofal iechyd, cyfyngodd Tanya’r ffocws i hyrwyddo ar ôl adolygiad llenyddol helaeth. Nod ei hymchwil yw cwestiynu: All hyrwyddo gofal iechyd arwain cleifion tuag at ddewisiadau dysgedig yn foesegol?
I ateb hyn, mae Tanya yn cynnal cyfweliadau ansoddol gyda chleifion sydd wedi cael llawdriniaeth. Bydd mewnwelediadau o’r cyfweliadau hyn yn llywio datblygiad offeryn arolwg, gan arwain at gam meintiol yn defnyddio modelu hafaliad strwythurol (SEM) i ystyried patrymau dyfnach mewn penderfyniadau cleifion.
Carreg filltir ddiweddar yn nhaith academaidd Tanya oedd mynychu’r Academi Colocwiwm Doethurol Marchnata yng Ngholeg Prifysgol Cork. Derbyniodd fwrsariaeth i gefnogi cyfranogiad, roedd yn brofiad hynod o gyfoethog iddi - gan dderbyn adborth gwerthfawr ac ysbrydoliaeth i ehangu ei chwestiynau cyfweliad i roi gwell adlewyrchiad o safbwyntiau cleifion y GIG.
Mae ymchwil Tanya yn pwysleisio gwirionedd hanfodol: tra bod gofal iechyd yn fusnes, mae hefyd yn hynod o bersonol. Trwy ddefnyddio strategaethau hyrwyddo moesegol, gall y diwydiant rymuso cleifion i wneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd â’u hanghenion, eu gwerthoedd, a’u nodau iechyd unigol.