Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol

Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol (UREC) yn gyfrifol am gael manylion ac ystyried yr agweddau moesegol ar brosiectau ymchwil y Brifysgol ble ystyrir bod graddau’r risg foesegol yn fwy na’r risg leiaf bosibl, a ble nad yw’r ymchwil yn dod yn gyfan gwbl o dan gylch gorchwyl corff adolygu arall.

Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod unwaith y mis i adolygu ceisiadau sy'n cael eu hystyried yn fwy na risg isel. Cadeirydd y Pwyllgor Dr Chelsea Batty ac mae'n cynnwys staff academaidd o bob rhan o'r Brifysgol ac aelodau lleyg allanol.

Cyfeiriwch at y dyddiadau cau isod a dyddiadau cyfarfodydd pwyllgor os gallai eich prosiect ymch wil fod o bosibl yn fwy na risg isel.

Siart Llif Cymeradwyo Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Dyddiadau'r Pwyllgor

Dydd Llun 1 Mehefin 2026 Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026
Dydd Llun 6 Gorffennaf 2026 Dydd Mercher 5 Awst 2026
Dydd Llun 3 Awst 2026 Dydd Iau 3 Medi 2026
Dydd Llun 7 Medi 2026 Dydd Iau 7 Hydref 2026
Dydd Llun 5 Hydref 2026 Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2026
Dydd Llun 2 Tachwedd 2026 Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026
Dydd Llun 7 Rhagfyr 2026 Dydd Iau 7 Ionawr 2027
Dydd Llun 4 Ionawr 2027 Dydd Mercher 3 Chwefror 2027
Dydd Llun 1 Chwefror 2027 Dydd Iau 4 Mawrth 2027
Dydd Llun 1 Mawrth 2027 Dydd Mawrth 6 Ebrill 2027
Dydd Llun 5 Ebrill 2027 Dydd Mercher 5 Mai 2027
Dydd Llun 3 Mai 2027 Dydd Mawrth 8 Mehefin 2027
Dydd Llun 7 Mehefin 2027 Dydd Mercher 7 Gorfennaf 2027
Dydd Llun 5 Gorfennaf 2027 Dydd Mercher 4 Awst 2027

 

Cylch Gorchwyl Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol (UREC)

Adolygiad Cyflym

Adolygiad cyflym yw pan fydd cais yn gofyn am adolygiad pwyllgor llawn yn gyflym, dim ond mewn achosion eithriadol y bydd UREC yn caniatáu adolygiad cyflym sydd wedi'i gyfiawnhau'n glir. Gall eithriadau gynnwys gyrwyr allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr ymchwilydd. Rhaid cyflwyno cais am adolygiad cyflym i Gadeirydd y pwyllgor ochr yn ochr â'ch cais i rescadmin@wrexham.ac.uk.

Pwyllgorau Moeseg Ymchwil y Gyfadran

Mae Pwyllgorau Moeseg Ymchwil y Gyfadran yn gyfrifol am gael manylion ac ystyried yr agweddau moesegol ar brosiectau ymchwil y Brifysgol ble ystyrir bod graddau’r risg foesegol gyn ised â phosibl, a ble nad yw’r ymchwil yn dod yn gyfan gwbl o dan gylch gorchwyl corff adolygu arall.

Mae gan y Brifysgol ddau Bwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran. Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yw'r Athro Mandy Robbins, ac  mae Dr Karen Heald yn cadeirio Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae gan y ddau bwyllgor aelodaeth amrywiol o staff academaidd o bob rhan o'r gyfadran.

Caiff ceisiadau a dderbynnir i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran eu hadolygu o bell ac nid oes angen gwrandawiad arnynt mewn cyfarfod pwyllgor ffurfiol.

Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd - frec@Wrexham.ac.uk

Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg- FASTFREC@wrexham.ac.uk

Cylch Gorchwyl Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran (FREC)

Gweithdrefn Apelio

Gall ymchwilydd wneud apêl yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran, neu Brifysgol, sy'n ymwneud â'u cais yn seiliedig ar unrhyw rai o'r amodau canlynol, Os gwrthodir cais , mae'r amodau gofynnol yn annerbyniol i'r ymgeisydd am resymau ymchwil dilys

Gweithdrefn Apelio Moeseg Ymchwil y Brifysgol