Felly rydych chi eisiau gwneud effaith yn y byd go iawn gyda’ch ymchwil? P’un ai eich cymhelliad chi yw’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil neu wneud gwahaniaeth ynddo’i hun, mae cynllunio’n rhan annatod o’r siwrne effaith. O ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mae’r effaith yn cael ei fesur ar sail arwyddocâd a chyrhaeddiad, felly dechreuwch gydag Arwyddocâd a ddechreuwch yn fach.  Pan fyddwch chi wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol mewn un maes, yna ewch ymlaen i Gyrhaeddiad. Nid oes unrhyw bwynt i chi ddweud fod eich gwaith chi wedi cyrraedd pob gwlad yn y byd os nad oedd gan unrhyw un yn y gwledydd hynny unrhyw ots amdano.

Beth bynnag rydych chi’n benderfynu ei wneud, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi cynnwys ffordd o fesur effaith i weld a yw’n gadarnhaol neu’n negyddol. Sicrhewch fod gweithgareddau casglu effaith wedi’u cynnwys yn eich cais moeseg hefyd; er enghraifft, efallai y byddwch chi’n dymuno anfon rhai holiaduron adborth yn dilyn y gweithgaredd, neu gynnal cyfweliadau yn dilyn triniaeth i gasglu eich effaith chi.

Os ydych chi’n ansicr beth allech chi ei wneud i fesur effaith, medrwch gael syniadau sut i greu effaith o’r astudiaethau achos blaenorol yn eich maes chi yn impact.ref.ac.uk. Pan fo gennych chi rai syniadau, cynhwyswch nhw yn eich cynllun.

Dyma gynllun templed y medrwch chi ddechrau ei lenwi heddiw gyda manylion eich prosiect cyfredol neu brosiect arfaethedig. Dylech ystyried hon fel dogfen fyw y medrwch ddychwelyd ati’n rheolaidd a’i diweddaru gyda datblygiadau, llwyddiannau neu fethiannau eich taith effaith. Nid yw popeth yn mynd yn unol â’r cynllun, a bydd cael Cynllun B wrth gefn o fudd bob amser.

Gweithiwch ar eich cynllun yn eich tîm ymchwil, yna gwerthuso eich dyluniad a’ch cynllun neu, yn well fyth, gofynnwch i ffrind beirniadol wneud sylwadau ar ei ddichonoldeb. Y mwyaf o ymenyddion sy’n ymwneud â gwerthuso eich cynllun, y gorau. Mae effaith ymchwil yn broses gydweithredol go iawn.

Research Impact Vision Template

Prof. Mark Reed's Stakeholder Analysis Template

3i analysis template

Fast Track Impact planning template

Cambridge Impact Planning Template

Cynghorion i gryfhau llwybrau cynllunedig tuag effaith

  • Ysrbydoli gyda nodau effaith credadwy a buddion diriaethol
  • Nodi’r buddiolwyr a sut y byddan nhw’n elw o’ch gwaith chi
  • Dangos y galw am eich gwaith, eich bod chi’n bodloni angen
  • Mapio gweithgaredd ar nodau effaith
  • Sefydlu tystiolaeth effaith a brolioi am yr hyn rydych chi wedi’i wneud eisoes
  • Cynnwys gwerthuso effaith yn eich cynllun – meddu ar gynllun i wirio eich cynnydd
  • Nodi’r costau
  • Cynnwys effaith yn eich cynllun ymchwil drwyddo draw
  • Ei gadw’n syml
  • Gofyn am adborth effaith cyn adolygu

Camgymeriadau cyffredin

  • Dim nodau effaith clir
  • Buddion i academyddion yn unig
  • Ymgysylltu gyda’r cyhoedd heb bwrpas
  • Cynlluniau amwys gyda diffyg manylion (e.e. rydw i’n mynd i newid y byd)

Ymgysylltu llwyddiannau gyda rhanddeiliaid

  1. Gwnewch yn siwr fod yr holl randdeiliaid perthnasol yn cael eu cynrychioli – sicrhewch eich bod wedi meddwl am unrhyw un a allai gael eu heffeithio gan eich gwaith chi a’u cynnwys o’r dechrau.
  2. Ystyriwch gyflogi hwylusydd proffesiynol (os oes gennych chi’r arian) neu rywun niwtral i reoli’r dynameg pŵer rhwng academyddion a rhanddeiliaid.
  3. Grymuswch eich rhanddeiliaid gyda gwybodaeth hygyrch a phwerau gwneud penderfyniadau.

Nid oes un ‘cyhoedd’, ac ni fydd gan bawb o’r cyhoedd ddiddordeb yn eich gwaith chi. Dewch o hyd i’r cyhoedd sydd â diddordeb a threfnu cyfarfod rhanddeiliaid.