Effaith
Mae pobl yn gofyn ‘beth yw effaith?’ yn aml ac yn meddwl fod rhannu eich gwaith gyda chynulleidfa’n golygu fod eich ymchwil wedi cael effaith. Fodd bynnag, mae cyfnewid gwybodaeth (e.e. cyhoeddi, cynadleddau, cyfarfodydd) yn ragflaenydd creu effaith trwy ddysgu; mae’n llwybr i greu effaith.
Mae’r effaith yn dechrau pan rydych chi’n gweld y buddion, y mae’n rhaid eu mesur mewn rhyw fodd.
5 Egwyddor i fod yn sylfaen i’ch Effaith chi
Dylunio |
Deall beth sydd ar bawb ei eisiau Cymryd eich amswer Dylunio cyfnewid gwybodaeth yn ofalus Meddu ar Gynllun B Ymchwilio i'r rhanddeiliaid cyn dechrau Sicrhau cefnogaeth Bod yn niwtral wrth reoli ymchwil Defnyddio amrywiaeth o ddulliau Canfod a defnyddio broceriaid gwybodaeth |
Cynrycholi |
Cynnwys y bobl gywir Talu sylw i wahaniaethau pŵer Cynnwys yr holl bartion mor gynnar ag y bo'n bosibl Cynrycholi amrywiaeth Iawn y diddordeb Deall a chreu rhwydweithiau |
Ymgysylltu |
Darganfod cymelliannau Creu capasiti ar gyfer ymgysylltu tywy gyfnewid gwybodaeth Llunio perthnasoedd personol Defnyddio dulliau cyfathrebu lluosog Cadw'r cyfan yn hygyrch Gweithio o gwmpas ymrwymiadau Cadw cofnodion Parchu gwybodaeth Ieol Rhannu cyfrifoldebau |
Effeithiau Cynnar |
Cyflawni'r enillion sydyn Gweithio er budd cydfuddiannol |
Adlewyrchu a Chynnal |
Cael adborth rheolaidd gan gyfranogwyr Gwneud amser i fyfyrio ar yr effaith Sicrhau parhad cynnwys rhanddeiliaid Cynnal momentwm |
Strategaeth Effaith a Chyfathrebu Ynghylch Ymchwil
Mae Ymchwil ac Arloesi y DU yn diffinio Effaith Ymchwil fel a ganlyn: "y cyfraniad amlwg y mae ymchwil ardderchog yn ei wneud i gymdeithas a'r economi". Hynny yw, manteision mesuradwy ymchwil i gymdeithas, yr economi neu'r amgylchedd, y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae ein strategaeth Effaith a Chyfathrebu ynghylch Ymchwil yn pennu fframwaith a fydd yn rhoi hwb i gyflwyniad 2029 y Brifysgol i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), gyda'r nod o gynyddu ein dyraniad o gyllid Cysylltiedig ag Ansawdd (QR).
Strategaeth Effaith a Chyfathrebu Ynghylch Ymchwil