Cau'r ddolen yn Economi Gylchol Amaethyddiaeth a Bwyd Cymru. 

Mae tîm amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Wrecsam, dan arweiniad Dr Isabella Nyambayo, Uwch-ddarlithydd Maeth a Deieteteg, wedi ennill dros £7k o gyllid gan Rwydwaith Arloesi Cymru ar gyfer prosiect yn y sector amaeth-dechnoleg, bwyd a'r economi wledig. Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu i ariannu gwaith grwpiau ymchwil ac arloesi cydweithredol yng Nghymru, yn seiliedig ar feysydd o gryfder cydnabyddedig. 

Ariannwyd cyfanswm o 23 prosiect ledled Cymru gan arwain at gynhyrchu ceisiadau gwerth dros £9m, gyda gwerth £14m arall o geisiadau yn cael eu datblygu yn y dyfodol. Yn gweithio ar y cais hwn gydag Isabella o Wrecsam mae'r Athro Dr Graham Bonwick, Uwch Ddarlithydd Gwyddor Bwyd; Dr Phoey Teh, Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg; a Dr Sanar Muhyaddin, Darlithydd mewn Busnes.  

O brifysgolion partner allanol, mae'r tîm yn cynnwys Dr Rob Elias, Canolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor; Ginnie Winter, Technolegydd Bwyd o Met Caerdydd; Yr Athro Sonal Chaudry, Athro mewn Rheolaeth Gynaliadwy, Prifysgol Caerefrog; Yr Athro Bing XU, Athro Cyllid, Prifysgol Heriot-Watt.  

Mae partneriaid allanol eraill yn cynnwys Dr Ifeyinwa Kanu, Prif Swyddog Gweithredol IntelliDigest Ltd, Yr Alban; David Rose, Sylfaenydd, Prif Swyddog Gweithredol, JustOne Organics, UDA; a Dr Mulugheta T Solomon, Arbenigwr Systemau Amaethyddol a Bwyd (Technoleg Ôl-Gynaeafu), Dadansoddeg Data ac Ymgynghorydd Technoleg Amaeth, Gwlad Belg.  

Y Prosiect: 

Ar hyn o bryd, mae system fwyd Cymru yn dibynnu'n helaeth ar broteinau dietegol sy'n seiliedig ar anifeiliaid. Mae'r defnydd o gig wedi'i gysylltu â phryderon ynghylch iechyd a’r effaith ar yr amgylchedd. Bydd ymchwilio i ddeietau mwy cynaliadwy i gefnogi economi gylchol yn helpu i wella iechyd cymunedau ac amgylcheddau. 

Codwyd pryderon yn adroddiad WWF Cymru Wales - System Fwyd yng Nghymru sy'n Addas i Genedlaethau'r Dyfodol (2020) bryderon na all llawer o Gymry fforddio deiet cynaliadwy iach ac fe wnaeth rhai argymhellion. Drwy'r consortiwm hwn, ein nod yw adolygu'r argymhellion hyn drwy: dylunio a chysylltu systemau bwyd o'r fferm i'r fforc tra'n gwella prosesau adfywio pridd, ail-leoleiddio system fwyd, cryfhau diogelwch bwyd, a chreu cymhellion economaidd; gweithredu mandadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; dylunio hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer y sector bwyd-amaeth; dylunio isadeileddau bwyd, marchnata, digidol ac ariannol sy'n cysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr; lleihau gwastraff bwyd i wella mynediad at fwyd iach a chasglu data i'w ymgorffori yn Fframwaith Bwyd Cyffredinol Cenedlaethol ar gyfer Cymru. 

Mae arbenigedd y consortiwm yn cynnwys gwyddor bwyd a diogelwch, maeth, dylunio cynnyrch, pecynnu, technolegau ôl-gynaeafu, strategaeth sero net, marchnata, peirianneg bwyd, ariannu cynaliadwy, cyfrifiadureg, gweithio gyda busnesau bach yn y sector amaeth-dechnoleg a bwyd, a gwneud cais am gyllid cyfalaf ac ymchwil. 

Gweithdy 1

Bydd y consortiwm o arbenigwyr yn cynnal Adolygiad Cyflym i nodi bylchau neu heriau i'r economi gylchol yng Nghymru. Crynhoi'r wybodaeth yn gyhoeddiad yn ogystal â nodi rhanddeiliaid yng Nghymru.   

Gweithdy 2

Cynhadledd/gweithdy undydd gyda rhanddeiliaid Cymru a’r tîm a llunio crynodeb o sut y bydd y consortiwm yn mynd i'r afael â rhai o'r argymhellion yn adroddiad WWF Cymru Wales.  

Gweithdy 3

Ysgrifennu ceisiadau gan gynnwys cyllidebau terfynol, gweithgareddau prosiect, ac amserlenni ar gyfer cam 2 y prosiect (£1 miliwn).  Nodi gweithgareddau a fyddai'n gofyn am gymorth parhaus i alluogi parhad o fewn economi gylchol Cymru.