.jpg)
Nexus Wrecsam Cylchgrawn Academaidd o Ymchwil
Galwad am Bapurau
Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gyhoeddi lansiad Nexus Wrecsam, ein cyfnodolyn ymchwil mewnol newydd sbon - sy’n lansio yn ystod Gwanwyn 2026!
Rydym yn gwahodd myfyrwyr a staff o bob disgyblaeth i gyflwyno ymchwil a gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol. Mae hwn yn gyfle gwych i gyhoeddi’r ymchwil rydych wedi’i chynnal o dan fantell Prifysgol Wrecsam.
Beth Rydym yn Chwilio Amdano
- Erthyglau Ymchwil
- Adroddiadau Ymchwil
- Nodiadau Ymchwil
- Adolygiadau Llyfrau
Gellir cyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob erthygl a gyhoeddir ynn cynnwys crynodebau dwyieithog.
Dyddiadau Pwysig
- Dyddiad Cau Cyflwyno: Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025
- Hysbysiad o Ganlyniad yr Adolygiad: Dydd Gwener 27 Chwefror 2026
- Penderfyniadau Cyhoeddi Terfynol: Dydd Gwener 3 Ebrill 2026
- Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Gwener 29 Mai 2026
Sut i Gyflwyno
Anfonwch eich llawysgrif mewn fformat Word at nexus@wrexham.ac.uk. Dylech gynnwys llythyr eglurhaol byr a gwybodaeth am yr awdur.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych am drafod eich cais, mae croeso ichi gysylltu â ni: nexus@wrexham.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at ddarllen eich gwaith!