Polisïau, llywodraeth leol a newid ymddygiad

Chwefror 2022.

Mae Dr Christopher White, Darlithydd mewn Iechyd, Iechyd Meddwl, a Llesiant, wedi bod yn gweithio ar draws thema teithio llesol ers sawl blwyddyn, gan gynnwys gorffen PhD yn y maes. Mae teithio llesol yn cyfeirio at ddulliau o deithio, fel cerdded a beicio, sy’n cynnwys symud ac ymarfer corff, ac sy’n dda i’n hiechyd meddwl a chorfforol. Mae teithio llesol yn cael effeithiau ehangach hefyd, fel lleihau faint o draffig sydd ar y ffyrdd a'r llygredd aer sy’n gysylltiedig â hynny. Er gwaethaf buddion deniadol mwy o bobl yn ymgymryd â dulliau teithio llesol lle bo’n bosibl, mae'n ymddangos nad yw’r llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth hyrwyddo teithio llesol y tu allan i Lundain. Nid yw’r gymuned academaidd wedi rhoi fawr o sylw i’r polisi beicio ychwaith.

Mewn un papur, mae Christopher a’r Athro Daniel Bloyce o Brifysgol Caer yn dadansoddi cyhoeddiadau’r llywodraeth ar deithio llesol rhwng 1995 a 2018, ar gyfer Lloegr. Gwnaethant ymchwilio themâu allweddol o fewn y cyd-destun ac archwilio p’un a oedd nodau ac amcanion y polisi wedi'u cyflawni. Roedd yn ymddangos nad oedd polisïau teithio llesol wedi arwain at fwy o deithiau beicio; yn hytrach, gall fod y ffocws ar unigolion yn newid eu hymddygiad fod wedi tanseilio’r nodau polisi cyffredinol. Nid oedd y polisïau’n gosod targedau cenedlaethol i gynyddu cyfraddau beicio a cherdded, ac mae ffafriaeth y llywodraeth dros ddatganiadau ymgynghorol dros ddeddfwriaeth yn cyfyngu ar reolaeth dros y broses polisi. Dangoswyd manteision economaidd mwy o feicio a cherdded gyda dadansoddiadau cost a budd1, ond mae'n dal i ymddangos nad yw penderfyniadau deddfwriaethol yn cael eu gwneud gan y bobl mewn pŵer, ac nid yw arian yn cael ei wario ar gynlluniau beicio a cherdded; yn hytrach, mae'r ffocws yn parhau ar drafnidiaeth modur. Darllenwch y papur llawn.

Mewn papur diweddarach, eto gyda Daniel Bloyce a’r Athro Miranda Thurston o Brifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol Fewndirol Norwy, aeth y tîm ati i archwilio’r cynnig a ariennir gan y wladwriaeth ar gyfer seilwaith beicio yng Nghaer. Cynhaliwyd pymtheg cyfweliad gyda staff sy’n ymwneud â chynllunio a gweithredu’r rhaglen Trefi Arddangos Beicio a ariennir gan y wladwriaeth, nad oedd Caer wedi cyflawni nodau ei chais ar ei chyfer. Honnodd ymatebwyr bod awdurdodau’n aml yn gwneud addewidion cymhleth er mwyn gwella paneli dyfarnu, nad oedd partïon cyflwyno allweddol wedi’u hymgynghori tan ar ôl sicrhau cyllid, ac nad oedd effeithiau anfwriadol wedi'u rhagweld. Efallai nad cyllid cystadleuol yw’r ffordd orau o symud ymlaen wrth gyflawni nodau teithio llesol, gan fod awdurdodau’n cyflwyno cynigion uchelgeisiol, sydd, yn aml, yn ddatgysylltiedig â gwirioneddau eu gweithredu nhw. Darllenwch y papur llawn. 

Mae canfyddiadau o brosiect PhD Chris yn adlewyrchu gwaith cynharach mewn perthynas ag effeithiau a pholisïau teithio llesol. Yn canolbwyntio ar Fanceinion Fwyaf y tro hwn, cynhaliwyd 42 cyfweliad gydag aelod o weithlu iechyd cyhoeddus Manceinion Fwyaf er mwyn deall eu barn ar hyrwyddo iechyd teithio llesol. Roedd unigolion gafodd eu cyfweld yn cynnwys cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ymgynghorwyr iechyd cyhoeddus cynghorwyr, a swyddogion datblygu chwaraeon. Gwnaethant sylwi fod symudiad sylweddol tuag at fesurau atal salwch, gyda theithio llesol yn cael ei ystyried fel prif weithgaredd. Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr yn cwestiynu dilysrwydd ac effeithiolrwydd y dull hwn o hyrwyddo, yn enwedig oherwydd y ffocws diysgog iechyd cyhoeddus ar wasanaethau sy’n seiliedig ar driniaeth yn hytrach nag atal. Awgrymodd gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol hefyd bod anghyfartaledd rhwng llunio polisïau'n seiliedig ar dystiolaeth a phenderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan gynghorwyr. Awgrymwyd bod cynghorydd yn blaenoriaethu cyfathrebu gyda thrigolion cyn dilyn canllawiau; roedd hyn yn bryder i gefnogwyr teithio llesol sy’n gwybod nad oes llawer o ymwybyddiaeth am deithio llesol ymysg y rhan fwyaf o’r cyhoedd sy’n pleidleisio, ac nad oedd wedi’i flaenoriaethu. 

Ar y cyfan, nid oes llawer o bwysau ar lywodraethau lleol i herio’r ffordd draddodiadol o feddwl am drafnidiaeth. Mewn adeg o galedi parhaus, mae'n annhebygol y byddwn yn gweld newidiadau o’r top i’r gwaelod gan awdurdodau lleol, timau iechyd cyhoeddus, ac eraill, i wella darpariaethau teithio llesol o fewn eu hardaloedd.


  1Insall, (2013, p.63)