Yn ystod haf 2023, ymwelodd Dr Karen Heald, Darllenydd Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol, â Japan ar gyfer y 18fed Triennial Conference of the International Society for the Study of Time (ISST).
 
Yn ystod y gynhadledd pum niwrnod, casglodd artistiaid, gwyddonwyr ac ysgolheigion ynghyd i archwilio rôl amser o bersbectif rhyngddisgyblaethol. 

Archwiliodd y gynhadledd eleni Amser a Mesuriadau, gan edrych ar y modd y mae gwahanol broffesiynau wedi datblygu systemau amrywiol o fesur amser, y tu hwnt i glociau mewn rhai achosion. 

Crynodeb Dr Heald o'r gynhadledd:
 
The Timekeeper and the Hour Glass: Delweddau Symudol Artist ac Agweddau Barddonol Anunionlin Amser
 
I nifer o ddiwylliannau Gorllewinol mae creadigaeth artiffisial amser yn aml yn cael ei fesur yn gronolegol drwy ein dirnadaethau o'r ‘cloc’.

Gan gyfathrebu mynegiadau tebyg i’r artistiaid a’r damcaniaethwyr cyfoes, Kiyokawa Asami, Pipilotti Rist, Trinh T Minha a Tacita Dean, mae’r awdur, artist ac academydd, y mae ei ymarfer yn croesawu delweddau symudol, yn cynnig creu ffilm fer newydd a phapur cyd-destunol penodol ar gyfer yr arddangosfa, ynghyd â symposia sy’n archwilio agweddau barddonol anunionlin amser.
 
Gosodir yr ymchwil o fewn cyd-destun celf gyfoes, y celfyddydau ac ymchwil wyddonol, gweithredu ffeministaidd, a dulliau ymatebol i’r safle. Trwy fethodoleg ryngddisyblaethol gymhleth yn ymgorffori’r defnydd perfformiadol o gyfryngau ar sail amser, wrth ymgysylltu ag ymholiadau athronyddol, dadansoddiad gweledol ac ymchwil arbrofol, bydd y traethawd ymchwil yn defnyddio astudiaethau Jane Hawkins ‘Travelling to infinity...,’, syniadau Julia Kristeva am y berthynas rhwng testunau llenyddiaeth a gwaith celf a rhaglenni dogfen traethodol Hito Steyerl. Nod y papur yw mynegi ffenomena diwylliant ac anfesuradwyedd gwrthrychau amserol a gofodol amserol profiad synhwyraidd neilltuol o’r ‘cloc’.”

Gwaith Karen, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yw ffilm yn dwyn y teitl ‘The Timekeeper and the Hour Glass’