Dr Amarit Gill

Myfyriwr Graddedig MRes 2019-20

Roedd yr MRes mewn Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau academaidd yn rhan-amser, ochr yn ochr â’m hyfforddiant fel Meddyg Sefydliad Academaidd. Cyflwynir y cwrs drwy Brifysgol Wrecsam mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae wedi'i achredu gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol. O ganlyniad i'r bartneriaeth unigryw hon, mae’r cwrs yn cynnig manteision o safbwyntiau ymchwil a chlinigol. Mae'r cyfleusterau labordy newydd yn rhagorol ac felly hefyd ansawdd yr addysgu ymarferol yn y labordy yn ystod y modiwl Technegau Dadansoddol a Moleciwlaidd.

Roedd modiwlau pellach a addysgir mewn Patholeg Glinigol a Dulliau Ymchwil yn ddiddorol, yn addysgiadol ac yn cyflwyno cynnwys dysgu sy'n berthnasol i'r Traethawd Ymchwil. Mae yna le i deilwra prosiect yn unol â’ch diddordebau ymchwil gan wella’ch rhagolygon gyrfaol. Mae yna gyfoeth o adnoddau ar gael, ac mae’n hawdd eu cyrraedd trwy lyfrgell y brifysgol a llwyfan dysgu ar-lein. Roedd addysgu am ymgeisio am grantiau ymchwil a chymeradwyaeth foesegol yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen, gydag awgrymiadau ac enghreifftiau defnyddiol yn cael eu rhoi gan ymchwilwyr profiadol. Roedd hi’n hawdd cysylltu â’r staff academaidd a’r goruchwylwyr drwy gydol y cwrs, ac roedden nhw’n ymatebol ac yn gefnogol i anghenion myfyrwyr.

Mae cwblhau'r cwrs hwn ochr yn ochr â gweithio'n llawn-amser wedi bod yn heriol ar brydiau, ond yn gyraeddadwy a gwerth chweil. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i rôl profion gwaed haematolegol a biocemegol arferol wrth ragfynegi cymhlethdodau ôl-driniaethol yn dilyn echdoriad traws-wrethrol ar diwmor pledren. Ar y cyfan, rwyf wedi cryfhau fy sgiliau a'm portffolio academaidd, gan gyflawni profiad ymchwil, cysylltiadau ymchwil gwych a chyhoeddiadau ar hyd y daith. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio fel Hyfforddai Radioleg Glinigol yn Sheffield ac yn edrych ymlaen at ymchwiliadau academaidd pellach.


Jakub Matusiak

Myfyriwr Graddedig MSc Gwyddorau Biofeddygol ac Enillydd Gwobr Goffa Helen Hughes 2020-21

Ar ôl cwblhau gradd BSc Microbioleg ym Mhrifysgol Lerpwl, gwnes gais i astudio’r rhaglen MSc Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Wrecsam. Dewisais yr opsiwn hwn gan fod y rhaglen wedi'i hachredu gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol (IBMS) sy'n hanfodol i gyflogwyr yn y maes gwyddorau iechyd ochr yn ochr â phrofiad gwaith.

Yn ogystal, mae myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen hon yn cael cyfle i astudio a threulio amser yn Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol Maelor (MAUMSS) BIPBC, sy’n gyfleuster o’r radd flaenaf, lle cânt brofiad ymarferol gan ddefnyddio'r technegau labordy clinigol ac ymchwil diweddaraf. Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen hon hefyd gynnal eu prosiectau ymchwil labordy yn MAUMSS.

At hynny, mae'n bwysig sôn bod nifer sylweddol o ddarlithoedd yn cael eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol y GIG (fel llawfeddygon a rheolwyr patholeg) lle maent yn trafod astudiaethau achos go iawn fel rhan o'u haddysgu. Mae'r rhaglen yn gynhwysfawr ac yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o ddulliau ymchwil i haematoleg a microbioleg. Yn y bôn, mae rhywbeth i bawb sydd â diddordeb mewn gwyddorau biofeddygol a meddygaeth.   

Mae rhaglen MSc Biofeddygol Prifysgol Wrecsam yn ddewis gwych i unrhyw un sydd eisiau dysgu am wyddorau labordy meddygol, diagnosteg glinigol ac ymchwil. Mae'n rhaglen sydd wedi'i strwythuro'n dda, wedi'i threfnu a'i harwain gan weithwyr proffesiynol academaidd a gofal iechyd cyfeillgar, cymwynasgar a phrofiadol sy'n defnyddio eu harbenigedd i addysgu a chynnig profiad dysgu rhagorol i'r myfyrwyr.

Un o gryfderau eraill y rhaglen hon yw'r gefnogaeth ragorol a roddir gan staff i helpu a chynghori myfyrwyr gyda'u dewisiadau gyrfaol. I unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gwyddorau Biofeddygol, meddygaeth neu ymchwil glinigol, argymhellaf raglen MSc Gwyddorau Biofeddygol Prifysgol Wrecsam yn fawr.


Lydia Nightingale-Williams

MSc Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Wrecsam 2023-24

Ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrh) mewn Gwyddor Fforensig ym Mhrifysgol Wrecsam, penderfynais wneud cais am y cwrs MSc Gwyddorau Biofeddygol yn y brifysgol, sydd wedi’i achredu gan IBMS. Dewisais y rhaglen hon gan fod gen i ddiddordeb mewn Gwyddor Fiofeddygol a bod y cwrs yn cwmpasu ystod eang o fodiwlau gan gynnwys technegau dadansoddol a moleciwlaidd, gwyddorau’r gwaed, imiwnoleg a microbioleg, patholeg clefydau, dulliau ymchwil ac ymarfer proffesiynol. Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio amser yn cyflawni eu prosiectau ymchwil yn Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol Maelor (MAUMSS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), sy'n gyfleuster ymchwil o'r radd flaenaf. Yn ystod y cyfnod hwn, gall myfyrwyr weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel gwyddonwyr ymchwil, meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill sydd, heb os, yn gwella'r profiad dysgu.

O ran fy nhraethawd ymchwil fy hun, cyflawnais astudiaeth yn dwyn y teitl, “An evaluation of the role of various biochemical parameters and tumour markers in patients diagnosed with Bladder Cancer and Prostate Cancer: ‘A comparative study’”. Mwynheais y profiad hwn yn fawr ac rwy'n gobeithio y gallwn gyhoeddi'r gwaith hwn mewn cyfnodolyn perthnasol a adolygir gan gymheiriaid.

Roedd y darlithoedd a gyflwynwyd gan staff academaidd Prifysgol Wrecsam yn hynod ddefnyddiol ac addysgiadol hefyd, gan gynnwys y darlithoedd a gyflwynwyd gan weithwyr proffesiynol y GIG.

Mae'r staff a'r tiwtoriaid yn anhygoel ac mor gefnogol. Fel myfyriwr aeddfed â theulu ifanc, gallai rheoli’r gwaith fod yn heriol, ond gwnaeth y staff a'r tiwtoriaid hyn i gyd yn bosibl i mi. Roedd y defnydd o gyfarfodydd a darlithoedd ar-lein yn ddefnyddiol iawn ac roedd y sicrwydd y gallwn gysylltu â staff ar unrhyw adeg yn wych. Mae gan Brifysgol Wrecsam dîm cymorth myfyrwyr rhagorol sydd bob amser wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw faterion, o gymorth TG i gyngor cyllid. Cynigir cymorth hefyd wrth archwilio a dod o hyd i'r cyfleoedd gyrfaol cywir i fyfyrwyr, sy'n ddefnyddiol iawn.

I unrhyw un sy'n ystyried Prifysgol Wrecsam ar gyfer eu gradd ôl-raddedig, byddwn yn ei hargymell yn fawr, yn enwedig mewn pwnc STEM fel y Gwyddorau Biofeddygol.

Byddaf yn graddio y flwyddyn academaidd hon, 2023-24, o’m gradd ôl-raddedig.