Mae eich rôl yn hanfodol ar gyfer ein helpu i gynnal safonau academaidd uchel a chefnogi cyd ymchwilwyr.

Beth yw Adolygiad gan Gyfoedion?

Mae adolygiad gan gyfoedion yn golygu darllen ymgais cydweithiwr yn ofalus, gan ddarparu adborth sydd o gymorth ac sy’n dangos parch. Bydd eich adolygiad yn helpu awduron i wella eu gwaith a sicrhau mai dim ond ymchwil o safon uchel sy’n cael ei chyhoeddi.

Pam Adolygiad gan Gyfoedion?

  • Cefnogwch eich cymuned academaidd.
  • Dewch i ddeall am ymchwil arall yn eich maes.
  • Adeiladwch eich CV gyda phrofiad adolygiad gan gyfoedion gwerthfawr.

A Ddylech Chi Dderbyn Gwahoddiad Adolygu?

Gofynnwch i chi'ch hun:

  • A yw’r papur yn gysylltiedig gyda’ch arbenigedd?
  • Ydych chi’n gallu bodloni’r terfyn amser (3 wythnos fel arfer)?
  • Oes gennych chi ddigon amser am adolygiad gofalus, meddylgar?

Os ydych yn ansicr, mae’n iawn dweud na neu ofyn am fwy o amser.

Sut i Ysgrifennu Adolygiad Sydd o Gymorth

  • Byddwch yn adeiladol gan ddangos parch: Tynnwch sylw at gryfderau yn ogystal â meysydd ar gyfer gwelliant.
  • Byddwch yn benodol: Eglurwch pa newidiadau rydych yn eu hargymell a pham.
  • Canolbwyntiwch ar y darlun mawr: Cymorth gyda strwythur, eglurder y ddadl a dilysrwydd yr ymchwil.
  • Gwahaniaethwch yr adborth: Gwahanwch y problemau mawr yn eglur oddi wrth y mân awgrymiadau.
  • Cadwch lais ddi-duedd: Byddwch yn broffesiynol ac yn garedig.
  • Cyfrinachedd: Cadwch y llawysgrif a’ch adolygiad yn gyfrinachol. Mae'r broses yn ddienw.
  • Dim AI: Peidiwch â defnyddio offer AI i ysgrifennu eich adolygiad neu adroddiad.

Argymhellion Posib

  • Derbyn heb unrhyw newidiadau
  • Derbyn gyda mân ddiwygiadau
  • Derbyn gyda diwygiadau mawr
  • Gwrthod (os nad yw’r papur yn addas ar gyfer ei gyhoeddi)

Llinell Amser

  • Cwblhewch eich adolygiad o fewn 3 wythnos i dderbyn y papur.
  • Os gwneir cais am adolygiadau, mae’n bosib y gofynnir i chi adolygu’r llawysgrif newydd.

Sut i Gyflwyno Eich Adolygiad

Anfonwch eich adborth drwy e-bost at nexus@wrexham.ac.uk.

Diolch am gyfrannu at Nexus Wrecsam - mae eich arbenigedd yn gwneud gwahaniaeth!