.jpg)
Canllawiau i Awduron
Content Accordions
-
Rhestr Wirio Nexus Wrecsam
Cyn cyflwyno eich erthygl, sicrhewch os gwelwch yn dda bod:
☐ Y llawysgrif yn dilyn canllawiau awdur Nexus Wrexham
☐ Y cyfrif geiriau o fewn cyfyngiadau (os manylir arnyni)
☐ Y crynodeb wedi’i gynnwys (yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg os yn bosib)
☐ Y geiriau allweddol wedi’u darparu
☐ Y cyfeiriadau wedi’u fformatio’n gywir
☐ Y ffigyrau a thablau wedi’u labelu a’u cyfeirio atynt yn y testun
☐ Y datganiadau cymeradwyaeth foesegol wedi’u cynnwys (os yn berthnasol)
☐ Y manylion awdur wedi’u cwblhau (cysylltiad, cyswllt)
☐ Y caniatâd wedi’i ganiatáu ar gyfer unrhyw ddeunydd sydd o fewn hawlfraint
☐ Y ffeil llawysgrif mewn ffurf dderbyniol (e.e. dogfen Word)
☐ Y cyflwyniad yn cynnwys unrhyw ffeiliau atodol
☐ Y llythyr cais wedi’i gyfeirio at y tîm golygyddol
☐ Y gwiriad llên-ladrata wedi’i wneud (argymhellir hyn)
Croeso i Nexus Wrecsam, cyfnodolyn ymchwil newydd Prifysgol Wrecsam sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid. Rydym yn gyffrous i gynnig y cyfle i chi gyhoeddi eich gwaith a chyfrannu at ein cymuned academaidd!
Beth Ydym Ni’n ei Gyhoeddi
Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gyfraniadau:
- Erthyglau Ymchwil: Papurau llawn yn cyflwyno gwaith ymchwil gwreiddiol.
- Adroddiadau Ymchwil: Adroddiadau byrrach, wedi’u ffocysu ar ganfyddiadau penodol.
- Nodiadau Ymchwil: Darnau byr ar waith ymchwil camau cynnar neu barhaus.
- Adolygiadau Llyfrau: Adolygiadau beirniadol o lyfrau diweddar sy’n berthnasol i’ch maes.
Pwy Sy’n Gallu Cyflwyno?
- Myfyrwyr cyfredol a staff Prifysgol Wrecsam.
- Rhaid i’ch ymchwil fod wedi cael ei chynnal o dan fantell Prifysgol Wrecsam.
Iaith
- Rhaid i erthyglau gael eu cyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.
- Bydd yr holl bapurau a gyhoeddir yn cynnwys crynodebau yn y ddwy iaith.
Paratoi’r Llawysgrif
Hyd:
- Erthyglau ymchwil: hyd at 6,000 gair (gan gynnwys cyfeiriadau).
- Adroddiadau ymchwil a nodiadau: hyd at 3,000 gair.
- Adolygiadau llyfrau: hyd at 1,000 gair.
Fformat:
- Defnyddiwch iaith eglur, gryno.
- Defnyddiwch fwlch dwbl yn eich llawysgrif.
- Defnyddiwch ffont safonol megis Aptos neu Arial (12 pwynt).
- Rhifwch y tudalennau ar ôl ei gilydd.
- Cynhwyswch deitl, enw(au) awdur, a chysylltiad(au).
- Darparwch grynodeb 150-250 gair yn iaith y cyflwyniad.
Cyfeiriadau:
- Defnyddiwch arddull gyfeirio gyson (e.e. APA, Harvard).
- Rhestrwch yr holl ffynonellau y cyfeirir atynt yn y testun.
Tablau a Ffigyrau:
- Cynhwyswch fel ffeiliau ar wahân neu wedi’u mewnosod yn eglur.
- Darparwch gapsiynau eglur.
Y Broses Gyflwyno
- Cyflwynwch eich llawysgrif fel dogfen Word (.doc neu .docx) dros e-bost at nexus@wrexham.ac.uk.
- Dylech gynnwys llythyr cyflwyno byr gyda’ch cais gan egluro’r math o bapur ydyw a chadarnhau eich bod yn bodloni’r meini prawf.
- Byddwch yn derbyn cadarnhad o’i dderbyn unwaith mae eich cais wedi’i dderbyn.
Adolygiadau Cymheiriaid
- Mae pob cyflwyniad yn mynd drwy broses adolygu gan gymheiriaid.
- Mae adolygwyr yn darparu adborth adeiladol er mwyn gwella eich papur.
- Amser adolygu arferol: hyd at 3 wythnos.
- Mae’n bosib y gofynnir i chi adolygu eich papur cyn ei dderbyn yn derfynol.
Dyddiadau Pwysig
- Dyddiad cau cyflwyno: Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025
- Hysbysiad o ganlyniad yr adolygiad: Dydd Gwener 27 Chwefror 2026
- Penderfyniadau terfynol: Dydd Gwener 3 Ebrill 2026
- Dyddiad cyhoeddi: Dydd Gwener 29 Mai 2026
Cwestiynau?
Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd ar nexus@wrexham.ac.uk. Rydym yma i'ch helpu!