Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae Bwrdd Gwaith Ieuenctid interim Cymru wedi cyflwyno ei adroddiad cyntaf ar ddatblygu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae Gwaith Ieuenctid wedi dangos ei werth i bobl ifanc ar sawl achlysur, yn enwedig yn ystod y pandemig a’r cyfnodau clo. Mae gan Waith Ieuenctid werth uchel, ond nid yw'r llywodraeth ac awdurdodau lleol bob amser yn ymwybodol o hyn.

Mae’r bwrdd yn eiriol dros ddeddfwriaeth newydd, corff cenedlaethol i gymryd cyfrifoldeb am y rhaglen, datblygu model ariannu newydd, a fframwaith gwaith ieuenctid mesuradwy. Argymhellodd y bwrdd y dylai pobl ifanc fod wrth wraidd hyn drwy helpu i lywio’r gwaith o gynllunio a chyflwyno deddfwriaeth newydd. Mae pobl ifanc eisiau bod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn cyfleu ystyr gwaith ieuenctid mewn gwirionedd, sy’n gwanhau ei safiad fel gwasanaeth hanfodol i bobl ifanc ac a allai arwain at doriadau pellach yn y gyllideb. Byddai sylfaen ddeddfwriaethol gryfach yn galluogi argaeledd gwasanaethau gwaith ieuenctid ar gyfer pob person ifanc 11-25 oed yng Nghymru.

Ymhlith pethau eraill, awgrymodd y bwrdd gynllun peilot cenedlaethol o gerdyn hawl ieuenctid, yn debyg i gynllun sydd eisoes ar waith yn yr Alban. Byddai’r cerdyn yn rhad ac am ddim i bob person ifanc 11-25 oed sy’n byw yng Nghymru, yn gweithredu fel cerdyn prawf oedran achrededig, yn amlinellu’r hyn sydd ar gael i bobl ifanc yn eu hardal, ledled Cymru, ac yn rhyngwladol, a gellid ei ddefnyddio hefyd fel cerdyn cynllun gwobrau.

Yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o fesurau cynaliadwy y gellir eu rhoi ar waith i gadw gwaith ieuenctid yng ngolwg y llywodraeth a chaniatáu i wasanaethau fod yn hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru.

Darllenwch yr adroddiad llawn.