Ynghylch y Gyfadran

Fel Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd rydym yn ymfalchïo yn ein portffolio ymchwil gymhwysol sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar ein hardal leol a thu hwnt, trwy ein hamgylchedd ymchwil arloesol a chreadigol. Nod y diwylliant ymchwil sy’n datblygu gennym yw cefnogi ein staff a’n myfyrwyr sy’n gweithio ar wahanol lefelau i ddatblygu ethos o gydweithio ym maes ymchwil.

Canolbwynt gwaith ymchwil ein Cyfadran yw Iechyd a Lles. Mae ein llwyddiant o ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos ein hymrwymiad i hyn, gydag astudiaethau achos o ran ‘Digartrefedd yng Nghymru’ a ‘Polisi Alcohol a Chyffuriau’.

Bydd y Gyfadran yn lansio ei sefydliad ymchwil cyntaf ym mis Medi (2022), a arweinir gan yr Athro Iolo Madoc Jones, yr Athro Wulf Livingston a Dr Caroline Gordon, sef: ‘Cyfiawnder’ Y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol. 

Meysydd Arbenigedd